Swyddog Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff
Dyddiad cau: 23 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 5 £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Gogledd Orllewin Cymru
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Arweinydd tim diwydiant a rheoleiddio gwastraff / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 8 Mai 2025
Rhif swydd: 200207
Y rôl
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn tîm Rheoleiddio Gwastraff Gogledd-orllewin Cymru i warchod a gwella amgylchedd Cymru trwy reoleiddio gosodiadau diwydiannol a safleoedd gwastraff yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae'r rhain yn cynnwys safleoedd trosglwyddo a thrin gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, safleoedd trin biowastraff, safleoedd metel sgrap, a safleoedd tirlenwi caeedig. Mae'r rôl hefyd yn ymwneud â safleoedd gwastraff anghyfreithlon a gwaith gorfodi cysylltiedig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio allan yn y maes, gan ymateb i adroddiadau am ddigwyddiadau amgylcheddol mewn modd diogel, effeithlon a phrydlon, ynghyd â chyflawni gwaith ymchwilio a gorfodi priodol. Gan ddilyn ein Hegwyddorion Rheoleiddio, byddwch yn sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau perthnasol, megis y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, yn cymryd camau gorfodi cymesur, ac yn cyflawni buddion amgylcheddol gwirioneddol drwy ymyriadau rheoleiddio priodol.
Mae hon yn rôl ddeinamig a gwerth chweil sy’n darparu’r cyfle i arwain gwelliannau amgylcheddol drwy gydweithio gyda chwsmeriaid i wella llesiant cymunedau lleol drwy gydymffurfiaeth amgylcheddol. Byddwch yn gweithio gyda thîm ymroddedig o unigolion o’r un anian, gyda phob un wedi ymrwymo i wella amgylchedd Gogledd-orllewin Cymru yn unol â’n hegwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR).
Bydd y rôl yn cynnwys gwaith maes yn cynnal arolygiadau rheoleiddio ar safleoedd rheoli gwastraff a ganiateir a safleoedd nas caniateir, a gweithio mewn swyddfa. O bryd i'w gilydd bydd gofyn i chi deithio i swyddfeydd eraill.
Yn ogystal, bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn ymatebion i ddigwyddiadau fel rhan o rota, gan weithio o fewn oriau arferol a thu hwnt.
Os oes gennych brofiad o weithio mewn rôl rheoleiddio/gorfodi, neu o fewn diwydiant perthnasol a reoleiddir, ac yn dymuno chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o warchod a gwella amgylchedd Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Mae'r tîm yn cynnwys 11 o swyddi sy'n cynnwys rheoliadau Diwydiant a Gwastraff a swyddogion gorfodi. Bydd y swydd hon yn cwmpasu holl ardal y Gogledd Orllewin.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Asesu cydymffurfiaeth mewn gweithfeydd a safleoedd gwastraff.
- Cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Lle nodir diffyg cydymffurfiaeth, argymell yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol i sicrhau bod gweithredwyr yn ailddechrau cydymffurfio cyn gynted â phosibl, gyda’r effaith amgylcheddol leiaf posibl ac ystyriaeth o'r effeithiau economaidd.
- Helpu i ddatblygu strategaethau rheoleiddio tymor canolig ar gyfer safleoedd a reoleiddir.
- Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion.
- Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a lles cadarnhaol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Wybodaeth a phrofiad naill ai o weithio mewn diwydiant a reoleiddir neu fel rheoleiddiwr.
- Dealltwriaeth dda o brosesau busnesau masnachol a’r pwysau arnynt.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnes a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio problemau a chael cefnogaeth drwy ddylanwadu
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)
- Dymunol: Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.