Ceisiadau am drwyddedau morol Chwefror 2021
Isod, ceir rhestrau o geisiadau a gyflwynwyd a cheisiadau y penderfynwyd arnynt gan y Tîm Trwyddedu Morol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r ceisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd, cysylltwch: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yn y rhan fwyaf o achosion gofynnir i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i adeilad cyhoeddus lle bydd rhaid i’r ymgeisydd drefnu fod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i’r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt anfon unrhyw sylwadau cysylltiedig â’r cais inni. Yn ystod y cyfnod hwn o hysbysu’r cyhoedd gellir gwneud cais am ddogfennau ac anfon sylwadau i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Hefyd, byddwch yn gallu dod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â cheisiadau yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd ac sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) neu sy’n cael eu hystyried o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol.
Ceisiadau am Drwyddedau Morol a Dderbyniwyd
| Rhif y Drwydded | Enw Ymgeisydd | Lleoliad y Safle | Math o Gais | 
|---|---|---|---|
| 
 SC2104  | 
 Newport Norse Ltd  | 
 Canolfan Ymwelwyr Pont Cludiant Casnewydd ac Adfer Pontydd  | 
 Sgrinio  | 
| 
 SC2103  | 
 Cyngor Caerdydd  | 
 Cynllun Amddiffyn Arfordir Caerdydd  | 
 Cwmpasu  | 
| 
 CML2108  | 
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  | 
 Cynllun Amddiffyn Arfordirol a Theithio Gweithredol Old Colwyn  | 
 Band 2  | 
| 
 SC2102  | 
 Blue Gem Wind Ltd  | 
 Project Valorous  | 
 Cwmpasu  | 
| 
 SC2101  | 
 Cyngor Sir Dinbych  | 
 Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl Ganolog  | 
 Cwmpasu  | 
| 
 SP2103  | 
 Clwb Mordeithio a Hwylio Monkstone  | 
 Monkstone Marina  | 
 Cais Cynllun Sampl  | 
Ceisiadau Trwyddedau Morol a Benderfynwyd arnynt
| Rhif y Drwydded | Enw Deilydd y Drwydded | Lleoliad y Safle | Math o Gais | Penderfyniad | 
|---|---|---|---|---|
| 
 CML1929  | 
 Greenlink Interconnector Ltd  | 
 Cydgysylltydd Greenlink  | 
 Band 3  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 SP2101  | 
 Cyngor Sir Ceredigion  | 
 Harbwr Aberaeron  | 
 Cais Cynllun Sampl  | 
 Cyhoeddwyd  |