Rhif. 2 o 2023: Diogelwch morol ym Mwrdd Gwarchod Dyfrdwy a gofynion statudol ar adrodd damweiniau ac anafiadau difrifol
Trwy hyn atgoffir llongwyr fod Rheoliadau Llongau Masnach (Adrodd ac Ymchwilio i Ddamweiniau) 2005 wedi cyflwyno gofynion statudol i roi gwybod am ddamweiniau i longau, llongau pysgota, cychod a llongau hamdden a llongau a chychod eraill mewn rhai amgylchiadau, fel y'u diffinnir, boed hynny ar y môr neu mewn porthladd neu harbwr. Dylai pobl sy'n gyfrifol am longau ym Mwrdd Gwarchod Dyfrdwy sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'r gofynion statudol i gofnodi damweiniau sy'n berthnasol i'w llong ac yn cydymffurfio â hwy. Cyfeirir at y gofynion adrodd statudol yn fras yn yr e-lyfryn o'r enw 'Diogelwch Morol ym Mwrdd Gwarchod Dyfrdwy' a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sydd ar gael ar-lein ar dudalennau Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy gwefan CNC.
Mae gwybodaeth ddefnyddiol, canllawiau, a ffurflenni adrodd i’w cael gan Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) ar-lein fel a ganlyn:
https://www.gov.uk/government/publications/report-a-marine-accident
Mae'r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Gwarchod Dyfrdwy roi gwybod am unrhyw ddamwain neu anaf difrifol y mae'n ymwybodol ohono, sy'n digwydd o fewn neu gerllaw terfynau ei awdurdodaeth. Mae hyn yn ymestyn o Wilcox Point i lawr yr afon o'r gored yng Nghaer, tua'r môr hyd at linell ddychmygol sy'n cysylltu’r Parlwr Du ar arfordir Cymru â Hilbre Point ar benrhyn Cilgwri. Er mwyn hwyluso adroddiadau o'r fath, dylai unrhyw berson sy'n gyfrifol am long/cwch ym Mwrdd Gwarchod Dyfrdwy sy'n cyflwyno adroddiad i Brif Arolygydd MAIB yn unol â gofynion y Rheoliadau hefyd roi manylion i Harbwr Feistr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn y cyfeiriad a ddangosir isod, drwy ddefnyddio’r dulliau cyflymaf sydd ar gael. Yn ogystal â'r gofynion adrodd statudol, anogir defnyddwyr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy hefyd i roi gwybod yn wirfoddol am ddigwyddiadau peryglus eraill neu sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus, lle gallai niwed fod wedi digwydd i bobl neu ddifrod fod wedi digwydd i eiddo neu i'r amgylchedd. Dylid cyflwyno'r adroddiadau hyn yn ysgrifenedig i Harbwr Feistr Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy.
Capten G PROCTOR
Harbwr Feistr
4 Ionawr 2023
d/o Strategic Marine Services Ltd.
12 Chapel Court, Wervin Road, Wervin, Chester. CH2 4BP
Ffôn: +44 (0) 1244 371428
E-bost: harbourmaster@deeconservancy.org
Rhif ffôn digwyddiadau: 0300 065 3000 (gwasanaeth 24 awr y dydd am ddim)
Floodline: 0345 988 1188 (gwasanaeth 24 awr y dydd)