Ymweliadau hygyrch
Profiad o’n coetiroedd a’n gwarchodfeydd beth...
Mae treulio amser yn yr awyr agored yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i'ch hapusrwydd, felly dyna pam rydyn ni'n awyddus i bawb fynd allan, mwynhau natur a chysylltu â'r amgylchedd naturiol.
Eleni, rydyn ni'n cydweithio â Llywodraeth Cymru fel rhan o'u hymgyrch 'Helpu ni i'ch helpu chi' er mwyn annog pobl i flaenoriaethu a gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Hoffem ysbrydoli eraill i fod yn egnïol a chrwydro coedwigoedd, parciau a gwarchodfeydd natur lleol i weld holl brydferthwch Cymru ar ei gorau.
Mewn partneriaeth â GIG Cymru, rydyn ni wedi creu canllaw defnyddiol fel y gallwch chi gael mwy o hwyl yn crwydro’r coedwigoedd. Gallwch lawrlwytho'r canllawiau o waelod y dudalen hon.
Does dim ots beth sydd ar y gweill – o helfa natur i adeiladu cuddfan - bydd angen paratoi, felly dyma ychydig o bethau i fynd gyda chi wrth grwydro’r coetiroedd:
Barod? Amdani! Lawrlwythwch eich canllaw o'r ddolen ar waelod y dudalen hon nawr. Boed law neu hindda, rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i weithgaredd addas i'r teulu cyfan a fydd yn annog y plant i fynd mas i'r awyr agored y penwythnos hwn.