MSFT MCIO Ltd - Campws Casnewydd, Parc Busnes Imperial, Celtic Way, Dyffryn, Casnewydd, NP10 8BE

Hysbysiad penderfyniad drafft: Campws Casnewydd

Rhif y cais: PAN-026552

Math o gyfleuster rheoledig: Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, Atodlen 1 Gweithfa - Adran 1.1: Gweithgareddau hylosgi - Rhan A (1)(a) Llosgi unrhyw danwydd mewn cyfarpar gyda mewnbwn thermol o 50 megawatt neu fwy.

Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Campws Casnewydd, Parc Busnes Imperial, Celtic Way, Dyffryn, Casnewydd, NP10 8BE

Mae hwn yn gais am weithfa pwrpasol n ewydd sy'n caniatáu gweithredu peiriannau tanwydd diesel at ddibenion darparu cyflenwad pŵer brys i'r Newport Campus yn ystod cyfnodau o doriad pŵer mawr neu fethiant y Grid Cenedlaethol.

Rydym yn bwriadu rhoi’r drwydded.  Byddwn yn rhoi trwydded yn unig os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi ac os oes gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau’r drwydded. Bydd unrhyw drwydded y byddwn yn ei rhoi yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd dynol a’r amgylchedd.

Gwybodaeth a osodwyd ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer ymgynghori:

  • Trwydded ddrafft
  • Dogfen penderfyniad drafft

Gallwch weld y drwydded ddrafft a’r ddogfen penderfyniad drafft yn rhad ac am ddim, ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch wneud cais am gopi o’r wybodaeth gennym ni. Gallai hyn gymryd amser i’w brosesu a gall y byddwn yn codi ffi arnoch.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 28 Ionawr 2026.

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:
Arweinydd Tîm Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol a Gweithfeydd
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Diweddarwyd ddiwethaf