Goruchwyliwr Gweithlu Integredig

Dyddiad cau: 14/09/2025 | Cyflog: Gradd 5, £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg o fewn ardal weithredol Canolbarth Cymru

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithlu Integredig / Gweithrediadau 

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 24/09/2025

Rhif swydd: 200502

Y rôl

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a blaengar i ymuno â’n Tîm Gweithlu Integredig yng Nghanolbarth Cymru. Fel Goruchwyliwr Gweithlu Integredig, byddwch yn cymryd yr awenau ymarferol wrth gyflawni gwaith cynnal a chadw ac adeiladu hanfodol sy’n amddiffyn cymunedau rhag perygl llifogydd ac yn helpu i gryfhau ein seilwaith naturiol.

Mae hon yn rôl ddeinamig ac amrywiol lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn rheoli’r gwaith o gynllunio, cydlynu a chyflawni gwaith hanfodol, o gynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd i brosiectau adeiladu bach a chanolig eu maint. Bydd gan eich gwaith effaith uniongyrchol ar ddiogelwch a chydnerthedd cymunedau ledled y rhanbarth.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda chontractwyr a thimau maes i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n ddiogel, yn effeithlon, ac i safon uchel. Mae iechyd a diogelwch wrth wraidd popeth a wnawn, felly byddwch yn hyrwyddo arferion gorau, yn cyhoeddi dogfennaeth diogelwch ar y safle, ac yn cynnal sgyrsiau diogelwch i sicrhau bod pawb yn cael eu diogelu yn y gwaith.

Gan weithredu fel rheolwr prosiect, byddwch yn goruchwylio gwaith gwerth hyd at £250,000, gan sicrhau cydymffurfedd â Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015. Byddwch hefyd yn arwain ar waith priffyrdd ac yn ymgymryd â rôl bwysig y person penodedig ar gyfer gweithrediadau codi, gan sicrhau bod yr holl gyfarpar yn bodloni safonau diogelwch a bod yr holl weithgareddau codi yn cael eu cynnal yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

Mae’r rôl hefyd yn cynnwys rheoli cyllideb, cyfrifoldebau diogelu’r amgylchedd, a chydlynu ymateb i argyfyngau. P’un a ydych chi’n ymateb i ddigwyddiadau llifogydd, yn cefnogi ymdrechion adfer amgylcheddol, neu’n cynnal ein hasedau hanfodol, bydd eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad.

Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â gwybodaeth ymarferol am beirianneg sifil, profiad o reoli pobl a chontractwyr, a dealltwriaeth gref o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Os ydych chi’n barod i gamu ymlaen ac arwain prosiectau seilwaith pwysig sy’n cefnogi cymunedau a’r amgylchedd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Scott Mountford at Scott.Mountford@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw) 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Amdanom ni

Gan adrodd yn uniongyrchol i’r arweinydd tîm, byddwch yn gwasanaethu fel cynrychiolydd y sefydliad sy’n wynebu cwsmeriaid. Mae hon yn rôl ddeinamig sy’n cyfuno cyfrifoldebau swyddfa a gwaith maes, gan olygu bod angen teithio’n rheolaidd ar draws Canolbarth Cymru. 

Disgwylir i chi ymweld ag amryw o safleoedd a depos ledled y rhanbarth, felly mae dull hyblyg a pharodrwydd i deithio yn hanfodol. Bydd eich presenoldeb ar lawr gwlad yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal perthnasoedd cryf â chleientiaid a sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu darparu’n llyfn.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

Byddwch yn gyfrifol am sicrhau llesiant, iechyd a diogelwch timau’r gweithlu. Byddwch yn nodi ac yn sicrhau cydymffurfedd â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch ac yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Cyflwyno sgyrsiau diogelwch. Dosbarthu’r canlynol:

  • Dogfennau diogelwch safle (cynlluniau cyfnod adeiladu a systemau gwaith diogel).
  • Cynlluniau arbenigol (winsio, codi) a thrwyddedau gweithio.
  • Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, darparu a rheoli tasgau a phobl, gan gynnwys contractwyr, mewn amgylchedd deinamig. Bydd yn rhaid i chi fod â’r gallu i ailflaenoriaethu eich llwyth gwaith fel sy'n ofynnol er mwyn bodloni blaenoriaethau wrth iddynt newid.
  • Byddwch yn gweithredu fel rheolwr prosiectau wrth gyflawni’r rhaglen waith flynyddol a phrosiectau cyfalaf.
  • Byddwch yn gyfrifol am gyflawni prosiectau gwaith adeiladu cyfalaf o faint bach i ganolig, hyd at £250,000, yn unol â’r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli). 
  • Byddwch yn gyfrifol am reoli contractwyr er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni mewn ffordd ddiogel ac mewn modd sy’n sensitif i’r amgylchedd.
  • Byddwch yn gyfrifol am arwain ar waith priffordd. Byddwch yn ymgymryd â rôl arbenigol yr unigolyn penodedig ar gyfer gweithrediadau codi. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb dros bob eitem o offer codi a winsio er mwyn sicrhau cydymffurfedd â Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi (LOLER) a sicrhau bod pob archwiliad gorfodol yn cael ei gydlynu. 
  • Byddwch yn gyfrifol am reoli cyllideb ddirprwyedig a bennir gan arweinydd y tîm ac yn gyfrifol am fonitro a chofnodi’r holl wariant yn ei herbyn.
  • Byddwch yn gyfrifol am arwain ar ddarparu’r gallu i ymateb mewn argyfwng llifogydd a digwyddiadau amgylcheddol i leihau effaith y digwyddiad. Byddwch yn sicrhau bod y tîm wedi’i hyfforddi a bod ganddo’r offer perthnasol bob amser i ymateb i ddigwyddiadau o’r fath.
  • Ymgymryd â gwaith monitro/archwilio gweithredol o’r gwaith ar safleoedd (o ran materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, ansawdd, yr amgylchedd a chostau) a darparu adborth.
  • Gweithio mewn partneriaeth â’r rhanddeiliaid perthnasol.
  • Efallai y bydd yn ofynnol i chi ymgymryd â dyletswyddau sy’n ofynnol gan y Ddeddf Cronfeydd Dŵr.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

1.    Byddwch wedi cael addysg hyd at lefel Tystysgrif Genedlaethol Uwch neu gyfwerth mewn disgyblaeth berthnasol.

2.    Bydd gennych brofiad gweithredol priodol sylweddol sy’n cynnwys profiad adeiladu perthnasol yn ymwneud â defnyddio peiriannau trwm a pheirianwaith. 

3.    Bydd gennych dystysgrif adeiladu NEBOSH neu byddwch yn barod i weithio tuag at y cymhwyster hwn.

4.    Byddwch yn unigolyn penodedig ar gyfer gweithrediadau codi (neu ddyletswydd debyg) neu’n barod i weithio tuag at y cymhwyster hwn er mwyn cyflawni’r rôl hon. 
5.    Bydd gennych wybodaeth eang am arferion dylunio ac adeiladu peirianneg sifil, gyda’r gallu i ddatblygu a chymhwyso datrysiadau arloesol i broblemau.

6.    Cymorth Cyntaf yn y Gwaith +F.

7.    Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y rôl.  Mae TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol.

8.    Trwydded yrru lawn y DU, yn ddelfrydol yn cynnwys categori B + E (tynnu trelars).

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf