Ceisiadau am drwydded adar: cyfrif adar sy'n bwyta pysgod mewn pysgodfa pysgod bras neu frithyllod

Rhaid i chi roi gwybod i ni am nifer yr adar y byddwch chi wedi cyfrif yn y bysgodfa pan fyddwch chi’n gwneud cais am drwydded i reoli adar sy’n bwyta pysgod er mwyn atal difrod difrifol.

Cofnodi'r cyfrif

Rhaid i chi gyfrif adar rhwng mis Hydref a mis Chwefror a chofnodi'r manylion canlynol.

  • Dyddiad y cyfrif
  • Yr amser y gwnaethoch chi ddechrau’r cyfrif
  • Rhywogaeth yr aderyn (nodwch ‘0’ os na welwyd unrhyw rai)
  • Niferoedd pob rhywogaeth
  • Beth oedd pob rhywogaeth yn ei wneud (hedfan, bwydo neu glwydo)

Byddwn yn gofyn i chi nodi'r wybodaeth hon yn eich ffurflen gais.

Pysgodfeydd dŵr llonydd o dan 10 hectar

  • Cynhwyswch fanylion ynghylch o leiaf ddeg ymweliad â safleoedd dŵr llonydd, wedi’u dyddio o leiaf dri diwrnod ar wahân.
  • Rhaid i chi ymweld â’r un safle ar wahanol ddiwrnodau, ar wahanol adegau o'r dydd.

Pysgodfeydd dŵr llonydd dros 10 hectar

  • Cynhwyswch fanylion ynghylch o leiaf un ymweliad â’r bysgodfa

Pysgodfeydd bras neu frithyll ar rannau o afonydd

  • Nodwch fanylion o leiaf un ymweliad â'r afon. Mae cynnal mwy nag un cyfrifiad yn rhoi data gwell inni.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf