Cyflwyno cais am drwyddedau ar gyfer eich cynllun ynni dŵr

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio'r broses ymgeisio ar gyfer trwydded tynnu neu gronni dŵr. Maent yn crynhoi'r ystyriaethau cynllunio amgylcheddol y dylech eu cynnwys yn eich cynllun ynni dŵr i leihau ei effaith ar amgylchedd yr afon ac yn rhestru'r wybodaeth dechnegol angenrheidiol i gefnogi cais am drwydded.

Gallwn adolygu cais am drwydded a dyrannu trwydded yn gynt lle mae cynllun wedi cael ei ddylunio a chais wedi'i gyflwyno yn unol â'n canllawiau.

Bydd angen i ymgeiswyr roi gwybodaeth i ni sy'n disgrifio eu cynllun arfaethedig a'i leoliad. Bydd angen i ni hefyd dderbyn gwybodaeth am leoliad amgylcheddol cynllun a sut y gallai effeithio ar ecoleg yr afon, y dirwedd, gweithgareddau hamdden, amwynder, a defnyddwyr dŵr eraill.

Ein dull cyffredinol yw lle mae cynlluniau ynni dŵr bach wedi'u lleoli a'u cynllunio gan ddefnyddio'n canllawiau i leihau'r effaith ar amgylchedd yr afon, yna bydd angen gwybodaeth gyfyngedig arnom i gefnogi cais am drwydded. Bydd swm yr wybodaeth ategol y mae ei hangen arnom yn cynyddu i gynlluniau sy'n fwy o faint, sy'n fwy cymhleth, ac sydd wedi'u lleoli ar safleoedd sensitif.

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud

Tyniadau dŵr ar gyfer chynhyrchu pŵer trydan dŵr

Cyn i chi gyflwyno cais am drwydded tynnu dŵr, dylech ddefnyddio gwybodaeth am eich safle i gyfrifo faint o ddŵr a allai fod ar gael i'w dynnu.

Rydym yn esbonio sut i wneud hyn yn ein Cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr.

Lleoli a dylunio eich croniad dŵr a'ch gollyngfa

Bydd angen i groniadau dŵr, gollyngfeydd neu adeileddau rheoli dŵr newydd, neu newidiadau i rai presennol, gael eu lleoli a'u dylunio fel eu bod yn cael effaith isel ar amgylchedd yr afon neu’n arwain at welliant lle mae adeiledd eisoes yn bodoli. Mae modd cyflawni hyn drwy ddefnyddio'r un egwyddorion syml ar gyfer dyluniad amgylcheddol da y gwnaethom eu nodi yn adrannau 6 i 8. (DOLENNI)

Gallwch gyflwyno cais am drwydded cronni dŵr pan fydd eich croniad dŵr arfaethedig yn bodloni'r egwyddorion lleoli a dylunio hyn neu fod modd dangos fel arall y bydd yn cael effaith isel ar amgylchedd yr afon.

Ymholiadau cyn ymgeisio

Mae ein canllawiau'n darparu digon o wybodaeth i ddatblygwyr sicrhau bod lleoliad, dyluniad a gweithrediad y rhan fwyaf o fathau a graddfeydd o gynlluniau ynni dŵr yn bodloni ein gofynion ar gyfer diogelu’r amgylchedd.

Gallwn ddarparu gwasanaeth cyn ymgeisio i fynd i'r afael ag ymholiadau sy'n ymwneud â chynnig cynllun ynni dŵr. Rydym yn disgwyl i ymholiadau ar gyfer y gwasanaeth hwn fod yn gysylltiedig â chynlluniau cymhleth neu ar raddfa fawr, neu fod yn gynigion mewn safleoedd sy'n sensitif yn amgylcheddol. Dylai ymholiadau geisio cyngor ar agweddau penodol ar ddatblygu’r cynllun a bod yn berthnasol i’r gofynion ar gyfer ceisiadau am drwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr.

Byddwn yn darparu dwy awr o amser fesul cynllun heb godi tâl am bob ymholiad cyn ymgeisio. Os bydd ymateb i ymholiad cyn ymgeisio'n cymryd mwy na dwy awr, byddwn yn codi tâl gan ddefnyddio'n cyfradd fesul awr arferol ar y pryd (gweler ein Cynllun Codi Tâl).

Ffurflenni cais am drwydded

Dylai'r holl geisiadau am drwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr gael eu defnyddio gan ddefnyddio'r ffurflenni sydd ar gael ein gwefan (DOLEN). Bydd angen i chi gynnwys gwybodaeth am leoliad, dyluniad a gweithrediad eich cynllun arfaethedig.

Gwybodaeth ategol

Byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth dechnegol ac amgylcheddol ychwanegol i'n helpu i ddeall sut bydd eich cynnig yn effeithio ar amgylchedd yr afon.

Cynlluniau risg isel

Rydym yn ystyried bod cynlluniau ynni dŵr yn peri risg isel i amgylchedd yr afon os ydynt yn meddu ar y nodweddion canlynol:

  • mae lleoliad a nodweddion y cynllun yn gymwys am drefn tynnu dŵr Parth 3 (h.y. nentydd bychain a serth yn yr ucheldir nad ydynt yn effeithio ar safleoedd na rhywogaethau gwarchodedig)
  • bydd y cynllun ynni dŵr yn gweithredu i'n safonau tynnu dŵr a llif Parth 3
  • mae'r adeiledd cronni a mewnlif dŵr yn ddyluniad o fath gorlif / sgrin Coanda
  • mae ein hegwyddorion lleoli a dylunio risg isel wedi cael eu hymgorffori yn adeileddau’r cynllun ynni dŵr ac mae'r adeileddau hyn yn bodloni ein gofynion yn llawn ar gyfer diogelu’r amgylchedd, gan gynnwys mewn perthynas ag ysgolion pysgod
  • mae hydroleg y dalgylch i'r man gollwng yn naturiol
  • nid oes unrhyw effeithiau cronnus na chyfunol yn sgil tynnu na chronni dŵr
  • nid yw'r safle arfaethedig yn cael ei ddefnyddio at ddibenion hamdden nac amwynder (e.e. caiacio)
  • nid yw'r cynnig yn effeithio ar nodwedd tirwedd sy’n amlwg yn weledol megis rhaeadrau neu sgwd
  • nid yw'r cynllun yn effeithio ar unrhyw ddefnyddwyr dŵr cyfreithlon eraill

Dylai ceisiadau am gynlluniau risg isel gael eu cyflwyno ynghyd â'r wybodaeth ganlynol:

Dylai gwybodaeth ategol gael ei datblygu a'i chyflwyno i ni yn unol â'r gofynion rydym yn eu disgrifio yn ein canllawiau.

Cynlluniau risg uwch neu gymhleth

Mae'n rhaid i geisiadau am yr holl gynlluniau eraill nad ydynt yn bodloni'r meini prawf risg isel gyflwyno'r gofynion gwybodaeth ategol sylfaenol ar gyfer cynlluniau risg isel a restrir uchod yn ogystal ag un neu'n fwy o'r canlynol:

Effaith y cynllun Gofyniad gwybodaeth ategol

Cynlluniau sy'n effeithio ar safle dynodedig, cynefinoedd ategol, rhywogaethau gwarchodedig neu ardaloedd silio eogiaid neu fel arall sy'n gymwys am drefn tynnu dŵr Parth 1. (Gweler Cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr, ac Safleoedd dynodedig, rhywogaethau a warchodir a chynefinoedd cynhaliol.)

Data ac adroddiadau arolygon ecolegol ac amgylcheddol

Dadansoddiad o’r data amgylcheddol ac asesiad o’r effaith amgylcheddol

Datganiad amgylcheddol

Cynlluniau â dalgylchoedd hydrolegol neu drefniadau tynnu dŵr cymhleth sy'n wahanol i'n canllawiau at ddibenion amwynder, tirwedd, hamdden neu ddiogelu’r amgylchedd. (Gweler Cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr, ac Hydroleg.)

Dadansoddiad ac asesiad o’r effaith hydrolegol a hydrolig

Data ac adroddiadau arolygon ecolegol ac amgylcheddol

Dadansoddiad o’r data amgylcheddol ac asesiad o’r effaith amgylcheddol

Datganiad amgylcheddol

Safleoedd sy'n sensitif i newidiadau mewn geomorffoleg. (Gweler Deall geomorffoleg ar gyfer llunio cynllun ynni dŵr, ac  Lleoli cored mewnlif ar gyfer cynllun ynni dŵr.)

Asesiad geomorffolegol meintiol

Safleoedd lle mae tyniadau dŵr lluosog neu adeileddau yn yr afon yn bresennol ar ran o afon. (Gweler Effeithiau cronnus.)

Asesiad effaith geomorffegol a/neu ecolegol cronnus

Safleoedd nad ydynt yn berthnasol i'n trefniadau tynnu dŵr yn ôl parthau nac sy'n bodloni ein gofynion am leoli a dylunio risg isel. 

Asesiad cydymffurfiaeth o dan Reoliadau'r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) gyda data arolwg, dadansoddi ac adrodd ategol

Rydym yn nodi pryd bydd angen gwybodaeth ategol ychwanegol a'r hyn a ddylai gynnwys yn adrannau pwnc ein canllawiau. Dylech nodi efallai y byddwn yn gofyn i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth ategol arall nad yw wedi'i rhestru yma i fynd i'r afael â materion sy'n benodol i gynnig a gyflwynir.

Diweddarwyd ddiwethaf