Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy

Dyddiad cau: 28 Ebril 2025 | Cyflog: Gradd 9: £59,547 - £65,004 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth:  Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £59,547 yn codi i £65,004 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gardarnhau

Rhif swydd: 201313

Y rôl

Mae'r rôl yn arwain ac yn rheoli'r Grŵp Tir a Natur Cynaliadwy yn yr Adran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol.

Fel aelod o Dîm Rheoli’r Adran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol, byddwch yn:

  • cyflawni rôl strategol allweddol wrth gyflawni rheolaeth gynaliadwy ar ddŵr a natur 
  • darparu rôl arweiniol i CNC ar ddatblygu strategaeth a pholisi mewn perthynas â rheoli dŵr a natur yn gynaliadwy 
  • darparu lefel uchel o ddylanwad ac effaith ar draws CNC, LlC, Llywodraeth y DU ac Asiantaethau, a gwasanaeth cyhoeddus Cymru.

Byddwch yn rheoli Grŵp sy'n cynnwys pedwar tîm:

  • Rheoli pysgodfeydd ac ecosystemau dŵr croyw 
  • Ansawdd dŵr
  •  Adnoddau dŵr
  • Cynllunio dŵr integredig

Ar hyn o bryd mae’r swydd yn adrodd i 7 unigolyn arall yn uniongyrchol (gall y nifer newid) gan gynnwys yr arweinwyr tîm ar gyfer y pedwar tîm uchod, a'r Prif Gynghorydd Pysgodfeydd, Uwch Gynghorydd Arbenigol Dŵr, a’r Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar gyfer Polisi Amgylcheddol Strategol.  

Mae'r Rheolwr yn adrodd i'r Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol.

Blaenoriaeth gynnar allweddol fydd integreiddio rheoli pysgodfeydd ac ecosystemau dŵr croyw â dŵr cynaliadwy yn y Grŵp a rhaglenni gwaith ehangach. 

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mary Lewis ar mary.lewis@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni
Mae'r swydd hon yn rheoli'r Grŵp Tir a Dŵr Cynaliadwy yn yr Adran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol, yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu. 

Mae’r Adran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol yn berchen ar, ac yn diffinio, ar gyfer CNC, yr amgylchedd un llais a chanlyniadau pobl ar gyfer pob ecosystem, tir, dŵr a morol, a meysydd trawsbynciol o bolisi Rheoli Adnoddau Naturiol, er mwyn hwyluso’r gwaith o gyflawni gweledigaeth y Cynllun Corfforaethol sef bod natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd. Mae'r Grŵp Dŵr a Natur Cynaliadwy yn darparu hyn ar gyfer ecosystemau dŵr croyw. 

Mae'r swydd yn gweithio fel rhan o dîm rheoli gyda rheolwyr eraill o grwpiau yn yr Adran sy'n darparu ar gyfer ecosystemau daearol, ecosystemau morol, a pholisi Rheoli Adnoddau Naturiol trawsbynciol megis newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain, fel rheolwr strategol, y gwaith o osod a gweithredu polisi rheoli dŵr a natur cynaliadwy.
  • Troi polisi Llywodraeth Cymru yn ystod o ymyriadau i’w defnyddio ar draws swyddogaethau CNC i gyflawni rheolaeth gynaliadwy ar ddŵr a natur.
  • Arwain cyfraniad y Rhaglen a’r Grŵp Dŵr at y Cynllun Gwasanaeth Rheoli Adnoddau Naturiol, gan olrhain a monitro perfformiad a chyllid drwy gydol y flwyddyn.
  • Arwain y gwaith o baratoi rhaglenni tystiolaeth ar gyfer dŵr a natur
  • Rheoli ac ysgogi timau lluosog a staff sy'n gweithio ar lefel genedlaethol/rhyngwladol.
  • Bod yn Arweinydd Busnes ar gyfer ecosystemau dŵr croyw, rheoli pysgodfeydd dŵr croyw, ansawdd dŵr, adnoddau dŵr, cynllunio dŵr integredig a rheoli dŵr a natur yn gynaliadwy
  • Bod yn atebol am gyllideb y grŵp
  • Gweithio gyda sectorau allweddol, rhanddeiliaid ac uwch gydweithwyr allanol, Gweinidogion, gwleidyddion a swyddogion (ar lefel Cymru, y DU ac yn rhyngwladol) a dylanwadu arnynt i sicrhau bod CNC yn cyflawni ei rolau a’i ddyletswyddau mewn perthynas â rheoli dŵr a natur yn gynaliadwy
  • Dylanwadu ar bolisi a strategaeth sefydliadau, gweithredwyr a grwpiau eraill i gefnogi rheolaeth gynaliadwy ar ddŵr a natur
  • Arwain a rheoli materion cymhleth penodol megis darparu cynllunio arbenigol, cyngor, arweiniad, tystiolaeth, targedau/cynlluniau corfforaethol, newid deddfwriaeth, a briffiau technegol i staff ar bob lefel
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE yn ymwneud ag Ecosystemau Dŵr Croyw, Rheoli Pysgodfeydd Dŵr Croyw, Ansawdd Dŵr, Adnoddau Dŵr, Cynllunio Dŵr Integredig a Rheoli Dŵr a Natur yn Gynaliadwy
  2. Gwybodaeth o’r canlynol: Sbardunau polisi Llywodraethau Cymru a’r DU mewn Ecosystemau Dŵr Croyw, Rheoli Pysgodfeydd Dŵr Croyw, Ansawdd Dŵr, Adnoddau Dŵr, Cynllunio Dŵr Integredig a Rheoli Dŵr a Natur yn Gynaliadwy
  3. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o’r canlynol: sut i oresgyn y blaenoriaethau, y sbardunau a’r rhwystrau cymhleth a wynebir gan CNC, partneriaid a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chyflawni ar gyfer Ecosystemau Dŵr Croyw, Rheoli Pysgodfeydd Dŵr Croyw, Ansawdd Dŵr, Adnoddau Dŵr, Cynllunio Dŵr Integredig a Rheoli Dŵr a Natur yn Gynaliadwy
  4.  Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r canlynol: blaenoriaethau partneriaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a chyfleoedd i gydweithio
  5. Profiad o’r canlynol: dealltwriaeth fanwl o Reoli Dŵr a Natur yn Gynaliadwy a'r ystod gymhleth o elfennau sy’n ysgogi ac yn rhwystro’r broses o gyflawni
  6.  Profiad o weithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau
  7. Profiad o gynrychioli sefydliad gyda materion proffil uchel a dadleuol yn y maes cyhoeddus.

Gofynion y Gymraeg

  • Dymunol:  A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf