Parth Diogelu Dŵr Afon Dyfrdwy

Cyflwyniad

Mae dalgylch Afon Dyfrdwy o Eryri i'r gored yng Nghaer wedi'i ddynodi o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 fel Parth Diogelu Dŵr.

Golyga hyn fod angen caniatâd pan gaiff sylweddau penodol eu defnyddio neu eu storio ar safleoedd penodol unrhyw le o fewn y rhan hon o ogledd-ddwyrain Cymru.

Mae'n helpu i atal dŵr rhag cael ei lygru gan weithgareddau na ellir eu rheoli gan ddefnyddio trwyddedau eraill.

Bydd y siart lif a'r wybodaeth isod, a'r nodyn cyfarwyddyd (hyperlink), yn dweud wrthych os oes angen i chi wneud cais am ganiatâd.

Defnyddiwch y ffurflen gais  ar y dudalen hon i wneud cais am ganiatâd.

Gallwch weld map manylach o’r parth yma ym MapDataCymru.

Pa fath o safle sydd angen caniatâd?

Mae angen caniatâd arnoch i gynnal 'gweithgarwch dan reolaeth' ym Mharth Diogelu Dŵr Afon Dyfrdwy. Mae'r gorchymyn yn diffinio gweithgarwch dan reolaeth fel cadw neu ddefnyddio sylwedd dan reolaeth o fewn safle rheoli dalgylch.

Mae'r gorchymyn yn berthnasol i'r mathau canlynol o safleoedd (a elwir yn "safleoedd rheoli dalgylch"):

  • safleoedd diwydiannol
  • safleoedd ymchwil a datblygiad
  • safleoedd a ddefnyddir fel canolfan storio neu ddosbarthu
  • safleoedd a ddefnyddir i storio neu drin dŵr, dŵr wyneb, elifion masnach neu garthffosiaeth o gartrefi

Pa fath o safle a gaiff ei eithrio?

Nid yw'r gorchymyn yn berthnasol i'r mathau canlynol o safleoedd:

  • adeiladau manwerthu (unrhyw adeilad a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu gan amlaf i werthu nwyddau i'r cyhoedd)
  • safleoedd o fewn uned amaethyddol, fel y'i diffinnir yn Neddf Amaethyddiaeth 1947
  • safleoedd adeiladu (tir ar ben, dros neu o dan adeilad sy'n cael ei adeiladu neu waith peirianneg sifil arall sy'n cael ei wneud)

Mae'n bosibl na fydd y gorchymyn yn berthnasol chwaith i rai safleoedd lle y mae'r gweithgareddau wedi'u hawdurdodi eisoes o dan gyfreithiau eraill (er enghraifft, Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010 ac unrhyw ddiwygiadau i'r rhain). Os nad ydych yn siŵr a yw'r gorchymyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â Swyddog Caniatâd Parth Diogelu Dŵr Afon Dyfrdwy.

Pa 'sylweddau dan reolaeth' sydd angen caniatâd?

Sylwedd dan reolaeth yw unrhyw sylwedd (boed hwnnw'n naturiol neu'n artiffisial, yn soled neu'n hylif) sy'n syrthio i mewn i unrhyw un o'r categorïau canlynol. 

Solidau Hylifau

Sylweddau peryglus

Sylweddau peryglus

Cynhyrchion meddyginiaethol

Cynhyrchion meddyginiaethol

Cynhyrchion cosmetig

Cynhyrchion cosmetig

Sylweddau gwenwynig

Sylweddau gwenwynig

Sylweddau cyrydol

Sylweddau cyrydol

Sylweddau niweidiol

Sylweddau niweidiol

Sylweddau llidus

Sylweddau llidus

Gwrtaith anorganig

Gwrtaith hylif

 

Bwyd neu sylweddau bwydo hylif

 

Tanwydd na chaiff ei ddefnyddio er mwyn darparu gwres ac ynni yn unig

 

Toddyddion

 

Gwirod diwydiannol

 

Ireidiau

Ar gyfer faint o sylwedd y mae angen caniatâd?

Mae angen i chi wneud cais am ganiatâd os ydych yn defnyddio neu'n storio'r meintiau canlynol o sylweddau o fewn y Parth Diogelu Dŵr:

  • 500 litr neu fwy o fwyd neu sylweddau bwydo hylif;
  • 50 litr neu fwy o unrhyw sylwedd arall dan reolaeth mewn un cynhwysydd; neu
  • 200 litr neu fwy o unrhyw sylwedd arall dan reolaeth 

Sylweddau nad ydynt dan reolaeth

  • bwyd a sylweddau bwydo soled
  • sylweddau sy'n nwyon neu'n anweddau o dan amodau arferol
  • tanwydd a ddefnyddir er mwyn darparu gwres ac ynni yn unig
  • sylweddau sydd ar safle am 24 awr ar y mwyaf tra eu bod yn cael eu cludo o un lle i'r llall
  • sylweddau mewn piblinell nad yw â mewnfa nac allanfa ar y safle
  • gwastraff ymbelydrol fel y'i diffinnir yn Atodlen 23 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010
  • unrhyw soled arall na ddiffinnir fel sylwedd dan reolaeth o dan y gorchymyn

Siart lif 

Siart Llif

Cysylltu â ni

Os nad ydych yn siŵr o hyd a oes angen caniatâd arnoch, cysylltwch â ni trwy ffonio 0300 065 3000 a gofyn i siarad â Swyddog Caniatâd Parth Diogelu Dŵr Afon Dyfrdwy, neu anfonwch e-bost at enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Sut ydw i'n gwneud cais am ganiatâd?

Gallwch lawrlwytho'r ffurflenni cais a'r nodiadau cyfarwyddyd ar waelod y dudalen hon.

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd yn ofalus a gwnewch yn siŵr bod gennych chi'r holl ddogfennau ategol sydd eu hangen i'w hanfon gyda'r ffurflen gais, gan gynnwys:

  • Map sy'n dangos y system ddraenio ar ffin y safle wedi'i hamlinellu'n goch
  • Cynllun sy'n dangos y system ddraenio ar y safle a lleoliad y sylweddau ar y safle
  • Taflenni Data Diogelwch Deunyddiau (MSDS) ar sylweddau dan reolaeth a gedwir ar y safle
  • Disgrifiad o'r gweithrediadau ar y safle
  • Disgrifiad o'ch gweithdrefnau mewn argyfwng
  • Llythyr sy'n egluro pam eich bod am gadw gwybodaeth benodol yn gyfrinachol, os yw hyn yn berthnasol

Syniadau ac awgrymiadau

Mae cyfarwyddyd ychwanegol ar gael i'ch helpu chi gyda rhai o'r dogfennau ategol:

  • Lle i gael taflenni data MSDS

Dylai cyflenwr neu wneuthurwr y cynhyrchion yr ydych yn eu storio ar y safle allu rhoi Taflenni Data Diogelwch Deunyddiau manwl i chi.

  • Arweiniad ar atal llygredd, cynlluniau draeniau a chynllun argyfwng

Mae gan wefan NetRegs gopïau y gellir eu lawrlwytho o'r Nodiadau Cyfarwyddyd ar Atal Llygredd a Chanllawiau i Atal Llygredd (PPG) diwygiedig i'ch helpu chi.

Diweddarwyd ddiwethaf