Arbenigwr Piblinellau Dadansoddol Atgynhyrchadwy

Dyddiad cau: 4 Mehefin| Cyflog: Gradd 6 £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cau 'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebwyd.

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Dadansoddi Monitro / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol  tan 31/03/2027

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203933

Y rôl

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd.  Ein nod yw ategu ein cyngor a'n camau gweithredu â thystiolaeth gadarn.  Yn ogystal â defnyddio tystiolaeth a gynhyrchir gan eraill, mae CNC ei hun yn casglu tystiolaeth, yn arbennig drwy’r gwaith monitro amgylcheddol a wnawn.

Mae hwn yn gyfle ardderchog i wneud gwahaniaeth gyda'ch arbenigedd ar biblinellau dadansoddol atgynhyrchadwy a gwella gallu CNC i droi data o'i raglenni monitro amgylcheddol yn dystiolaeth weithredadwy.

Byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig o naw dadansoddwr data, rheolwyr data ac arbenigwyr synhwyro o bell, sy'n gweithio ym maes monitro amgylcheddol. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos â chydweithwyr yn ein hadran Data, Digidol a Thechnoleg, yn ogystal ag arbenigwyr pwnc ar wyddoniaeth amgylcheddol berthnasol.

Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth gwmpasu potensial fframweithiau TG presennol i gefnogi piblinellau dadansoddol atgynhyrchadwy, ac yn gwneud argymhellion ar gyfer arloesi a buddsoddiad yn y dyfodol i alluogi'r ffordd hon o weithio, gan ystyried ansawdd data, amserlennu, dogfennaeth, adolygiadau codau, rheoli fersiynau a rheoli dibyniaeth. Byddwch yn dylunio ac yn datblygu piblinellau newydd sy'n ymgorffori dadansoddiad ystadegol mewn R neu Python gan ddefnyddio data monitro amgylcheddol o ystod o feysydd i ddangos potensial y dull a chyfrannu at ddogfennau strategaeth a chanllawiau perthnasol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Irina Nicholas Irina.nicholas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Ar ôl 31 Mai cysylltwch â Jenny Hoyle jenny.hoyle@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Gair amdanom ni

Mae'r Tîm Dadansoddi Monitro yn rhan o Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu CNC. Mae’r tîm, sy’n cynnwys arbenigwyr technegol ym meysydd rheoli data, synhwyro o bell a dadansoddi data, a llawer ohonynt â chefndir yn y gwyddorau naturiol, yn darparu arbenigedd ar draws CNC gyfan ar reoli a dadansoddi data sy’n deillio o'n rhaglenni monitro amgylcheddol. Mae monitro amgylcheddol yn cynhyrchu tystiolaeth bwysig i gefnogi ein cenhadaeth i sicrhau adferiad natur a’i gwytnwch wrth wrthsefyll newid hinsawdd trwy reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

Bydd deiliad y swydd yn:

  • Cynnal dadansoddiadau data cymhleth a chwmpasu datrysiadau i gyfarwyddo a dylanwadu ar gyfeiriad strategol CNC ar gyfer gweithredu llifoedd gwaith dadansoddol awtomataidd, atgynhyrchadwy i sicrhau ansawdd a dadansoddi data o'i raglenni monitro amgylcheddol.
  • Cyfrannu at ddatblygu dulliau monitro a dadansoddi newydd ac arloesol i hybu effeithlonrwydd, ansawdd data a gwerth tystiolaeth monitro ac adrodd amgylcheddol CNC.
  • Rheoli prosiectau technegol cymhleth ar draws ystod eang o themâu amgylcheddol, gan weithio gydag arbenigwyr a staff technegol o bob rhan o'r sefydliad, a chyda chontractwyr a phartneriaid allanol.
  • Rhyngweithio ag ystod o gyrff llywodraeth, asiantaethau a phartneriaid sy'n gweithio ar brosiectau dadansoddol ac arferion gorau sy'n ymwneud â monitro ac adrodd amgylcheddol ar lefel Cymru a'r DU.
  • Darparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar fonitro dadansoddiad i staff ar draws y sefydliad a chyfrannu at ddogfennau strategaeth a chanllawiau sy'n berthnasol i biblinellau dadansoddol atgynhyrchadwy.
  • Mentora cydweithwyr llai profiadol yn eich tîm.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Bydd gennych brofiad a gwybodaeth sylweddol mewn un neu fwy o feysydd dadansoddi data, modelu ystadegol, a dilysu data, a dealltwriaeth gadarn o biblinellau dadansoddol atgynhyrchadwy a chymwysiadau meddalwedd perthnasol (fel R, Python, Git, AzureDevOps, GitHub, MSFabric, FME Flow).
  2. Bydd gennych brofiad blaenorol o arwain a rheoli prosiectau technegol.
  3. Byddwch yn gyfathrebwr da, a bydd gennych y gallu i deilwra cyflwyniadau ar agweddau technegol a strategol yn effeithiol i gynulleidfaoedd sydd â gwahanol lefelau o wybodaeth dechnegol.
  4. Bydd gennych sgiliau datrys problemau datblygedig, gyda'r gallu i dynnu gwybodaeth allweddol a'i chyflwyno mewn modd clir a chryno i ystod o gynulleidfaoedd yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Gofynion y Gymraeg

  • Dymunol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.

Diweddarwyd ddiwethaf