Rheoli adar sy'n bwyta pysgod mewn pysgodfa pysgod bras neu frithyllod
Gall adar sy'n bwyta pysgod achosi niwed difrifol i bysgodfeydd bras neu frithyll weithiau, er enghraifft:
- difrod i stoc
- gwerthu llai o docynnau
- colli incwm
Defnyddio dulliau dychryn nad ydynt yn farwol
Gallwch chi reoli’r problemau hyn drwy ddefnyddio dulliau dychryn nad ydynt yn farwol megis:
- presenoldeb gweledol pobl/cŵn
- dynion/merched pren neu fwganod brain
- modelau o adar ysglyfaethus neu fodelau sy’n edrych fel cyrff adar
- barcutiaid neu falwnau heliwm
- goleuadau sy'n fflachio neu laserau
- awyrennau model neu ddronau a reolir gan radio
- dyfeisiau disglair (er enghraifft, drychau, adlewyrchyddion neu dâp adlewyrchol)
- baneri, carpiau, rhubanau neu felinau gwynt
- goleuadau sy'n fflachio neu laserau
- llifynnau, lliwyddion a chymylogrwydd
- canonau nwy
- saethu drylliau i ddychryn gan ddefnyddio bwledi gwag
- bioacwsteg (galwadau ysglyfaethwyr neu ofid/larwm)
- rhwydi
- rhaffau a gwifrau
- dileu argaeledd safleoedd clwydo
Gwneud cais am drwydded
Weithiau gallwn roi trwyddedau ar gyfer rheolaeth farwol i gefnogi dulliau nad ydynt yn farwol. Rhaid eich bod wedi rhoi cynnig ar ddulliau nad ydynt yn farwol a rhaid eu bod wedi cael effaith gyfyngedig neu ddim effaith o gwbl.
Gwybodaeth y mae'n rhaid i chi ei darparu yn eich cais
- Enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn yr ymgeisydd
- Enw, cyfeiriad achyfeirnod grid deg digid y bysgodfa
- Map o’r bysgodfa
- Eich rhesymau dros wneud cais am drwydded
- Eich cyfrif adar mulfrain a hwyaid danheddog
- Tystiolaeth o ddifrod difrifol i'r bysgodfa dŵr llonydd – er enghraifft:
- colli incwm
- manylion y colledion a gofnodwyd
- cofnodion dal
- adroddiadau ynghylch difrod oherwydd adar
- costau amnewid stoc
- colledion tocynnau neu aelodaeth
- Pa ddulliau nad ydynt yn farwol a ddefnyddiwyd gennych:
- a phan wnaethoch chi eu defnyddio nhw
- a pha mor effeithiol oedden nhw
- a pham na wnaethoch chi ddefnyddio dulliau eraill nad ydynt yn farwol
Pa mor hir mae'n ei gymryd
Byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl i gais cyflawn ddod i law.
Faint fydd yn ei gostio
Nid ydym yn codi tâl am y math hwn o gais am drwydded.
Dechreuwch eich cais
Dim ond rhwng, ac yn cynnwys, 1 Hydref a 17 Mawrth y gallwn gyhoeddi trwyddedau.
Diweddarwyd ddiwethaf