Cynghorydd Dysgu a Hyfforddi

Dyddiad cau: 09/07/2025 | Cyflog: Gradd 4 £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Hyfforddi a Dysgu / Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203960

Y rôl

Fel Cynghorydd Hyfforddi a Dysgu, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu profiadau dysgu deniadol, effeithiol ac o ansawdd uchel i staff ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Byddwch yn rheoli cylch bywyd llawn yr hyfforddiant — o nodi anghenion dysgu a chynghori ar opsiynau o ran cyrsiau, i gydlynu archebion, cynnal cofnodion hyfforddi, rheoli cyflenwyr, olrhain presenoldeb, a chyhoeddi tystysgrifau.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda staff, rheolwyr a darparwyr allanol i sicrhau bod yr holl weithgareddau hyfforddi yn cyd-fynd ag amcanion y sefydliad ac yn cael eu cyflwyno'n effeithlon. Gan weithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer materion sy'n ymwneud â hyfforddiant, byddwch yn darparu cyngor arbenigol ar addasrwydd cyrsiau, yn goruchwylio caffael ac ymgysylltu â chyflenwyr, yn codi archebion prynu, ac yn sicrhau y rheolir ac y cyflwynir data’n gywir.

Mae hon yn rôl ddeinamig, sy'n canolbwyntio ar fanylion ac sy'n gofyn am sgiliau trefnu arbennig, cyfathrebu cryf, a'r gallu i reoli blaenoriaethau lluosog yn hyderus ac yn effeithlon.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Beth Jervis-Wilks ar Elizabeth.jervis-wilks@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Mae'r Tîm Hyfforddi a Dysgu yn adrodd i'r Rheolwr Llesiant, Iechyd a Diogelwch o fewn y Gyfarwyddiaeth Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cyflawni'r cynllun dysgu gan sicrhau'r gwerth gorau am arian.
  • Sicrhau bod unrhyw raglen hyfforddi a gyflwynir yn diwallu anghenion y busnes.
  • Hyrwyddo rhaglen hyfforddi Cyfoeth Naturiol Cymru i staff fel eu bod yn ymwybodol o argaeledd cyrsiau hyfforddi gan gynnwys sut i gofrestru.
  • Sicrhau bod tudalennau mewnrwyd Dysgu a Datblygu yn gyfredol a bod staff yn cael gwybod am ddatblygiadau.
  • Sicrhau bod gwerthusiadau ar ôl cyrsiau’n cael eu monitro a'u defnyddio gyda chyflenwyr i sicrhau bod hyfforddiant yn addas at y diben.
  • Defnyddio manyleb tendr drafft gofynion defnyddwyr a chynorthwyo gyda gwerthuso'r tendrau.
  • Sefydlu contractau hyfforddi a sicrhau bod hyfforddiant yn cynnig y gwerth gorau am arian.
  • Datblygu amserlen ddysgu i hysbysu'r busnes am pryd mae hyfforddiant ar gael.
  • Cynnal cofnodion a gwybodaeth yn unol â rheoliadau/deddfwriaeth a safonau y cytunwyd arnynt gan sicrhau bod cofnodion hyfforddi yn gyfredol
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Profiad o weithio gyda thimau ar draws y busnes a rheoli blaenoriaethau cystadleuol.
  2. Profiad o broses dendro a drafftio gofynion hyfforddi.
  3. Sgiliau trefnu da a chynllunio rhagorol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf