Sut i gydymffurfio â’r Safonau Draenio Trefol Cynaliadwy

Safonau Systemau Draenio Cynaliadwy a'r hyn y gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi cyngor arno

Y chwe safon statudol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy fel a ganlyn:

  • Safon S1 – Cyrchfan dŵr wyneb ffo
  • Safon S2 – Rheolaeth hydrolig ar ddŵr wyneb ffo
  • Safon S3 – Ansawdd dŵr
  • Safon S4 – Amwynder
  • Safon S5 – Bioamrywiaeth
  • Safon S6 – Dylunio draenio ar gyfer adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw a chadernid adeileddol

Lawrlwythwch y canllawiau llawn ar y safonau o wefan Llywodraeth Cymru

Mae'r dudalen hon yn rhoi cyngor amlinellol i ddatblygwyr a chyrff cynghori Systemau Draenio Cynaliadwy ar dair o'r safonau ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy: S2 rheolaeth hydrolig, S3 ansawdd dŵr ac S5 bioamrywiaeth. 

Trwyddedau eraill mae'n bosib y bydd eu hangen arnoch

Mae gan rai Systemau Draenio Cynaliadwy botensial i achosi risg amgylcheddol. Er mwyn lliniaru'r risg hon, mae'n bosib y bydd angen i chi gael trwyddedau a chydsyniadau gennym. Dylai'r holl drwyddedau a chydsyniadau fod yn eu lle cyn ymgeisio ar gyfer cymeradwyaeth gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.

Cyfrifoldeb y datblygwr yw cael gwybod a oes angen unrhyw drwyddedau eraill. Os datblygir System Draenio Cynaliadwy heb y trwyddedau angenrheidiol ychwanegol, mae'n bosib y byddwn yn cymryd camau gorfodi.

Os oes unrhyw amheuon gennych, dylech gysylltu â ni i dderbyn cyngor cyn gwneud cais. Gall unrhyw gyngor neu drwyddedau sy’n cael eu rhoi gennym cyn eich bod yn gwneud cais i’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy gael eu defnyddio i gefnogi'ch cais am System Draenio Cynaliadwy.

Gallwch ddod o hyd i'r manylion cyswllt ar gyfer eich tîm cyngor lleol yma 

S2 rheolaeth hydrolig

Gallai cynllun System Draenio Cynaliadwy effeithio ar lefelau a llifoedd dŵr o fewn Ardal Draenio Mewnol.

I gael gwybod a yw’ch datblygiad arfaethedig o fewn neu'n gallu effeithio ar Ardal Draenio Mewnol, lawrlwythwch y map perthnasol:

Ardaloedd Draenio Mewnol Gogledd Cymru

Ardaloedd Draenio Mewnol De Cymru

Mae'n bosib y bydd rhai cynlluniau Systemau Draenio Cynaliadwy sydd y tu allan i Ardal Draenio Mewnol ond sy'n draenio dŵr i'w dalgylch yn effeithio ar lefelau a llifoedd oddi fewn ac felly gallai fod angen cydsyniad neu drwydded arnynt gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'n bosib bydd angen caniatadau eraill ar Systemau Draenio Cynaliadwy:

  • caniatâd draenio tir
  • caniatâd cwrs dŵr cyffredin
  • Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd

Darllenwch fwy am caniatâd draenio tir

Darllenwch fwy am ddatblygu a pherygl llifogydd

Gallwch ddarllen am gyfrifoldebau’r sefydliadau ac awdurdodau amrywiol ym maes llifogydd ar wefan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol 

S3 ansawdd dŵr

Gall Systemau Draenio Cynaliadwy sydd wedi’u cynllunio’n dda helpu i lanhau dŵr wyneb ffo, gan wella a chynnal ansawdd dŵr mewn dalgylchoedd afonydd.

Ystyrir yr egwyddorion canlynol yn arfer da. Bydd dangos eich bod wedi cymryd y camau isod yn cyfrannu at gydymffurfio â Safon S3 o'r safonau statudol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy:

  • Mae holl rannau'r safle wedi cael eu hasesu ar gyfer risg llygredd gan ddefnyddio techneg a dderbynnir, fel y rheini yn y mynegeion risg llygredd yn llawlyfr CIRIA ar Systemau Draenio Cynaliadwy (gellir lawrlwytho hwn am ddim ar ôl cofrestru)
  • Osgowch gymysgu llifoedd o ardaloedd sydd â risgiau llygredd gwahanol cymaint â phosibl. Mae cael is-dalgylchoedd ar eich safle datblygu yn gallu gwneud i gynllun eich System Draenio Cynaliadwy fod yn fwy gwydn i broblemau posib.
  • Ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy gwledig ac amaethyddol, dylai cynlluniau allu dangos i fodlonrwydd y corff sy’n cymeradwyo’r System Draenio Cynaliadwy eu bod yn cwrdd ag egwyddorion perthnasol canllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar Systemau Draenio Cynaliadwy gwledig. Lawrlwythwch ganllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar Systemau Draenio Cynaliadwy gwledig. Os defnyddiwch y canllawiau hyn, sicrhewch eich bod yn dweud wrth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy pa rannau o’r canllawiau rydych yn cyfeirio atynt a pham.
  • Am gynigion sy'n cefnogi gweithgareddau sydd â risg uchel o lygredd – er enghraifft, iardiau cludo, parciau lorïau, safleoedd gwastraff – bydd angen i chi gysylltu â ni i gael cyngor cyn gwneud cais.

Am gynigion datblygu ar safleoedd tir llwyd neu halogedig:

  • Nid yw halogiad tir yn rhwystr o reidrwydd i ymdreiddio a gall cynllun y System Draenio Cynaliadwy gael ei ddatblygu yn aml yn unol â strategaeth adfer y safle.
  • Mae systemau ymdreiddio yn addas ar gyfer safleoedd halogedig lle gall ymdreiddio ddigwydd i ffwrdd o'r ardal halogedig.
  • Pan fo systemau ymdreiddio yn cael eu diystyru oherwydd presenoldeb halogiad, rhaid i chi esbonio'r rheswm dros ddiystyru ymdreiddio. Mae rhesymau dilys ar gael yn y canllawiau i'r safonau (tudalen 9, paragraff G1.8).
  • Nodir y byddwn yn asesu ac yn rhoi cyngor manwl ar addasrwydd unrhyw strategaeth adfer neu driniaeth pan fydd yr awdurdod cynllunio lleol yn ymgynghori â ni yn ystod y cam cais cynllunio.

Cyngor cyn gwneud cais

Rydym yn argymell bod datblygwyr yn cysylltu â ni'n gynnar er mwyn cael cyngor cyn gwneud cais mewn perthynas â chais cynllunio

Gellir dod o hyd i fwy o gyngor am ein rôl yn y system gynllunio a sut i gysylltu â thimau ein Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Datblygu ar ein gwefan

Gwarchod dŵr daear

Mae rhai gweithgareddau yn peri risgiau uchel o lygredd i ddŵr daear. Bydd angen ystyried Parthau Gwarchod Tarddiad Dŵr Daear o amgylch ffynonellau dŵr (sy’n darparu dŵr yfed i bobl yn bennaf) yn ofalus.

Cewch weld map o Barthau Gwarchod Tarddiad Dŵr Daear ar y wefan Lle 

Dylid cynnal asesiad risg dŵr daear os yw'ch safle arfaethedig:

  • mewn Parth Gwarchod Tarddiad Dŵr Daear 1, neu [gwyddor daear]
  • o fewn 50 metr o dwll turio, ffynnon neu darddell a ddefnyddir ar gyfer dŵr yfed (nodir bod timau iechyd cyhoeddus mewn awdurdodau lleol yn cadw gwybodaeth am leoliad cyflenwadau dŵr preifat sy'n gwasanaethu cartrefi unigol) ac
  • yn safle lle ymdreiddio yw un o'r cyrchfannau dŵr ffo a nodir ar gyfer y System Draenio Cynaliadwy ac
  • yn ymwneud â draenio unrhyw beth ar wahân i ddŵr to 'glân' (yr holl ddŵr to sy'n cael ei ddraenio ar wahân i ffynonellau dŵr wyneb eraill ar y safle)

Rhaid i’r asesiad risg werthuso'r holl ffynonellau a llwybrau llygredd a dangos mesurau rheoli digonol i amddiffyn y ffynhonnell ddŵr. Dylech gysylltu â ni hefyd i drafod a oes angen trwydded gweithgarwch dŵr daear arnoch.

Systemau ymdreiddio dwfn

Mae 'technegau dwfn' fel ffosydd cerrig i dyllau turio, sy'n gollwng dŵr yn uniongyrchol i ddyfrhaenau, gan osgoi’r haenau pridd, yn peri risg uchel o lygru dŵr daear.

Nid ydym yn annog technegau dwfn oherwydd y risg uchel hon. Nid ydynt yn cael eu hystyried fel arfer yn dechnegau Systemau Draenio Cynaliadwy oherwydd nad ydynt yn dynwared prosesau naturiol na darparu unrhyw wanhad na thriniaeth ychwanegol.

Dim ond fel dewis olaf y dylech eu hystyried os ydych wedi diystyru (gyda rhesymau a thystiolaeth glir) yr holl fathau eraill o Systemau Draenio Cynaliadwy, fel storio ac ailgyfeirio (er enghraifft, cynaeafu dŵr glaw, toeau gwyrdd, pyllau coed) a nodweddion Systemau Draenio Cynaliadwy bas fel pantiau a gwlyptiroedd.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy am gyngor os ydych yn ystyried defnyddio technegau dwfn. 

Gollwng dŵr i garthffos gyfun

Dylech gysylltu â Dŵr Cymru neu gwmni dŵr Hafren Dyfrdwy pan gynigir gollwng gormodiant llif eich cynllun i garthffos gyfun. Y dewis lleiaf ffafriol o fewn yr hierarchaeth yn Safon S1 yw'r cyrchfan llif hwn, felly rhaid i chi roi rhesymau a thystiolaeth glir yn eich cais am System Draenio Cynaliadwy o ran pam nad yw'ch cynllun yn gallu gollwng i gyrchfannau amgen. 

S5 Bioamrywiaeth

Gall Systemau Draenio Cynaliadwy helpu bioamrywiaeth drwy roi cynefin ychwanegol i gynnal bywyd gwyllt. Pan maent wedi cael eu cynllunio’n dda, gallant gael eu cysylltu â nodweddion tirwedd eraill, ac o ganlyniad gwella mudiad a gwydnwch rhywogaethau.

Mae darparu a mwyafu bioamrywiaeth fel rhan o gyfansoddion System Draenio Cynaliadwy yn ofyniad o fewn y safonau statudol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy.

Cam cynnar allweddol yn y cyfnod o gynllunio prosiect yw ystyried y canlynol yn drylwyr:

  • a allai graddfa (maint) a lleoliad y cynllun arfaethedig ar gyfer System Draenio Cynaliadwy amharu ar lifoedd dŵr glân naturiol i unrhyw wlyptir cyfagos. Gallai hyn fod yn berthnasol i ddatblygiadau mawr, neu mewn achos lle mae cynllun y System Draenio Cynaliadwy yn golygu y gallai dŵr gael ei gyfeirio i ffwrdd o wlyptir.
  • goblygiadau'r System Draenio Cynaliadwy arfaethedig ar y cynefin a rhywogaethau
  • mesurau addas i sicrhau y caiff cynefinoedd a rhywogaethau eu hamddiffyn a, lle bo'n bosib, eu gwella
  • goblygiadau ar rywogaethau a warchodir yn gyfreithiol i sicrhau nad oes effaith negyddol arnynt
  • sut y rheolir y System Draenio Cynaliadwy os bydd rhywogaeth a warchodir yn byw ynddi

Darllenwch wybodaeth bellach ar gyfer datblygwyr wrth ddelio â rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid a warchodir 

Sgrinio ar gyfer derbynyddion sensitif

Cyn gwneud cais i Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer cynllun, rydym yn cynghori bod cynigion yn cael eu sgrinio am effeithiau posib ar dderbynyddion sensitif.

Gwiriwch ein map am safleoedd gwarchodedig, dyfrhaenau a daeareg 

Lle bo'n briodol, gellir dod o hyd i gofnodion o rywogaethau a warchodir yng nghyffiniau cais am System Draenio Cynaliadwy o'r ganolfan cofnodion biolegol lleol berthnasol:

Gall ecolegydd helpu i nodi'r effeithiau y gallai cynllun eu cael ar rywogaethau a chynghori ar fesurau i leihau neu ddileu'r effeithiau hynny.

Darllenwch fwy am gynnal arolwg o rywogaeth a warchodir

Os darganfyddir bod cynllun yn cael effaith ar rywogaeth a warchodir, bydd angen trwydded gennym arnoch yn ôl pob tebyg

Os oes bwriad cynnal gwaith o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), rhaid i chi siarad â ni am gael caniatâd SoDdGA 

Technegau ac arfer da sy'n cyfrannu at gydymffurfio â Safon S5

Rhaid i chi allu dangos bod yr holl drwyddedau perthnasol ar gyfer rhywogaethau a warchodir wedi eu rhoi a bod rhywogaethau neu gynefinoedd cyfredol wedi eu hamddiffyn.

Bydd rhoi esboniad yn y cais i’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy o ble mae canllawiau wedi dod a sut maent wedi cael eu cymhwyso i'r cynllun yn eich helpu gyda'ch cais. Mae canllawiau ar fioamrywiaeth ar gael gan y sefydliadau canlynol:

Lle bo'n bosib, dylai holl gyfansoddion Systemau Draenio Cynaliadwy gael eu cynllunio i fod yn fas, gan osgoi siambrau dwfn, tyllau archwilio, potiau gwter, trapiau gwaddodion ac adeileddau claddedig fel ffosydd cerrig geo-gellog. 

Rhywogaethau o blanhigion

Wrth ystyried pa rywogaethau o blanhigion i'w defnyddio mewn System Draenio Cynaliadwy, dylech wneud y canlynol:

  • Defnyddio planhigion dyfrol a glan yr afon brodorol yn yr holl amgylchiadau lle gallai’r planhigion hynny, rhannau ohonynt neu eu hadau gael eu cario dros ffin y safle (er enghraifft, i mewn i gwrs dŵr).
  • Ond defnyddio planhigion estron mewn adeileddau fel gerddi glaw neu ardaloedd bio-gadw sy'n gwasanaethu adeiladau mewn lleoliadau trefol lle bo trefn glawiad/tymheredd a addaswyd yn debygol, ac i ffwrdd o safleoedd gwarchodedig.
  • Ond defnyddio rhywogaethau o goed brodorol sy'n deillio o’r DU ac sydd wedi'u cadarnhau fel rhai sydd heb glefydau. Gwirio a yw rhywogaeth yn estron ar wefan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr. Noder: gall rhai briwegau (Sedum) sydd ar gael ar y farchnad i'w defnyddio ar doeau gwyrdd fod yn oresgynnol.
  • Dylai cynllun y System Draenio Cynaliadwy ddilyn y tirffurf naturiol sy’n bodoli cyn y datblygiad i gyflawni gwell cysylltedd cynefin a mwyafu cyfleoedd i ddelio ag amodau safle amrywiol (er enghraifft, nodweddion pridd a risg llygredd).
  • Ar gyfer safleoedd unffurf, dylai cyfansoddion System Draenio Cynaliadwy gael eu cynllunio fel bod ganddynt dopograffi ac agwedd amrywiol i roi ystod eang o gynefinoedd arbenigol sy'n cynnal y cyfnodau gwahanol mewn cylchoedd bywyd infertebratau.
  • Ystyried sut bydd eich System Draenio Cynaliadwy yn cysylltu â chynefinoedd y tu allan i'r datblygiad. Gallai eich cynllun ddarparu coridorau mudo gwerthfawr ar gyfer anifeiliaid. Gallai hefyd helpu i wrthdroi darnio neu ddiflaniad cynefinoedd lleol, gan fwyafu bioamrywiaeth felly.
  • Defnyddio planhigion fel cyrs a gweiriau sy’n gallu goddef hydrocarbonau a metelau mewn safleoedd sy'n agos at weithgareddau â risg llygredd uwch (er enghraifft, ail-lenwi â thanwydd).

Canllawiau pellach ar Systemau Draenio Cynaliadwy

Susdrain

https://www.susdrain.org/

Mae Susdrain yn wefan annibynnol ar gyfer y rheini sy'n ymwneud â chyflawni draenio cynaliadwy. Mae'n darparu canllawiau, gwybodaeth ac astudiaethau achos i helpu gyda'r gwaith o gynllunio, dylunio, cymeradwyo, adeiladu a chynnal a chadw Systemau Draenio Cynaliadwy.

Mae cymorth ar gael ar gyfer rheolwyr perygl llifogydd, peirianwyr, cynllunwyr, dylunwyr, penseiri tirwedd a datblygwyr. 

CIRIA

Mae CIRIA yn llunio canllawiau ar adeiladu Systemau Draenio Cynaliadwy a’r llawlyfr ar Systemau Draenio Cynaliadwy, a gall y ddau gael eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim o'i wefan (rhaid cofrestru)

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn llunio:

Canllawiau ar Systemau Draenio Cynaliadwy (lawrlwythiad PDF)

Diweddarwyd ddiwethaf