Swyddog Trwyddedu Morol
Dyddiad cau: 04 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Trwyddedu Morol / Y Gyfarwyddiaeth
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 201610
Y rôl
Fel swyddog trwyddedu morol, byddwch yn arwain ar benderfyniadau cymhleth ynghylch trwyddedau o dan ddeddfwriaeth trwyddedu morol drwy gynnal asesiad technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC lle bo modd, a chyhoeddi, gwrthod neu amrywio trwyddedau o fewn amserlenni penodedig.
Byddwch yn dadansoddi ac yn dehongli amrywiaeth eang o wybodaeth gymhleth, gan dynnu pwyntiau allweddol a’u cyfleu i bobl eraill ar bob lefel. Cynrychioli’r tîm trwyddedu yn ei faes arbenigedd o fewn grwpiau technegol mewnol perthnasol ac yn ystod cyfarfodydd rhanddeiliaid mewnol / allanol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Emmer Litt ar Emmer.Litt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Fel prif reoleiddiwr amgylcheddol Cymru, mae rôl CNC yn arwyddocaol ac yn eang ei chwmpas. Mae ein gwaith rheoleiddio yn sail i lawer o’r hyn a wnawn i warchod, cynnal a gwella ein hadnoddau naturiol yn y presennol ac yn y dyfodol fel y gall pobl fyw bywydau gwell ac iachach, ac i sicrhau bod ein bywyd gwyllt yn gallu ffynnu.
Mae’r Gwasanaeth Trwyddedu’n cyfrannu at hyn drwy leihau’r risg o niwed i’r amgylchedd a phobl Cymru, yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy, ac yn hyrwyddo ymddygiad cyfrifol, trwy ein hasesiad cadarn o geisiadau am ystod eang o weithgareddau a chaniatadau.
Mae’r Gwasanaeth Trwyddedu yn adran gymharol fach ac yn cynnwys wyth tîm sy’n cydweithio i rannu gwybodaeth, arferion gorau a phrofiad.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Penderfynu ar ganlyniad ceisiadau cymhleth am drwyddedau amgylcheddol drwy wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â cheisiadau i’r maes penodol a neilltuir i chi drwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC lle maent ar gael, a chyhoeddi, gwrthod neu amrywio trwyddedau yn unol ag amserlenni a chyllidebau.
- Penderfynu ar geisiadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ganllawiau technegol a meddalwedd dechnegol a/neu raglenni modelu, yn unol â gofynion y maes penodol a neilltuir iddo.
- Hybu datblygiad technegol y swyddogion trwyddedu yn nhîm trwyddedu ei faes neilltuedig drwy hyfforddiant uniongyrchol a thrwy gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith Datblygiad Technegol gan ddefnyddio’i arbenigedd yn ei faes perthnasol.
- Cynrychioli’r tîm trwyddedu yn ei faes arbenigedd o fewn grwpiau technegol mewnol perthnasol ac yn ystod cyfarfodydd rhanddeiliaid mewnol / allanol.
- Gweithredu fel arweinydd wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau cymhleth am drwyddedau, gan gynnwys ar gyfer prosiectau seilwaith o bwys cenedlaethol sy’n llai cymhleth.
- Cydlynu ac arwain y gwaith o baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â thrwyddedu.
- Darparu cymorth technegol yn ei faes pwnc i dimau gweithredol, gan gynnwys cyngor cyn ymgeisio, a chefnogi’r gwaith o ddarparu hyfforddiant strwythuredig yn ôl y gofyn.
- Cyfrannu at wella effeithlonrwydd a pherfformiad y tîm trwyddedu, nodi cyfleoedd i newid y prosesau a’r arweiniad, a chefnogi diwylliant o welliant parhaus mewn perthynas â’ch maes penodol neilltuedig ac o safbwynt y gwaith a wneir ar draws y meysydd penodol
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae’n ymwneud â’r broses drwyddedu.
- Profiad ymarferol o asesu ceisiadau perthnasol am drwyddedau neu eu defnyddio o fewn rôl sicrhau cydymffurfedd.
- Profiad o gyflenwi’r datrysiadau gorau posibl trwy ddadansoddi gwybodaeth yn effeithiol a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg.
- Profiad o ddefnyddio sgiliau hyfforddi a mentora.
- Profiad o gyflenwi gwasanaeth i gwsmeriaid a’r gallu i ddylanwadu a pherswadio er mwyn cyflawni canlyniadau amgylcheddol.
- Profiad o gyflwyno gwelliannau / effeithlonrwydd i brosesau.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
- Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.