Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyflenwi datblygiad cynaliadwy trwy weithio'n agos ac yn rhagweithiol gyda'n partneriaid a'n cwsmeriaid i helpu i gyfeirio datblygiad i'r lleoliadau mwyaf priodol. 

Mae awdurdodau cynllunio a datblygwyr yn ymgynghori â ni i gael ein cyngor arbenigol ar effeithiau amgylcheddol tebygol o gynigion datblygu. Rydym hefyd yn cynghori awdurdodau cynllunio lleol sy'n paratoi cynlluniau datblygu. 

Rydym yn ceisio sicrhau bod ein cyngor wedi'i seilio ar dystiolaeth, yn glir, ac yn gyson i helpu cyrff sy'n penderfynu a datblygwyr i wneud penderfyniadau gwybodus yn amgylcheddol. 

Mae ein pynciau ymgynhori yn amlinellu pryd yr ydym eisiau i awdurdodau cynllunio ac ymgeiswyr ymgynghori â ni. 

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i ymgeiswyr ar gael trwy ymweld ag adran Ein gwasanaeth i ddatblygwyr.

Gwiriwch y cyfyngiadau amgylcheddol sy’n berthnasol i’ch datblygiad

Gallwch ddefnyddio data gofodol ‘MapDataCymru’ i wirio rhai o’r cyfyngiadau amgylcheddol ar ein rhestr wirio sy’n berthnasol i’ch datblygiad.

Mae 'MapDataCymru’ yn cyflwyno gwybodaeth ac offer daearyddol gyda ffocws ar Gymru. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu MapDataCymru ar y cyd â phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus.

Gweler y rhestr isod o gyfyngiadau amgylcheddol sydd ar ein rhestr wirio cynllunio datblygu a geir ar MapDataCymru. Pan na fyddant ar gael ar MapDataCymru, rydym wedi cynnwys dolen sy’n arwain at ffynonellau ychwanegol lle y gallwch gael gafael ar ddata a gwybodaeth.

 

Haenau Data Gofodol Lleoliad y Data

Safleoedd tirlenwi hanesyddol

MapDataCymru

Prif afonydd

MapDataCymru

Parthau gwarchod tarddiad

MapDataCymru

Parthau perygl nitradau

MapDataCymru

Safle Adolygu Cadwraeth Ddaearegol

MapDataCymru

Safleoedd gwarchodedig

Ramsar, ACA (gan gynnwys rhai morol), AGA (gan gynnwys rhai morol), SoDdGA, GNC, PCM, AHNE

MapDataCymru

Parciau cenedlaethol

MapDataCymru

Parth llifogydd 2

MapDataCymru

Parth llifogydd 3

MapDataCymru

Amddiffynfeydd rhag llifogydd

MapDataCymru

Parth C1 MCD

Map Cyngor Datblygu

Parth C2 MCD

Map Cyngor Datblygu

Dynodi dyfrhaenau Cymru: daeareg creigwely a dyddodion arwynebol

http://mapapps2.bgs.ac.uk/geoindex/home.html?topic=Hydrogeology%20Wales

 

Perygl i ddŵr daear Cymru: daeareg creigwely a dyddodion arwynebol

http://mapapps2.bgs.ac.uk/geoindex/home.html?topic=Hydrogeology%20Wales

 

Prif garthffosydd

Ar gael ar gais trwy gysylltu â Dŵr Cymru

 

Rhywogaethau a warchodir gan Ewrop

https://nbnatlas.org/

https://www.cofnod.org.uk/Home

Cyflwyno'ch ymgynghoriadau i ni

Gallwch gyflwyno eich hymgynghoriadau cynllunio i un o'n timau cyngor cynllunio datblygiad. Mae eu manylion cyswllt i'w cael yma

Ein hymatebion i ymgynghoriadau

Gallwch weld copïau o'n hymatebion i ymgynghoriadau llywodraeth a rhai cyhoeddus eraill yn ein hymatebion i ymgynghoriadau.

Gweler hefyd: 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf