Ein taliadau
Newidiadau ar gyfer 2022-23
Rydym wedi ymrwymo i wella ein prosesau yn barhaus er mwyn helpu i leihau ein taliadau cymaint â phosibl.
Eleni, rydym wedi cadw'n hadolygiad blynyddol o daliadau i isafswm wrth i ni gynnal ein Hadolygiad Strategol o Godi Tâl. Mae ymgynghoriad ar yr Adolygiad Strategol o Godi Tâl bellach ar agor a bydd yn rhedeg tan 7 Ionawr 2023.
Felly, dim ond mân newidiadau, ond newidiadau angenrheidiol, i gynlluniau codi tâl presennol yr ydym yn eu gwneud, sydd fel a ganlyn:
- Cynnydd o 2.8% yn y Tâl Uned Safonol ar gyfer tynnu dŵr.
- Cynnydd o 21% yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU, sy’n cyfateb i’r cymorth trosiannol dros dro a ddarparwyd yn y flwyddyn gyntaf wrth inni adael cynllun yr Undeb Ewropeaidd.
- Cynnydd sy'n cyfateb i chwyddiant i daliadau ansawdd dŵr y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.
Cynlluniau codi tâl cyfredol
Bydd ein cynlluniau codi tâl ar gyfer 2022-23 ar waith o 1 Ebrill 2022 nes iddynt gael eu disodli gan y cynlluniau newydd a gyflwynir fel rhan o’n rhaglen Adolygiad Strategol o Godi Tâl. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr adolygiad hwnnw neu os hoffech fod yn rhan o'r broses pan ddaw'r amser, e-bostiwch SROC@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Mae cynlluniau presennol yn cwmpasu’r nifer o weithgareddau gwahanol yr ydym yn eu rheoleiddio o dan ddarnau gwahanol o ddeddfwriaeth. Caiff ein taliadau eu hadolygu’n rheolaidd, ac rydym yn ymgynghori â thalwyr taliadau a Llywodraeth Cymru cyn gwneud newidiadau.
Taliadau’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
Mae cynllun codi tâl y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2022-23 a chanllaw 2022-23 yn ymwneud â mathau gwahanol o weithrediadau y mae angen trwydded neu ganiatâd arnynt dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, gan gynnwys y canlynol:
- cyfleusterau gwastraff
- gosodiadau
- gweithrediadau gwastraff mwyngloddio
- gwaith symudol
- ansawdd dŵr (gollyngiadau i ddŵr a dŵr daear)
- sylweddau ymbelydrol
- gweithgareddau perygl llifogydd
- y Gyfarwyddeb Cyfarpar Hylosgi Canolig a rheolaethau generaduron penodol
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am daliadau ar gyfer y canlynol:
- cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff
- gweithrediadau gwastraff wedi'u heithrio
- cyfrifoldeb cynhyrchwyr
- cludo llwythi o wastraff yn rhyngwladol
Taliadau tynnu dŵr
Mae taliadau am drwyddedau tynnu dŵr yn cael eu pennu i dalu am y costau sy'n gysylltiedig â sicrhau bod adnoddau dŵr yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy.
Mae gwybodaeth am daliadau tynnu dŵr ar gael ar dudalen ein cynllun taliadau tynnu dŵr. Mae hyn yn cynnwys manylion am sut mae elfennau'r taliadau'n gweithio, gan gynnwys y Tâl Uned Safonol a Thaliadau Uned Gwella'r Amgylchedd. Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedau tynnu dŵr ar gael ar y dudalen trwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr.
Rydym yn cynyddu’r Tâl Uned Safonol 2.8% yn 2022-23 fel rhan o gynnydd arfaethedig tymor hwy i adennill cost rhaglen cynnal a chadw cyfalaf sylweddol.
Taliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)
Mae taliadau COMAH yn cwmpasu ein rôl reoleiddio fel rhan o'r awdurdod cymwys sydd â'r dasg o reoli peryglon damweiniau mawr. Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear, sy’n ffurfio Awdurdod Cymwys COMAH Cymru. Rydym yn sicrhau bod deiliaid dyletswydd yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i atal damweiniau mawr a chyfyngu ar eu canlyniadau ar gyfer iechyd pobl a'r amgylchedd.
Rydym yn codi tâl i adennill costau cyflawni swyddogaethau Rheoliadau COMAH 2015, yn seiliedig ar ddull amser a deunyddiau. Rydym yn codi anfonebau o fewn 30 niwrnod o 31 Mawrth a 30 Medi bob blwyddyn. Ein cyfradd codi tâl yw £152 fesul awr arolygydd oni nodir yn wahanol.
Nodir y ffioedd sy'n daladwy gan weithredwyr i’r awdurdod cymwys yn Rheoliad 28 o Reoliadau COMAH 2015. Golyga hyn y gall Awdurdod Cymwys COMAH godi tâl am gyflawni unrhyw swyddogaeth a nodir gan Reoliadau COMAH 2015 ac eithrio:
- unrhyw ymchwiliad troseddol neu erlyniad a gafwyd, yn y naill achos neu’r llall, o'r dyddiad y ceir unrhyw wŷs oddi wrth Lys Ynadon;
- swyddogaethau'r awdurdod cymwys sy'n gysylltiedig â pharatoi Cynlluniau Argyfwng Allanol dan Reoliad 13.
Taliadau System Masnachu Allyriadau'r DU
Gwnaeth Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ddisodli cyfranogiad y DU yn System Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd o 1 Ionawr 2021.
Datblygodd Cyfoeth Naturiol Cymru gynllun codi tâl ar gyfer System Masnachu Allyriadau’r DU y buom yn ymgynghori arno yn gynnar yn 2021 ac a weithredwyd o 1 Gorffennaf 2021. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU.
Rydym yn cynyddu’r taliadau o fewn Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU 21% ar gyfer 2022-23, sy’n gwneud yn iawn am ddileu gostyngiad ariannol â chyfyngiad amser ar gyfer y cyfnod trosiannol.
Diogelwch cronfeydd dŵr
Nod Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yw amddiffyn pobl, eiddo a seilwaith trwy leihau'r perygl o lifogydd a achosir oherwydd methiant argaeau neu gronfeydd dŵr. Mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod perchnogion a gweithredwyr cyforgronfeydd dŵr mawr yn eu rheoli’n briodol.
Rydym yn adennill cyfran o'n costau drwy ffioedd cofrestru cychwynnol, sy’n cynnwys cost pennu lefel risg y gronfa ddŵr. Mae cost y gwaith ychwanegol o fonitro cronfeydd risg uchel yn cael ei hadennill drwy daliadau blynyddol sy’n cael eu codi ar berchnogion neu weithredwyr cronfeydd dŵr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen diogelwch cronfeydd dŵr.
Rheoleiddio niwclear yng Nghymru
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal rhywfaint o waith rheoleiddio niwclear ar safleoedd yng Nghymru ar ran CNC. Mae'r taliadau yn rhan o ffioedd a thaliadau CNC, ond mae cynllun taliadau Asiantaeth yr Amgylchedd yn effeithio arnynt. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymgynghori ar wahân ar ei ffioedd a'i thaliadau.
Codi tâl am wybodaeth
Os hoffech ofyn am wybodaeth, gallwch ddarganfod mwy am yr wybodaeth yr ydym yn ei darparu am ddim a'r hyn yr ydym yn codi tâl amdani.
Codi tâl am gyngor
Gallwn ddarparu cyngor sylfaenol neu bwrpasol ac efallai y byddwn yn codi tâl am ein hamser i'w ddarparu.
Rydym yn darparu maint cyfyngedig o gyngor sylfaenol cyn ymgeisio i helpu cwsmeriaid i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud i gydymffurfio a sut i wneud cais am drwyddedau perthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen cyngor cyn ymgeisio ar gyfer trwyddedau amgylcheddol neu dudalen y gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr.
Mae cyngor pwrpasol manylach y codir tâl amdano ar gael ar gais drwy ein Gwasanaeth Cyngor Dewisol. Codir tâl am gyngor pwrpasol ar gyfradd yr awr o £125 ynghyd â TAW.
Pysgodfeydd
Rhagor o wybodaeth am ein taliadau am y canlynol:
Taliadau electronig
Os ydych am dalu am eich trwydded neu am eich cais am drwydded trwy drosglwyddiad electronig, defnyddiwch yr wybodaeth isod i wneud eich taliad.
Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Blwch SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2½ Devonshire Square, Llundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438
Gall fod y manylion a roddwyd ar eich ffurflen gais am drwydded wedi newid ers i chi ei derbyn. Byddwn yn diweddaru ein ffurflenni cyn gynted ag y bo modd, ond defnyddiwch yr wybodaeth isod wrth wneud taliadau electronig o hyn ymlaen os gwelwch yn dda.
Gwneud taliadau o'r tu allan i'r DU
Mae'r manylion hyn wedi newid. Os ydych yn talu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig (mae'n rhaid i ni dderbyn eich taliad mewn sterling), ein rhif IBAN yw GB70 NWBK6070 8010 014438 a’n rhif SWIFT/BIC yw NWBKGB2L.
Anfon eich manylion talu / eich hysbysiad talu atom dros yr e-bost
E-bostiwch eich manylion talu a manylion y math o daliad (megis 'Amrywiad Gwastraff' neu 'Ansawdd Dŵr Newydd') i Online@naturalresourceswales.gov.uk neu Online@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae'n rhaid i chi gynnwys enw’ch cwmni a rhif/cyfeirnod yr anfoneb. Os oes modd, dylech anfon hysbysiad talu hefyd. Bydd hyn yn sicrhau bod eich taliad yn cael ei brosesu’n gywir.
Dylech ddal i gynnwys eich cyfeirnod taliad BACS ar y ffurflen gais ei hun.
Os na fyddwch yn nodi cyfeirnod y taliad, efallai y bydd oedi wrth brosesu’ch taliad a’ch cais.