Cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr

Mae ein strategaethau trwyddedu tynnu dŵr yn nodi sut rydym yn trwyddedu tyniadau dŵr ar raddfa dalgylch.  Rydym yn defnyddio'r system drwyddedu a'r strategaethau hyn i sicrhau nad yw tyniadau dŵr o'n hafonydd yn achosi i lif ddisgyn yn is na'n Dangosyddion Llif Amgylcheddol. Mae Dangosyddion Llif Amgylcheddol yn disgrifio swm y dŵr y mae'n rhaid ei gadw mewn system afon i ddiogelu’r ecoleg.

Mae'r rhan fwyaf o dyniadau dŵr ar gyfer cynhyrchu ynni dŵr yng Nghymru ar gyfer cynlluniau cwymp mawr yn yr afon ac, yn sgil hyn, ceir hyd o afon lle mae’r llif wedi'i leihau rhwng y man tynnu dŵr a'r man gollwng. Dywedir bod tyniadau dŵr fel hyn sy'n tynnu dŵr o afon neu nant ac yna'n ei ddychwelyd heb golled ar bwynt i lawr yr afon yn anwastraffus. Am y rhain, rydym yn defnyddio safonau diogelu llif sydd ychydig yn wahanol i'r Dangosyddion Llif Amgylcheddol er mwyn rhoi ystyriaeth i natur ddiwastraff y gwaith tynnu dŵr ac, yn y rhan fwyaf o achosion, hyd bach yr afon sydd â llif is.

Mae trwyddedau tynnu dŵr yn cynnwys amodau sy'n nodi manylion pryd a sut y gall dŵr gael ei dynnu o afon neu nant, fel bod digon o ddŵr yn parhau yn yr hyd â llai o lif i ddiogelu ecoleg, tirwedd, gweithgareddau hamdden ac amwynder y glannau a’r afon.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi dyletswydd arnom i gynnal a gwella bioamrywiaeth ac i hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau yng Nghymru. Mae ein dull trwyddedu tyniadau dŵr ar gyfer ynni dŵr yn cydnabod hydroleg fel y brif elfen newidiol, gan alluogi strwythur a swyddogaeth ddilys ecosystemau afonol. Mae'n seiliedig ar gyfyngu diwygiadau hydrolegol i ddiogelu ecosystem yr afon gyfan yn hytrach na bod yn benodol wrth ddiogelu rhywogaethau targed.

Mae gan ein dull o osod cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr lle mae hyd sydd â llif is dair egwyddor allweddol. Dyma'r rhain:

  1. diogelu ecoleg hydoedd sydd â llif is drwy geisio dyblygu nodweddion y drefn llif naturiol
  2. cynnal cysylltedd hydrolegol a’r cysylltedd rhwng ecosystemau
  3. rheoli effaith ofodol cynlluniau ar ecosystem ehangach yr afon yn ôl maint a graddiant y nant a lleoliad y nant honno o fewn dalgylch afon

Pan fydd cynllun ynni dŵr arfaethedig yn peri risg bosibl o effeithio’n niweidiol ar nodweddion sy'n sensitif i lif safle cadwraeth dynodedig, rhywogaethau a warchodir, cynefin cynhaliol neu ardal silio eogiaid, yna gall y cais gael ei wrthod neu gellir cyflwyno rhagor o gyfyngiadau ar y gwaith tynnu dŵr.

Fel rheol, mae datblygiadau ynni dŵr mewn nentydd ac afonydd mewn rhan is o ddalgylch yn peri risg uwch o aflonyddu ar gysylltedd ecosystemau ac o gael effaith ofodol fwy na chynlluniau mewn safleoedd blaendyfroedd. Fodd bynnag, gall ecoleg nentydd blaendyfroedd ddal i fod yn sensitif i newidiadau mewn llif.

Mae'r angen i gynnal cysylltedd ecosystemau yn arbennig o bwysig i ddiogelu salmonidau mudol y mae angen iddynt gael mynediad ar hyd afonydd mewn rhannau is o ddalgylch i gyrraedd isafonydd silio a meithrin yn rhannau uchaf dalgylchoedd. Felly, nid ydym yn ffafrio datblygiadau mewn safleoedd a allai effeithio ar fudo a silio salmonidau.

Gosod cyfraddau tynnu dŵr i ddiogelu'r amgylchedd

Fel arfer, bydd angen i dyniadau dŵr ar gyfer ynni dŵr sy'n creu hyd â llif is ddiogelu tair nodwedd allweddol trefnau llif naturiol. Dyma'r rhain:

Diogelu llif isel

Fel arfer, disgrifir y gyfradd llif lle dylai tynnu dŵr ddod i ben wrth i'r llif ostwng fel 'llif annibynnol'. Dyma drothwy gweithredol a osodir i sicrhau y bydd llifoedd afon isel yn cael eu diogelu rhag tynnu dŵr bob amser. Mae'n sicrhau bod 'llif isel gwarchodedig' yn cael ei gadw yn yr hyd â llif is i gefnogi ecoleg yn yr afon. Bydd yr holl drwyddedau tynnu dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr yn nodi llif annibynnol. Fel arfer, mae'r gyfradd llif isel gwarchodedig gyfwerth â llif haf isel ac fe'i gelwir yn llif Q95 wrth ei ddisgrifio fel ystadegyn hyd llif. Gall fod achosion lle bydd angen diogelu cyfradd llif uwch oherwydd sensitifrwydd amgylcheddol yr hyd â llif is.

Diogelu amrywioldeb llif

Fel arfer, bydd angen i dyniad dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr alluogi i gyfran o'r llif naturiol fynd heibio i’r mewnlif i barhau i lawr yr afon er mwyn efelychu amrywioldeb llif naturiol yr afon yn yr hyd â llif is. Mae'r llif hwn yn gyfran o gyfanswm y llif yn yr amrediad rhwng y llif annibynnol a'r gyfradd tynnu dŵr uchaf. Gelwir y gyfran a dynnir yn 'ganran y cymeriant (% y cymeriant)’.

Mae'n bwysig cadw patrymau naturiol llif afon yn hyd yr afon sydd wedi'i leihau. Mae amrywioldeb llif yn yr amrediad canol ac isel yn gorlifo cynefinoedd ymylol ac yn darparu ysgogiad camau cylchred bywyd ar gyfer amrywiaeth o fflora a ffawna yn ogystal â helpu i gefnogi prosesau geomorffegol naturiol i lawr yr afon.

Diogelu llif uchel

Caiff uchafswm cyfradd tynnu dŵr lle nad oes modd tynnu llif ychwanegol sydd yn uwch ei osod. Fel arfer, mynegir y gyfradd hon fel cyfran o'r llif cymedr (Qmean). Mae meddu ar uchafswm cyfradd tynnu dŵr yn sicrhau bod cyfraddau llif uchel sy’n angenrheidiol ar gyfer prosesau geomorffegol yn y sianel yn digwydd yn hyd yr afon sydd wedi'i leihau.

Parthau tynnu dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr

Lle mae cynllun ynni dŵr arfaethedig 'ar gored' yna gall y cyfraddau tynnu dŵr cychwynnol ar gyfer cynlluniau heb hyd o afon â llif is fod yn gymwys (gweler Tabl 1).

Lle bydd cynllun yn golygu hyd â llif is, defnyddir nodweddion safle syml i ddosbarthu ei leoliad i un o dri pharth er mwyn penderfynu ar y cyfraddau tynnu dŵr cychwynnol.

Dyma'r parthau:

Parth 1: lle gall cynllun arfaethedig effeithio ar safleoedd dynodedig ar gyfer cadwraeth natur, cynefinoedd cynhaliol, rhywogaethau gwarchodedig penodol neu ardaloedd silio eogiaid (Tabl 2).

Parth 2: lle nad yw cynllun arfaethedig ym Mharth 1 ond yn afon neu nant lle mae graddiant sianel yr hyd o afon â llif is yn llai na 10% (<10%) ar gyfartaledd (Tabl 3).

Parth 3: lle nad yw cynllun arfaethedig ym Mharth 1 ond yn afon neu nant lle mae graddiant sianel yr hyd o afon â llif is yn 10% neu'n fwy (=>10%) ar gyfartaledd (Tabl 4).

Graddiant gwely'r sianel

Rydym yn defnyddio graddiant gwely sianel cyfartalog yr hyd o afon â llif is fel mesur syml i ddisgrifio lleoliad hyd â llif is o fewn dalgylch a'i nodweddion hydrolegol a geomorffegol tebygol. Caiff ei gyfrifo drwy rannu'r gwahaniaeth mewn uchder rhwng y man tynnu dŵr a’r man gollwng â hyd sianel yr afon er mwyn darparu graddiant sianel ar gyfartaledd ar gyfer yr hyd o afon â llif is.

Mae graddiant gwely hyd afon â llif is o 10% ac yn fwy'n dynodi nentydd bach, serth, ynni uchel yn yr ucheldir sy'n ymatebol i lawiad, sydd â sianeli nentydd rhychog, ac sy’n dueddol o fod yn llai sensitif i newidiadau mewn llif. Mae hydoedd afon â graddiant gwely o lai na 10% fel arfer yn afonydd mewn rhannau is dalgylch sydd â sianeli ehangach a bas sy'n fwy sensitif i newidiadau mewn llif ac maent yn hydoedd pwysig ar gyfer cysylltedd ecolegol mewn system afon.

Sut i ddefnyddio'n canllawiau i benderfynu ar drefn tynnu dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr

Mae gennym ddull dwy haen o gyfrifo faint o ddŵr sydd ar gael ar gyfer gwaith tynnu dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr. Bydd y defnydd o ddull dwy haen yn eich galluogi i nodi'n annibynnol drefn tynnu dŵr gychwynnol ar sail wybodaeth gyfyngedig am eich safle yn gynnar yn y broses ddatblygu. Yna mae'n caniatáu i ragor o ymchwiliadau gael eu gwneud i asesu a ellir, mewn achosion penodol, adolygu’r parthau.

Haen 1: Cyfraddau tynnu dŵr cychwynnol

Gallwch gyfrifo'r cyfraddau tynnu dŵr cychwynnol ar gyfer cynllun ynni dŵr drwy ganfod y parth ar gyfer eich cynllun o wybodaeth sylfaenol am y safle:

  • Cynlluniau ar goredau a chynlluniau heb hyd afon â llif is

Os yw eich cynllun arfaethedig yn gynllun ar gored ac nid yw'n creu hyd afon â llif is yna mae'r cyfraddau tynnu dŵr cychwynnol yn Nhabl 1 yn berthnasol.

  • Cynlluniau sy'n effeithio ar safleoedd o werth uchel ar gyfer cadwraeth natur

Bydd eich cynllun ym Mharth 1 a bydd y cyfraddau tynnu dŵr cychwynnol yn Nhabl 2 yn gymwys:

  • os bydd unrhyw ran o'ch cynllun arfaethedig, gan gynnwys yr hyd o afon â llif is, o fewn safle dynodedig ar gyfer cadwraeth natur neu’n gallu effeithio arno
  • os yw'r rhywogaethau canlynol sy’n sensitif i lif, sef y fisglen berlog (Margaritifera margaritifera) a’r cimwch afon crafanc wen (Austropotamobius pallipes), yn bresennol mewn unrhyw hyd afon yr effeithir arno gan eich cynllun
  • os yw mewn hyd afon sydd yn nalgylch i fyny’r afon neu i lawr yr afon o Ardal Cadwraeth Arbennig lle mae eogiaid yn nodwedd hysbysedig
  • os oes gwelyau graean ar gyfer ardaloedd silio eogiaid cyfredol neu bosib yn bresennol yn yr hyd o afon â llif is neu yn y mannau lle ceir y mewnlif a’r ollyngfa

Rydym yn darparu rhagor o fanylion ar sut i ganfod yr wybodaeth hon yn Safleoedd dynodedig, rhywogaethau a warchodir a chynefinoedd cynhaliol.

  • Cynlluniau llif afonydd mewn afonydd a nentydd mewn rhannau is o ddalgylch

Os bydd eich cynllun ynni dŵr arfaethedig yn creu hyd afon â llif is ac os yw graddiant cyfartalog gwely’r afon am yr hyd hwnnw yn llai na 10%, yna mae eich cynllun ym Mharth 2 a bydd y cyfraddau tynnu dŵr cychwynnol yn Nhabl 3 yn gymwys.

  • Cynlluniau llif afonydd mewn afonydd a nentydd mewn rhannau uwch o ddalgylch

Os bydd eich cynllun ynni dŵr arfaethedig yn creu hyd afon â llif is ac os yw graddiant cyfartalog gwely’r afon am yr hyd hwnnw yn 10% neu’n fwy, yna mae eich cynllun ym Mharth 3 a bydd y cyfraddau tynnu dŵr cychwynnol yn Nhabl 4 yn gymwys.

Am gynlluniau llif afon syml ar raddfa fechan ac â risg isel, mae'n debygol na fydd angen unrhyw waith asesu arall a gall y cyfraddau tynnu dŵr cychwynnol yn nhablau 1 i 4 gael eu defnyddio mewn cais am drwydded lawn.

Haen 2: Safonau llif penodol i safle

Mae Haen 2 yn caniatáu i wybodaeth ychwanegol am safle gael ei defnyddio ar gyfer asesiad mwy manwl o’r risg amgylcheddol. Gallai hyn olygu y gallai cynllun symud i barth amgen gyda defnydd dilynol o gyfraddau tynnu dŵr y parth hwnnw. Bydd angen arolygon ac asesiadau topograffig, ecolegol, hydrolegol neu geomorffegol i ddangos y gall cyfraddau tynnu dŵr fodloni safonau angenrheidiol diogelu’r amgylchedd o hyd.

Er enghraifft, gallai cynllun arfaethedig sydd ym Mharth 2 yn Haen 1 oherwydd bod ganddo raddiant hyd â llif is o 9% symud i Barth 3 yn Haen 2 wrth i waith asesu pellach ddangos bod hydroleg, ecoleg a geomorffoleg yr hyd yn nodweddiadol o Barth 3 ac mae ei ddyluniad a'i leoliad yn y dalgylch yn golygu na fydd yn amharu ar ddilyniant ecolegol nac effeithio'n niweidiol ar fudo pysgod neu geomorffoleg.

I'r gwrthwyneb, efallai y bydd angen i waith tynnu dŵr gael ei gyfyngu i safon Parth 1 os darganfyddir bod rhywogaethau prin iawn megis bryoffytau yn bresennol a bod perygl yr effeithir arnynt.

Mae'n bwysig nodi nad ydym yn ffafrio datblygiadau ynni dŵr mewn safleoedd sydd wedi'u dynodi ar gyfer cadwraeth natur. Gall cwblhau dadansoddiadau amgylcheddol fod yn gostus ac nid yw’r weithred o’u cyflwyno i ategu cais am drwydded yn gwarantu dyrannu trwydded neu symud rhwng parthau.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall fod yn briodol i gyfraddau tynnu dŵr gael eu teilwra ymhellach i fodloni amodau amgylcheddol neu weithredol penodol. Cynghorir ymgeiswyr i drafod y gofynion hyn gyda ni cyn gynted â phosib yn y broses ymgeisio.

Cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr heb hydoedd â llif is

Efallai na fydd cynlluniau ynni dŵr sydd wedi'u hadeiladu ar gored, argae neu raeadr naturiol (megis rhaeadr neu sgwd serth) ac yn gollwng llif tyrbin i sianel yr afon ar waelod yr adeiledd olygu unrhyw ostyngiad yn y llif yn yr hyd i lawr yr afon.

Gellir ystyried nad oes gan y math hwn o gynllun hyd â llif is ac, fel arfer, bydd y cyfraddau tynnu dŵr yn Nhabl 1 yn berthnasol.

Tabl 1.  Cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer safleoedd sydd heb hyd â llif is

Diogelu llif isel

(Llif annibynnol)

% y cymeriant

Uchafswm y gyfradd tynnu dŵr

Isafswm o Q95

Hyd at 100%

1.3 x Qmean

Ystadegyn hyd llif yw Q95 sy'n disgrifio cyfradd llif ar gyfer safle a geir, neu y rhagorir arni, 95% o'r amser mewn blwyddyn arferol. Mae'n cynrychioli llif haf isel arferol.

Llif blynyddol cymedr ar safle yw Qmean.

Bydd lefel y diogelwch llif isel yn seiliedig ar ofynion penodol i’r safle er mwyn cynnal yr ecoleg ac amwynder lleol, megis gwedd gweledol llif dros wyneb cored neu sgwd a mudo pysgod. Fel arfer, rydym yn gofyn am lif isel gwarchodedig o o leiaf Q95.

Ar gyfer cynlluniau arfaethedig mewn safleoedd sydd wedi’u dynodi ar gyfer cadwraeth natur neu gynefin cynhaliol, efallai y bydd angen lefelau tynnu dŵr is er mwyn ystyried cynllun yn dderbyniol.

Cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer cynlluniau sydd â hyd â llif is

Nod cyfraddau tynnu dŵr yw darparu'r llif gweddilliol yn hyd afon â llif is sy'n angenrheidiol i ddiogelu'r ecoleg yn yr afon yn ôl pwysigrwydd y safle er cadwraeth natur, ei leoliad o fewn dalgylch, a nodweddion ei ddalgylch.

Parth 1 – Safleoedd dynodedig, rhywogaethau a warchodedir, cynefin cynhaliol ac ardaloedd silio eogiaid

Caiff y safleoedd hyn eu cydnabod am bresenoldeb rhywogaethau a chynefinoedd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol ac mae ganddynt lefel uchel o ddiogelwch amgylcheddol cyfreithiol. Cânt eu disgrifio'n fwy manwl yn (DOLEN).

Ar gyfer cynlluniau ynni dŵr ym Mharth 1, mae'r cyfraddau tynnu dŵr canlynol yn berthnasol:

Tabl 2.  Cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer safleoedd Parth 1 sydd â hyd â llif is

Diogelu llif isel

(Llif annibynnol)

% y cymeriant

Uchafswm y gyfradd tynnu dŵr

Isafswm o Q95

10 neu 40%

1.3 x Qmean

Efallai y byddwn yn gwrthod cais am drwydded os ydym yn ystyried bod y risg o gael effaith ar nodweddion sy'n sensitif i lif yn sgil datblygiad ynni dŵr arfaethedig yn rhy uchel.

Byddwn yn cyfyngu ar waith tynnu dŵr i 10% o'r llif sydd ar gael lle mae nodweddion eithriadol o brin neu sy'n sensitif i lif yn bresennol, os ydym yn ystyried bod unrhyw ddatblygiad yn briodol yn y lle cyntaf. Mewn achosion eraill, fel arfer cyfyngir gwaith tynnu dŵr i 40% o'r llif sydd ar gael.

Parth 2 – Afonydd a nentydd mewn rhannau is o ddalgylch – graddiant sy’n llai na 10%

Dyma safleoedd nad ydynt yn dod o fewn Parth 1 ond lle mae graddiant cyfartalog yr hyd â llif is yn llai na 10%. Mae'r rhain fel arfer yn afonydd ac yn nentydd â graddiant graddol mewn rhannau is o ddalgylch. Mae gan ddatblygiad ynni dŵr yn y parth hwn y potensial am effaith ofodol fawr wedi'i hachosi gan rwystrau ffisegol a hydrolegol a allai amharu ar gysylltedd hydredol o fewn ecosystem afon.

Ar gyfer cynlluniau ynni dŵr ym Mharth 2, mae'r cyfraddau tynnu dŵr canlynol yn berthnasol:

Tabl 3.  Cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer safleoedd Parth 2 sydd â hyd â llif is

Diogelu llif isel

(Llif annibynnol)

% y cymeriant

Uchafswm y gyfradd tynnu dŵr

Isafswm o Q95

50%

1.3 x Qmean

 

Parth 3 – Nentydd ac afonydd mewn rhannau uwch o ddalgylch – graddiant o 10% neu'n fwy

Dyma safleoedd nad ydynt yn dod o fewn Parth 1 ond lle mae graddiant cyfartalog yr hyd â llif is yn 10% neu'n fwy. Fel arfer, dalgylchoedd graddiant serth yn yr ucheldir ydynt.  Mae datblygiadau ynni dŵr sengl ym Mharth 3 yn debygol o gael effaith ofodol gyfyngedig ar strwythur a swyddogaeth ecosystem afon ac yn cyflwyno risg isel o aflonyddu ar gysylltedd ecolegol mewn dalgylch.

Ar gyfer cynlluniau ynni dŵr ym Mharth 3, mae'r cyfraddau tynnu dŵr canlynol yn berthnasol:

Tabl 4.  Cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer safleoedd Parth 3 sydd â hyd â llif is

Diogelu llif isel

(Llif annibynnol)

% y cymeriant

Uchafswm y gyfradd tynnu dŵr

Isafswm o Q95

70%

 Qmean

Ffactorau sy'n effeithio ar symudiad rhwng parthau

Rydym wedi dangos uchod bod modd penderfynu ar gyfradd tynnu dŵr gychwynnol ar gyfer cynllun ynni dŵr o wybod a all cynllun effeithio ar safle o werth uchel ar gyfer cadwraeth natur, a graddiant gwely afon yr hyd o afon â llif is. Mewn rhai achosion, gall fod yn bosib ystyried nodweddion ffisegol ac amgylcheddol ychwanegol safle a allai gefnogi symudiad cynllun i barth gwahanol.

Gallai hyn fod yn bosibl yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Mae cynllun ynni dŵr arfaethedig wedi'i leoli o fewn safle gwerth uchel ar gyfer cadwraeth natur (Parth 1) ond mae modd dangos yn glir na fydd y cynnig yn effeithio ar unrhyw nodweddion yn y safle hwnnw. Yna mae modd ailasesu'r cynllun fel cynllun Parth 2 neu 3 gan ddibynnu ar raddiant gwely yr hyd o afon â llif is.
  • Mae modd ailasesu cynllun Parth 2 â graddiant gwely llai na 10% fel cynllun Parth 3 lle mae modd dangos bod gan y safle briodoleddau hydrolegol a geomorffegol dalgylch serth yn yr ucheldir ac na fydd yn amharu ar gysylltedd ecosystemau.
  • Gallai cynllun a oedd ym Mharth 3 i ddechrau (gyda graddiant gwely sy'n fwy na 10%) gael ei ailasesu fel cynllun Parth 2 os yw’r hyd o afon â llif is yng nghanol y dalgylch ac os bydd tynnu dŵr ohono yn peryglu aflonyddu cysylltedd rhwng ecosystemau yn y dalgylch uwch.

Gelwir hyn yn Haen 2 yn ein proses ac rydym yn disgrifio isod briodoleddau ychwanegol y dalgylch y byddwn yn eu hystyried mewn asesiad i gefnogi newid parth. Bydd angen i ymgeiswyr roi’r wybodaeth hon i ni i gefnogi unrhyw newid mewn parth o'r hyn a sefydlwyd yn Haen 1 y broses.

Trefn hydrolegol ymatebol

Rydym yn cydnabod bod gan waith tynnu dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr lai o effaith yn gyfrannol ar amrywioldeb llif mewn dalgylchoedd bach yn yr ucheldir sydd â threfnau hydrolegol lle ceir llif sy’n fflachio. Trefn hydrolegol lle ceir llif sy'n fflachio yw un lle mae gan y dalgylch ymateb chwim i ddŵr ffo glaw ar ffurf codiad a gostyngiad serth yn y llif.

Rydym yn asesu hyn gan ddefnyddio cymarebau ystadegau hyd llif Q95/Qmean a Q10/Qmean, lle mae gwerthoedd o 0.1 neu lai ac sy'n fwy na 2.3 yn dynodi hydroleg lle ceir llif sy'n fflachio yn eu tro.

Priodoleddau dalgylch i fyny'r afon

Os yw graddiant cyfartalog y brif sianel yn y dalgylch i fyny’r afon o’r man tynnu dŵr yn 10% neu'n fwy ac mae gan yr hyd o afon â llif is raddiant gwely sy'n agos at 10%, yna mae'n debygol y bydd ganddo briodoleddau hydrolegol a geomorffegol Parth 3.

Maint y dalgylch i fyny'r afon

Os yw'r dalgylch i fyny'r afon o’r man tynnu dŵr yn 5 km2 neu'n llai yna mae'n debygol y bydd yn cynrychioli isafon blaendyfroedd a gall datblygu cynllun gyflwyno risg isel i gysylltedd ecosystemau yn nalgylch yr afon.

Mewnlifau cyfrannol

Gall mewnlifau sylweddol gan is-afonydd i hyd â llif is helpu i leihau effaith tynnu dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr trwy gyflwyno cyfaint ac amrywioldeb llif. Dylai eich asesiad hydrolegol feintioli'r mewnlifau cyfrannol hyn i'n helpu i ddeall sut mae cynllun yn effeithio ar lif afon ar hyd cwrs yr hyd â llif is.

Rhwystrau

Ni fydd gan gynllun yr hawl i greu rhwystr i salmonidau mudol drwy leihau llifoedd dros adeiledd cyfredol, megis sgwd naturiol neu sylfaen pont o waith dyn, y mae modd mynd heibio iddo dan y drefn hydrolegol gyfredol. Yn ystod y broses o benderfynu ar drwydded, byddwn yn ystyried yr effeithiau ar lif ar rwystrau i lawr yr afon ac efallai y bydd angen cyfyngu ar gyfraddau tynnu dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr arfaethedig i fyny’r afon.

Darllenwch am gynlluniau ynni dŵr sy'n effeithio ar safleoedd gwarchodedig

Diweddarwyd ddiwethaf