Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Mannau o ddiddordeb hanesyddol a Harddwch naturiol - Afon Gorsen
Amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr a Thrwydded cronni dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Mannau o ddiddordeb hanesyddol a Harddwch naturiol am adnewyddiad ar delerau gwahanol ar gyfer trwydded lawn i dynnu dŵr, rhif cyfresol WA/065/0004/001, sy’n awdurdodi tynnu dŵr o afon Gorsen yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SH 62247 50915. Mae’r adnewyddiad ar delerau gwahanol y gwneir cais amdano ar gyfer adolygu’r lluniau technegol sydd wedi’u hatodi i’r drwydded.
Gwneir cais hefyd i amrywio trwydded i gronni dŵr, rhif cyfresol WA/065/0004/008, i rwystro neu atal llif afon Gorsen yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SH 62247 50915. Mae’r croniad yn gored gyfredol syn rheoli’r gwaith tynnu dŵr. Diben yr amrywiad y gwneir cais amdano yw adolygu’r lluniadau technegol sydd wedi’u hatodi at y drwydded.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os hoffech ofyn am gopi o’r cais neu wneud sylwadau arno, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-028620 & PAN-028621 wrth:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 21/07/2025 fan bellaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 065 3000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).