Royal St. David’s Golf Club Limited - Tynnu Dŵr yn Llawn / Tynnu a Chronni Dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Royal St. David’s Golf Club Limited am drwydded lawn i dynnu dŵr o strata tanddaearol yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SH 57723 30838 yn Harlech, Gwynedd.
Y cynnig yw tynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol i’w ddefnyddio i ddyfrhau drwy chwistrellu: 5.83 metr ciwbig yr awr, 139.92 metr ciwbig y dydd ac 17,350.08 metr ciwbig y flwyddyn, rhwng 01 Chwefror a 30 Tachwedd, gan gynnwys y dyddiau hynny, ym mhob blwyddyn.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-030495 wrth:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
neu drwy e-bost i: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 11/02/2026 fan bellaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).