Bywyd gwyllt mewn coetiroedd

O goed byw sy'n cefnogi adar i goed marw sy'n cynnig cynefin i bryfed, mae coetiroedd yn darparu cartref ar gyfer llawer o anifeiliaid gwahanol.

Caiff ychydig fathau yn unig o fywyd gwyllt i gadw llygad amdanynt yn ystod ymweliad i un o'n coetiroedd eu rhestru isod.

Rydym hefyd wedi awgrymu coetir lle y bydd gennych siawns o weld pob un.

A chofiwch, pa bynnag goetir rydych chi ynddo, os ydych chi'n eistedd yn llonydd ac yn ddigon tawel, mae pob math o fywyd gwyllt yn aros i gael ei ddarganfod!

Y wiwer goch

Lle y gallaf weld in?

Coedwig Niwbwrch, Ynys Môn, gogledd Cymru

Dywedwch fwy wrthyf amdanynt

Y wiwer goch yw un o'r mamaliaid mwyaf prin ym Mhrydain.

Mae Ynys Môn yn gadarnle ar gyfer unig rywogaeth o wiwer frodorol yn y DU yn sgil gwaredu'r wiwer lwyd o'r ynys.

Mae'r gwiwerod coch yn hoffi'r cymysgedd o binwydd a rhywogaethau eraill o goed rydym yn eu tyfu yma i ddarparu bwyd a chysgod iddynt.

Pryd yw'r amser gorau i sylwi ar in?

Amser arbennig o dda i gael cipolwg ar un yw yn y bore yn ystod cyfnodau o dywydd mwynach.

Cadwch eich llygaid ar agor am fflach liwgar o goch yn y coed a gwrandewch am sŵn blychau nythu yn agor a chau wrth i'r gwiwerod fynd i mewn ac allan.

Unrhyw gynghorion ar gyfer fy ymweliad?

  • Mae Llwybr Darganfod Gwiwerod yn llwybr cylchol wedi’i arwyddo drwy'r coed o faes parcio Llyn Parc Mawr
  • Ceir paneli gwybodaeth o amgylch y llwybr gyda ffeithiau ynglŷn â'r wiwer goch
  • Efallai y byddwch hefyd yn gweld gwiwer goch ger y porthwyr o amgylch y maes parcio

Beth arall allaf ei wneud fan hyn?

Mae Coedwig Niwbwrch a’r Warchodfa Natur Genedlaethol gerllaw yn lleoedd poblogaidd i ymweld â nhw.

Ceir llawer o lwybrau cerdded, rhedeg a beicio wedi’u harwyddo, traeth tywodlyd enfawr, ac ynys hanesyddol Ynys Llanddwyn.

Rhagor o wybodaeth am ymweld â Choedwig Niwbwrch

Morgrug y coed

Lle y gallaf weld in?

Parc Coed y Brenin, ger Dolgellau, gogledd Cymru

Dywedwch fwy wrthyf amdanynt

Gall morgrugyn blewog y coed gyrraedd hyd at 12mm o hyd a gellir dod o hyd iddo yn bennaf mewn coedwigoedd conwydd – y rhan hon o dde Cymru yw oddeutu'r ardal bellaf i'r de ag y byddwch yn dod o hyd iddo.

Mae cannoedd o filoedd ohonynt yn byw mewn nythod, a wnaed o nodwyddau, dail a brigau pinwydd.

Gall rhai nythod gyrraedd ymhell dros un metr o uchder ac mae rhai o'r rhai mwyaf yng Nghoed y Brenin yn debygol o fod yn agos at gan mlwydd oed.

Pryd yw'r amser gorau i weld in?

Yn ystod y gwanwyn a'r haf ar ôl iddynt ddod allan o aeafgysgu.

Unrhyw gynghorion ar gyfer fy ymweliad?

  • Dilynwch un o'n llwybrau cerdded o amgylch y coetir a chadwch lygad am nythod morgrug ar ymyl y coetir
  • Peidiwch ag aros yn rhy hir ger nyth gan y bydd cannoedd o forgrug ar y ddaear yr holl ffordd o'i chwmpas!
  • Peidiwch â tharfu ar y nythod gyda brigau neu'ch traed – mae'r pryfed ewn hyn yn chwistrellu asid fformig ar unrhyw beth maen nhw'n ystyried sy'n fygythiad a gall yr asid hwn achosi pothellau ar y croen

Beth arall allaf ei wneud fan hyn?

Coed y Brenin oedd y ganolfan beicio mynydd gyntaf a adeiladwyd yn bwrpasol ym Mhrydain.

Mae llwybrau beicio mynydd ar gyfer pob lefel, o ddechreuwyr i feicwyr profiadol, ardal sgiliau a siop feiciau.

Mae digon o lwybrau cerdded, llwybrau rhedeg, ardaloedd chwarae i blant, a chanolfan ymwelwyr gyda chaffi a siop hefyd.

Rhagor o wybodaeth am Barc Coedwig Coed y Brenin

Barcudiaid coch

Lle y gallaf weld in?

Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth, canolbarth Cymru

Dywedwch fwy wrthyf amdanynt

Mae'r barcud coch yn aderyn ysglyfaethus digamsyniol gyda'i gorff browngoch, adenydd onglog a chwt fforchog iawn.

Daeth Bwlch Nant yr Arian yn orsaf bwydo barcudiaid coch yn 1999 fel rhan o raglen i ddiogelu'r nifer fach o'r adar hyn yn yr ardal bryd hynny.

Caiff y barcudiaid coch eu bwydo ger y llyn ym Mwlch Nant yr Arian bob prynhawn pan fydd cymaint â 150 yn dod i mewn i fwydo.

Pryd mae'r amser gorau i weld in?

Gallwch weld barcudiaid coch yn hedfan mewn cylch uwchben Bwlch Nant yr Arian drwy gydol y dydd.

Mae bwydo'r barcudiaid coch yn digwydd bob dydd am 2pm yn y gaeaf (GMT) a 3pm yn yr haf (BST).

Unrhyw gynghorion ar gyfer fy ymweliad?

  • Dilynwch y Llwybr Barcud, sy’n hygyrch i gerddwyr, o amgylch y llyn i'r ardal wylio gyda seddi neu gallwch fynd heibio i'r ardal wylio at y guddfan adar fawr er mwyn gweld y barcudiaid yn agos wrth iddynt ddisgyn i fwydo
  • Mae gan y seddi awyr agored gerllaw'r caffi olygfeydd tuag at y llyn a'r ardal bwydo barcudiaid coch - mae hwn yn lle gwych i wylio'r barcudiaid drwy eich binocwlars neu fwynhau'r olygfa o'r caffi os yw'r tywydd yn arw
  • Gallwch gael rhagor o wybodaeth am farcudiaid coch ar y paneli gwybodaeth yn y guddfan adar ac o amgylch y llyn

Beth arall allaf ei wneud fan hyn?

Mae amrywiaeth o lwybrau i gerddwyr, beicwyr mynydd a rhedwyr sydd wedi'u harwyddo o'r ganolfan ymwelwyr.

Mae caffi, siop ac ardal chwarae i blant.

Rhagor o wybodaeth am ymweld â Bwlch Nant yr Arian

Glöynnod byw

Lle y gallaf weld in?

Coetir cymunedol Coed y Bont, ger Tregaron, canolbarth Cymru

Dywedwch fwy wrthyf amdanynt

Mae coetir Coed y Bont, sydd mewn llecyn tawel yng Ngheredigion, yn cynnal cyfoeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys sawl gwahanol rywogaeth o loÿnnod byw.

Dechreuwch drwy geisio sylwi ar y rhywogaethau â phatrymau arbennig y mae’n haws eu hadnabod.

Ceisiwch sylwi ar y Trilliw Bach melyngoch â’i farciau du a melyn ar yr adain flaen, y Fantell Goch â’i streipiau coch a gwyn amlwg, a’r Fantell Paun â’i batrwm ysblennydd o smotiau llygaid.

Yna, ceisiwch sylwi ar loÿnnod byw sydd â marciau llai trawiadol, fel y Copor Bach â’i adenydd oren; y Glesyn Cyffredin cain; a Gweirlöyn y Ddôl â’i smotyn llygad du bach.

Dim ond ichi ddechrau sylwi, efallai hefyd y byddwch yn gweld rhai o’r rhywogaethau llai cyffredin sydd yma.

Pryd yw'r amser gorau i weld in?

Ar ddiwrnod cynnes.

Unrhyw gynghorion ar gyfer fy ymweliad?

  • Mae digonedd o feinciau ar hyd y llwybrau cerdded lle y gallwch eistedd yn dawel ac edrych am löynnod byw
  • Cadwch lygad am byst adnabod bywyd gwyllt ar hyd y llwybrau cerdded yn cynnwys gwybodaeth am rai o'r rhywogaethau y gellir dod o hyd iddynt yma
  • Efallai y byddwch hefyd yn dymuno mynd â chanllaw glöynnod byw gyda chi i weld sawl rhywogaeth y gallwch ddod o hyd iddynt

Beth arall allaf ei wneud fan hyn?

Ceir dau lwybr cerdded hygyrch a gwastad, llwybr cerdded cyhoeddus drwy'r coetir uchaf, ac ardal bicnic.

Mae'r gymdeithas gymunedol yn trefnu digwyddiadau yn y coetir, gan gynnwys diwrnodau cadwraeth a theithiau cerdded tymhorol.

Rhagor o wybodaeth am ymweld â Choed y Bont

Danasod

Lle y gallaf weld in?

Coetir Dyffryn Gwy, ger Cas-gwent, de Cymru

Dywedwch fwy wrthyf amdanynt

Daw danasod mewn amrywiaeth o liwiau, o frown gyda smotiau gwyn, i frown/llwyd a du a gwyn.

Y danas yw'r unig rywogaeth o garw ym Mhrydain gyda chyrn palfaidd.

Y danas oedd yr unig rywogaeth o garw yn Nyffryn Gwy am nifer o flynyddoedd.

Mae rhywogaethau eraill o geirw, megis y carw coch, yr iwrch a’r carw mwntjac, wedi symud i'r ardal ers hynny.

Pryd yw'r amser gorau i weld in?

Wrth iddi wawrio a nosi gan fod y rhan fwyaf o'r oriau yn ystod y dydd yn cael eu treulio yn 'gorwedd', pan fo'r ceirw yn gorwedd i lawr i gnoi cil rhwng cyfnodau bwydo.

Unrhyw gynghorion ar gyfer fy ymweliad?

  • Cadwch yn dawel wrth i chi gerdded drwy'r coetir
  • Edrychwch am faw ceirw – mae'r rhain yn beli llyfn, sgleiniog a thywyll sy'n finiog ar un pen ac yn aml wedi glynu at ei gilydd mewn clystyrau (gweler y ffotograff uwchben)
  • Edrychwch am olion carnau, sydd tua 6 cm o hyd, ar ddaear feddal
  • Gwrandewch am y cyfarthiadau byr a wneir gan ewigod a'u hepil pan fyddant wedi cael eu dychryn

Beth arall allaf ei wneud fan hyn?

Mae'r coetiroedd yn gartref i olygfannau hanesyddol sy'n cynnig golygfeydd ysblennydd ar draws ceunant ac afon Gwy ac ar draws i Fôr Hafren.

Mae rhai o'n llwybrau cerdded sydd wedi’u harwyddo drwy'r coetiroedd yn mynd â chi at y golygfannau hyn, gan gynnwys golygfan enwog Nyth yr Eryr.

Rhagor o wybodaeth am ymweld â Choetiroedd Dyffryn Gwy

Mursennod a gweision y neidr

Lle y gallaf weld in?

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger y Fenni, de Cymru

Dywedwch fwy wrthyf amdanynt

Ceir sawl rhywogaeth wahanol o fursen a gwas y neidr yn y DU.

Mae'r fursen yn llai ac yn deneuach na gwas y neidr ac mae'n gorffwys gyda'i hadenydd wedi plygu.

Mae gwas y neidr yn fwy na'r fursen ac mae'n cadw ei adenydd wedi'u hymestyn.

Maent yn cael eu gweld gerllaw'r dŵr gan eu bod yn bwyta pryfed eraill sy'n hedfan, yn arbennig gwybed mân a mosgitos, sy'n ffynnu o dan amodau mwy llaith.

Pryd yw'r amser gorau i weld in?

Ar ddiwrnod cynnes yn ystod yr haf ac ar ddechrau'r hydref.

Unrhyw gynghorion ar gyfer fy ymweliad?

  • Dilynwch Lwybr Pren y Gwern, sy'n mynd drwy'r coetir gwlyb ar waelod y dyffryn, sef y lle gorau i weld mursennod a gweision y neidr
  • Arhoswch yn llonydd ac edrychwch am liwiau trawiadol yn tasgu wrth i'r mursennod a gweision y neidr wibio drwy'r heulwen rhwng y coed
  • Mae'r llwybr pren yn llydan ac yn wastad ac yn addas i gadeiriau olwyn

Beth arall allaf ei wneud fan hyn?

Mae llwybr cylchol byr sy'n dringo drwy gyfres o risiau carreg garw drwy'r coetir derw a ffawydd sy'n glynu wrth ochr serth y cwm.

Ar ben y coetir hwn, mae llwybr cerdded cyhoeddus sy'n arwain i fyny allan o'r warchodfa.

Rhagor o wybodaeth am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig

Diweddarwyd ddiwethaf