Ceisiadau am drwyddedau morol Ionawr 2021
Isod, ceir rhestrau o geisiadau a gyflwynwyd a cheisiadau y penderfynwyd arnynt gan y Tîm Trwyddedu Morol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r ceisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd, cysylltwch:
permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yn y rhan fwyaf o achosion gofynnir i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i adeilad cyhoeddus lle bydd rhaid i’r ymgeisydd drefnu fod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i’r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt anfon unrhyw sylwadau cysylltiedig â’r cais inni. Yn ystod y cyfnod hwn o hysbysu’r cyhoedd gellir gwneud cais am ddogfennau ac anfon sylwadau i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Hefyd, byddwch yn gallu dod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â cheisiadau yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd ac sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) neu sy’n cael eu hystyried o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol.
Ceisiadau am Drwyddedau Morol a Dderbyniwyd
Rhif y Drwydded | Enw Ymgeisydd | Lleoliad y Safle | Math o Gais |
---|---|---|---|
CML2106 |
Dyer and Butler Ltd |
Amnewid Fflap Llanw Sudbrook |
Band 1 |
CML2107 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
Ail-broffilio Traeth Bae Colwyn |
Band 1 |
CML2104 |
Net |
n/a |
Band 2 |
CML2105 |
Puma Energy (UK) Limited |
Cynnal a Chadw Jetty Ynni Puma |
Band 1 |
CML2104 |
Network Rail |
Atgyweirio Traphont Kidwelly |
Band 2 |
CML2103 |
Amalgamated Construction Ltd |
MWC0823S – Loughor Viaduct |
Band 1 |
SP2102 |
Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau |
Carthu cynnal a chadw Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau 2016 i 2021 |
Cais Cynllun Sampl |
CML2102 |
M & J Cosgrove Construction Ltd |
Ailddatblygiad St. Cuthberts |
Band 2 |
RML2101 |
Prifysgol Bangor / Llywodraeth Cymru |
Llywodraeth Cymru - Cynllunio Parth Cadwraeth Forol |
Band 1 |
RML2101 |
Prifysgol Bangor |
Samplau Cydio Gwaddodion i gasglu data ar ddosbarthiad, maint a chyflwr cynefinoedd gwely'r môr ar safle oddi ar dde-orllewin Cymru i lywio cynllunio Parth Cadwraeth Forol Llywodraeth Cymru. |
Band 1 |
SP2101 |
Cyngor Sir Ceredigion |
Harbwr Aberaeron |
Cais Cynllun Sampl |
Ceisiadau Trwyddedau Morol a Benderfynwyd arnynt
Rhif y Drwydded | Enw Deilydd y Drwydded | Lleoliad y Safle | Math o Gais | Penderfyniad |
---|---|---|---|---|
SP2102 |
Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau |
Carthu cynnal a chadw Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau 2016 i 2021 |
Cais Cynllun Sampl |
Cyhoeddwyd |