Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Adnoddau Dŵr

Dyddiad cau: 4 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7 £45,367- £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Dulliau Rheoleiddio Adnoddau Dŵr / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203934

Y rôl

Mae'r rôl Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Adnoddau Dŵr hon yn rhan o Dîm Dulliau Rheoleiddio Adnoddau Dŵr CNC o fewn Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.

Yn y rôl hon, byddwch yn darparu cyngor arbenigol ar faterion sy'n ymwneud â'n cynlluniau codi tâl ar adnoddau dŵr presennol neu yn y dyfodol. Darparu arweiniad arbenigol technegol ar gyfer cyflawni'r adolygiad strategol o ffioedd (cynhaliaeth flynyddol) ar gyfer adnoddau dŵr. 

Gweithio gydag eraill i reoli'r gwaith o baratoi polisi adnoddau dŵr perthnasol CNC, cynlluniau codi tâl, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau. Bydd hyn yn trosi polisi Llywodraeth Cymru a’r DU yn ddulliau ymarferol o ddarparu. 

Byddwch yn allweddol wrth sicrhau ein bod yn codi'r lefel briodol o incwm o ffioedd adnoddau dŵr er mwyn darparu rheolaeth gynaliadwy o adnoddau dŵr a safonau gwasanaeth disgwyliedig.

Sicrhau bod ein cynlluniau codi tâl adnoddau dŵr yn cydymffurfio â pholisi perthnasol y llywodraeth, safonau cyfrifeg a llywodraethu, polisi a gweithdrefnau mewnol.

Gweithio gyda'r Tîm Rheoli Busnes Rheoleiddio, Gweithrediadau a Thystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y sector.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Anthony Wilkes ar anthony.wilkes@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

& Caroline Harris ar caroline.harris@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Gair amdanom ni

Mae'r rôl Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Adnoddau Dŵr hon yn rhan o Dîm Dulliau Rheoleiddio Adnoddau Dŵr CNC o fewn Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

The post holder will:

  • Arwain a rheoli prosiectau a materion penodol a chymhleth lle mae angen datblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC gan gynnwys cymorth ar waith achos sy'n newydd, dadleuol neu o ddiddordeb sylweddol i’r cyhoedd.
  • Rhoi cyngor statudol i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a'r DU fel y bo'n briodol, ac yna adolygu a chynghori ynghylch y polisi, y cynlluniau a’r strategaethau a gynhyrchwyd.
  • Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth o'r maes polisi adnoddau dŵr er mwyn sicrhau uniondeb dulliau CNC gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Ganolog a bwriad Polisi'r UE.
  • Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) penodedig gan nodi goblygiadau newidiadau o ran deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au).
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
  • Llywio'r oruchwyliaeth a’r berchnogaeth o waith ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy'n gysylltiedig ag Adnoddau Dŵr
  • Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunir arno.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud ag Adnoddau Dŵr; gyrwyr polisi Cymru, Llywodraeth y DU ym maes Adnoddau Dŵr yn Strategaeth Dŵr Llywodraeth Cymru; a'r problemau a'r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o'r ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â defnyddio a rheoli adnoddau dŵr yng Nghymru.
  3. Profiad neu ddealltwriaeth fanwl o'r ddisgyblaeth / pwnc Adnoddau Dŵr a'r ystod gymhleth o yrwyr a rhwystrau i gyflawni.
  4. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
  5. Byddwch yn aelod o CIWEM neu sefydliad proffesiynol perthnasol arall a/neu'n gweithio tuag at ddod yn aelod.
  6. Profiad o gynrychioli sefydliad gyda materion proffil uchel a dadleuol yn y maes cyhoeddus.
  7. Rhannu gwybodaeth a sgiliau datrys problemau i gefnogi Penaethiaid Busnes.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

       

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.

Diweddarwyd ddiwethaf