Datganiadau trwydded forol

Gwneud y datganiad fel deiliad y drwydded

Darpar ddeiliad y drwydded ddylai wneud y datganiad. Dyma'r person a fyddai'n cael ei enwi ar y drwydded forol.

Gwneud cais fel sefydliad neu gorff cyhoeddus

Rhaid i'r person sy'n llofnodi'r datganiad fod ag awdurdod i lofnodi ar ran y sefydliad — er enghraifft, cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd cwmni.

Gwneud cais fel unigolyn

Rhaid i'r unigolyn sy'n gwneud cais i'w enw ymddangos ar y drwydded gwblhau'r datganiad.

Gwneud y datganiad ar ran deiliad y drwydded

Os ydych yn llenwi'r ffurflen fel asiant, contractwr, gweithiwr neu rôl arall, ond nad chi fyddai’r deiliad a enwir ar y drwydded, mae angen i chi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig gan y person hwnnw.

Dylai hwn fod yn e-bost gan ddefnyddio'r testun isod, gan gadarnhau bod gennych yr awdurdod i lenwi'r datganiad ar eu rhan.

Bydd angen i chi uwchlwytho hyn wrth lenwi adran ddatgan y ffurflen gais.

Geiriad ar gyfer datganiadau e-bost

Mae darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, neu fethu â datgelu rhywbeth pwysig, yn drosedd o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Gallai arwain at dynnu'r drwydded yn ôl, a/neu ddirwy.

Rwy'n cadarnhau, hyd eithaf fy ngwybodaeth a'm cred, bod y wybodaeth a ddarperir yn wir ac yn gyflawn.

Rwy'n cadarnhau bod [enw] wedi'i awdurdodi i wneud y datganiad hwn ar fy rhan.

Teitl

Enw cyntaf

Cyfenw

Dyddiad

Diweddarwyd ddiwethaf