Uwch-swyddog – Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff

Dyddiad cau: 13/07/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg o fewn Canolbarth Cymru

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Gwastraff a Gorfodi - Canolbarth Cymru / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos sy'n cychwyn ar 28/07/25

Rhif swydd: 200564

Y rôl

A ydych chi’n angerddol am ddiogelu’r amgylchedd ac yn barod i ymgymryd â rôl heriol a gwerth chweil? Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno â’n Tîm Gwastraff a Gorfodi yng Nghanolbarth Cymru ar sail barhaol.

Rydym yn chwilio am unigolyn hyderus a brwdfrydig sydd â sgiliau cyfathrebu a dylanwadu cryf a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Os ydych chi’n chwilfrydig yn naturiol, yn mwynhau datrys problemau, ac yn ffynnu mewn amgylchedd dynamig lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath, gallai hwn fod yn berffaith i chi.

Fel uwch-swyddog, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoleiddio safleoedd gwastraff trwyddedig ledled Ceredigion a Phowys. Gan ddefnyddio eich profiad rheoleiddio neu gydymffurfio, byddwch yn cynnal archwiliadau safle – yn annibynnol ac mewn timau – i sicrhau bod trwyddedau amgylcheddol yn cael eu parchu.

Byddwch yn meithrin perthnasoedd cynhyrchiol â gweithredwyr safleoedd, gan gynnig arweiniad a chymryd camau gorfodi cymesur lle bo angen i ysgogi cydymffurfiaeth a diogelu ein hadnoddau naturiol.

Byddwch hefyd yn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ddigwyddiadau amgylcheddol, gan gynnwys gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon, fel rhan o ddyletswydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy’n ymatebydd Categori Un o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil. Gan ein bod yn gwasanaethu ardal ddaearyddol fawr, bydd angen trwydded ddilys lawn y DU arnoch i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau).

Yn ogystal ag arwain trwy esiampl yn y maes, byddwch yn cefnogi’r Arweinydd Tîm i gynllunio rhaglenni gwaith, mentora cydweithwyr, a chamu i mewn fel dirprwy pan fo angen.

Mae hon yn rôl amrywiol, gyflym lle mae eich penderfyniadau’n cyfrif. Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o dîm sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i amgylchedd Cymru bob dydd.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jeremy Goddard at jeremy.goddard@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn bersonol mewn lleoliad i'w gadarnhau yng Nghanolbarth Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. ​Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.​. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cymryd camau gweithredu priodol ar gyfer casglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Arwain ein hymateb i achosion/materion mawr neu gynhennus.
  • Cydlynu trafodaethau cyn ymgeisio gyda gweithredwyr a thimau trwyddedu CNC i sicrhau dull amserol, effeithlon ac o safon wrth ddelio ag amrywiadau, ildiadau neu geisiadau am drwyddedau.
  • Lle nodir diffyg cydymffurfiaeth, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith er mwyn sicrhau bod gweithredwyr yn dychwelyd i gydymffurfiaeth mor gyflym â phosib, gyda’r effaith leiaf posib ar yr amgylchedd, gan ystyried effeithiau economaidd.
  • Bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn grwpiau technegol/strategol neu gynrychioli CNC ar fforymau allanol e.e. grwpiau sector rheoleiddwyr y DU, yn ôl yr angen.
  • Cyfrannu at waith grwpiau sector CNC a grwpiau traws-asiantaeth yn ôl y gofyn i helpu i fabwysiadu dulliau rheoleiddio cyson a lledaenu arferion da sydd o fudd i’r amgylchedd.
  • Hyfforddi a mentora aelodau’r tîm.
  • Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion.
  • Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth helaeth am naill ai gweithio mewn diwydiant a reoleiddir, neu fel rheoleiddiwr, a phrofiad yn y maes hwn.
  2. Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
  3. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â busnesau a reoleiddir a’r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  4. Rhaid bod â thrwydded yrru lawn y DU.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol:  Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf