Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru
Dyddiad cau: 4 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 5 £36,246 - £39,942 | Lleoliad: De-ddwyrain Cymru
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Coedwig Genedlaethol Cymru / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2027
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos syn dechrau 23 Mehefin 2025
Rhif swydd: 203246
Y rôl
Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm o swyddogion cyswllt coedwigoedd cenedlaethol ymroddedig a fydd yn ymgysylltu’n uniongyrchol ag ystod eang o ffermwyr, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid er mwyn cyflawni statws coedwig genedlaethol ar gyfer safleoedd ychwanegol.
Deiliad y swydd fydd y pwynt cyswllt cyntaf i ffermwyr, tirfeddianwyr, rheolwyr tir a grwpiau cymunedol sy’n ceisio cyngor ac arweiniad ynghylch rheoli coetiroedd, creu coetiroedd, ymgysylltu â’r gymuned, a mynediad i’r cyhoedd.
Bydd yn gweithio mewn ffordd arloesol gyda phartneriaid eraill i ddod â sgiliau a gwybodaeth hanfodol i mewn, lle bo angen, i sectorau penodol. Bydd yn darparu cyngor i randdeiliaid sy’n cefnogi rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Stacey Delbridge ar stacey.delbridge@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae tîm Coedwig Genedlaethol Cymru yn rhan o grŵp Tir a Natur yr Adran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol o fewn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.
Mae’r adran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol yn berchen ar y canlyniadau amgylchedd a phobl un llais, ar ran CNC, ar gyfer pob ecosystem, tir, dŵr a môr, a meysydd trawsbynciol o’r Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol, er mwyn hwyluso cyflawni gweledigaeth y cynllun corfforaethol o natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd, ac yn eu diffinio.
Byddwn yn hwyluso cyflawni’r canlyniadau hyn drwy arwain proses o gynllunio amgylcheddol integredig, canolbwyntio adnoddau ar weithgarwch a fydd â’r effaith fwyaf, a gweithio gydag adrannau, gwasanaethau cyflawni a mecanweithiau eraill ar draws CNC, yn Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner, a’u cynghori.
Mae tîm Coedwig Genedlaethol Cymru yn cyflawni rhaglen Coedwig Genedlaethol Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru fel rhan o’u hymrwymiad rhaglen lywodraethu i ddatblygu rhwydwaith cenedlaethol o goetiroedd gwydn ar gyfer pobl a natur.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys ffermwyr, cymunedau a thirfeddianwyr o bob cwr o Gymru, a’u hannog i fod yn frwdfrydig ynghylch sut y gall coetiroedd newydd gyflawni eu dyheadau gan hefyd ddarparu buddion amlswyddogaethol i’r amgylchedd, y gymdeithas a’r economi.
- Rhoi cyngor i gydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio, dod o hyd i ffrydiau ariannu a hyrwyddo arfer gorau ar gyfer rheoli a chreu coetiroedd. Ochr yn ochr â chynorthwyo tirfeddianwyr ac asiantau coedwigaeth i nodi ymgyngoreion, ffynonellau gwybodaeth a chysylltiadau perthnasol, hwyluso’r gwaith o baratoi cynlluniau creu coetir a chynlluniau rheoli coetir o ansawdd uchel sy’n cydymffurfio â Safonau Coedwigaeth y DU.
- Gweithredu fel y pwynt cyswllt ar gyfer cynigion ac ymholiadau’r goedwig genedlaethol. Bydd y swyddogion cyswllt yn delio’n rhagweithiol â materion cymhleth a dadleuol sy’n ymwneud â phobl a buddiannau coetiroedd, gan arwain at gyflawni canlyniadau prosiect a datblygu meysydd gwaith yn ôl yr angen.
- Cynghori ar argymhellion ar gyfer safleoedd coedwigoedd cenedlaethol ychwanegol y tu allan i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru trwy gymysgedd o wella a chreu coetiroedd newydd.
- Cysylltu â staff perthnasol CNC ynghylch rhyngweithiadau rhwng timau er mwyn sicrhau bod y gwaith o gyflawni rhwymedigaethau prosiect, polisi neu strategaeth yn cael ei wneud mewn modd amserol ac effeithiol.
- Cefnogi ymgysylltiad â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, Llais y Goedwig, Cyswllt Ffermio a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru; a bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth a phrofiad o goedwigaeth / creu coetiroedd / mynediad cyhoeddus / ymgysylltu â’r gymuned ym mhob cam o ddatblygu prosiectau o’u cychwyn i’w cyflawni.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â rhanddeiliaid allanol a’r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu ymrwymiad gweladwy i’ch datblygiad proffesiynol parhaus eich hun (neu fod yn barod i ymuno).
- Profiad amlwg o reoli prosiectau.
- Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm ac arwain grwpiau gorchwyl rhithwir.
- Profiad o reoli materion cynhennus a gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned a’r cyhoedd.
- Meddu ar sgiliau hunanreoli, trefnu a rhyngbersonol cryf ac effeithiol.
- Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd cymhleth, datrys problemau, a gwneud penderfyniadau craff.
- Yn gallu ysgrifennu dogfennau clir a chryno.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.