Swyddog Asesu Amgylcheddol, Gweithrediadau
Dyddiad cau: 04 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg o fewn Canolbarth Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Peirianneg Integredig / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203519
Y rôl
Byddwch yn rhan annatod o'r tîm Peirianneg sy'n gyfrifol am gynnal a chadw ac adeiladu asedau perygl llifogydd ac asedau coedwigoedd. Er y byddwch yn cael cefnogaeth gan eraill mewn timau tebyg a'r Tîm Asesu Amgylcheddol ehangach, bydd disgwyl i chi deithio i'r safle, naill ai ar eich pen eich hun neu gyda pheirianwyr o bob rhan o’r lle.
Yn bennaf, byddwch yn cefnogi gweithgareddau peirianwyr Perygl Llifogydd trwy chwilio am gyfleoedd i integreiddio gwelliannau amgylcheddol yn eu gwaith, a hyrwyddo polisi amgylcheddol CNC. Bydd gofyn i chi sgrinio gweithgareddau adeiladu a chynnal a chadw'r peirianwyr a chydbwyso'r risg amgylcheddol yn erbyn gwaith rheoli perygl llifogydd. Gall hyn gynnwys paratoi Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, cydsyniadau, trwyddedau a chwblhau nodiadau sgrinio amgylcheddol ar gyfer prosiectau mewnol.
Mae gennym nifer o Nodiadau Canllaw Gweithredol y bydd disgwyl i chi eu dilyn.
Fel enghraifft o'r math o waith y gallech fod yn ei wneud; Canfyddir bod coeden mewn afon yn achosi perygl llifogydd ac yn bygwth pobl a/neu eiddo. Mae'r afon wedi'i dynodi'n ACA ac mae’n cynnwys llawer o rywogaethau gwarchodedig eraill. Byddwch yn gweithio â'r peiriannydd i benderfynu ar y dull gorau o atal perygl llifogydd pellach. Unwaith y cytunir arnynt bydd disgwyl i chi wneud cais am y cydsyniadau, y trwyddedau a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd perthnasol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Nicholas Thompson ar Nicholas.Thompson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Sicrhau bod sgrinio amgylcheddol o weithgareddau Peirianneg Integredig yn cael ei gwblhau i reoli risgiau amgylcheddol ac i ymgorffori rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy o fewn prosiectau. Sicrhau bod gwaith yn gyfreithlon ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol. Mae hyn yn cynnwys paratoi Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd (Nodyn Canllaw Gweithredol 200) a chwblhau sgrinio amgylcheddol o brosiectau mewnol (Nodyn Canllaw Gweithredol 86 ac 87).
- Lle y bo'n ddichonadwy, integreiddio gwelliannau o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, bioamrywiaeth a/neu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn ein gweithgareddau gweithredol ein hunain. Cydlynu’r gwaith o gyflawni camau gweithredu perthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru i wella cyflwr safleoedd gwarchodedig mewn un neu fwy o leoedd.
- Cwblhau asesiadau cydymffurfiaeth mewn perthynas â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr o'n gweithgareddau ein hunain (Nodyn Canllaw Gweithredol 72).
- Sicrhau bod yr holl ganiatadau, cydsyniadau a thrwyddedau perthnasol ar waith i hwyluso gwaith cynnal a chadw ar ein hasedau a'n rhwydweithiau draenio ein hunain. Mae hyn yn cynnwys trwyddedau morol a thrwyddedau rhywogaethau (y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, y Ddeddf Moch Daear), gan gynnwys llunio dogfennau ategol yn unol â’r Nodiadau Canllaw Gweithredol perthnasol.
- Darparu cyngor arbenigol i gydweithwyr mewnol ar faterion sy'n ymwneud â bioamrywiaeth, safleoedd gwarchodedig, rhywogaethau a'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, gan gynnwys rheoli rhywogaethau estron goresgynnol. Hyrwyddo gwaith i fabwysiadu mesurau bioddiogelwch yn effeithiol yn ein swyddogaethau Rheoli Tir.
- Darparu cefnogaeth i’r Tîm Asesu Amgylcheddol yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu i sicrhau y cyflwynir prosiectau cyfalaf a refeniw Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd a Rheoli Tir.
- Monitro gweithrediad gwaith fel y bo'n briodol i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni ac yn cydymffurfio ag amodau perthnasol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Cymwysterau: gradd mewn cadwraeth neu ecoleg neu gyfwerth gyda phrofiad perthnasol yn yr amgylchedd gwaith.
- Gwybodaeth dda am ddeddfwriaeth, dynodiadau a sefydliadau cadwraeth; cyfraith a pholisi cynllunio; rheoli cynefinoedd er cadwraeth; polisi ac arferion dalgylch; materion a thechnegau rheoli afonydd; ac ecoleg afonydd a gwlyptiroedd, yn ogystal â sgiliau cyffredinol da o ran adnabod rhywogaethau.
- Profiad perthnasol o gymhwyso egwyddorion, polisi ac ymarfer gwyddonol i reoli'r amgylchedd.
- Gwybodaeth a phrofiad ymarferol o ran amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
- Gwybodaeth a phrofiad profedig o reoli a chyflwyno prosiectau, ymchwiliadau ac ysgrifennu adroddiadau da.
- Y gallu i ddylanwadu, trafod a chydweithio ag eraill. Mae meddu ar brofiad o ymdrin yn llwyddiannus â phobl/sefyllfaoedd anodd yn bwysig.
- Trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
- Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.