Swyddog Arbenigol, Gwelliannau Ansawdd Dŵr Morol

Dyddiad cau: 4 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132-£44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cau 'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebwyd.

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm / Gweithrediadau Rheoli Cynaliadwy Morol

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan hyd at 31 Mawrth 2026

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos   (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203894

Y rôl

Byddwch yn arwain ar gynllunio a chyflawni prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd dŵr mewn Ardaloedd Gwarchodedig Morol a chyrff dŵr Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar fewnbynnau maetholion sy'n deillio yn bennaf o arferion amaethyddol. Byddwch yn adolygu'r dystiolaeth gyfredol sy’n gysylltiedig â methiannau ansawdd dŵr i ddatblygu cynllun strategol a fydd yn rhoi datrysiadau rheoli ar waith mewn meysydd allweddol yr effeithir arnynt. Byddwch yn gweithio gyda swyddogion Ansawdd Dŵr eraill, timau CNC a rhanddeiliaid er mwyn deall y mecanweithiau mwyaf effeithiol i gyflawni'r prosiect o fewn y gyllideb a’r amserlen. Byddwch yn gweithio gyda thirfeddianwyr i weithredu gwelliannau fel plannu coed a ffensys i leihau lefel y maetholion sy'n deillio o amaethyddiaeth sy'n cyrraedd cyrsiau dŵr a chefnogi swyddogion Ansawdd Dŵr eraill i gyflawni eu camau rheoli. Gan ddefnyddio eich arbenigedd technegol, byddwch hefyd yn arwain ar ddatblygu cynllun monitro ansawdd dŵr i gyfarwyddo ble y bydd cyflenwi yn digwydd a’r opsiynau i fonitro buddion.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Lily Pauls ar lily.pauls@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Gair amdanom ni

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhoi rhaglen newydd gyffrous o waith morol ar waith gyda chefnogaeth gan Raglen Gyfalaf Dŵr Llywodraeth Cymru. Bydd CNC yn cyflwyno cyfres o brosiectau sy’n canolbwyntio ar arfordiroedd a moroedd Cymru. Yn ogystal, byddwn yn ymgymryd â gwaith dichonoldeb a thystiolaeth a fydd yn ein helpu i sicrhau gwell rheolaeth ar gyfer ein harfordiroedd a'n moroedd yn y dyfodol.

Yn y rôl hon, byddwch yn rhan o’r Tîm Rheoli Cynaliadwy Morol ac yn gweithio'n agos ag ystod o arbenigwyr technegol yn CNC, a phartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Datblygu a chefnogi’r gwaith o gyflwyno cynllun ar gyfer prosiect ansawdd dŵr morol 5 mlynedd (mynd i'r afael â llygredd maetholion sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth), gan weithio gyda swyddogion ansawdd dŵr eraill, rhanddeiliaid allanol a staff eraill CNC.
  • Paratoi asesiadau technegol a strategaethau monitro, gan ddefnyddio ystod o wybodaeth a data cymhleth;
  • Darparu cyngor technegol, cymorth ac arweiniad i'r swyddogion ansawdd dŵr.
  • Gweithredu mesurau rheoli ar lawr gwlad i wella ansawdd dŵr
  • Cynrychioli tîm y prosiect ar grwpiau technegol mewnol perthnasol, a chyfarfodydd rhanddeiliaid a sector mewnol / allanol.  Gweithredu fel yr arbenigwr technegol data.
  • Cefnogi ymgysylltu â sectorau, partneriaid a Llywodraeth Cymru; a bod yn brif bwynt cyswllt i ymholiadau ar y prosiect.
  • Darparu adroddiadau cynnydd, cynnal cofrestr risg a thasgau rheoli prosiectau cysylltiedig eraill
  • Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunir arno.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am fesurau rheoli gwella ansawdd dŵr, gweithio mewn partneriaeth a rheoli dalgylchoedd
  2. Gwybodaeth am ddeddfwriaeth ac arferion amaethyddol perthnasol sy'n gysylltiedig ag Ansawdd Dŵr.
  3. Sgiliau ardderchog o ran gweithio mewn tîm a chyfathrebu, ynghyd â’r gallu i gynrychioli’r prosiect i amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys rheolwyr tir.
  4. Profiad o ddadansoddi technegol a dehongli ystod o wybodaeth a data amgylcheddol; dadansoddi setiau data mawr.
  5. Dulliau gwybodaeth ar gyfer monitro ansawdd dŵr.
  6. Profiad o reoli prosiect a/neu gymwysterau.
  7. Profiad o gynnal contractau a rheoli cyllidebau.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.

Diweddarwyd ddiwethaf