Dylunio'r ollyngfa
Dylid lleoli a dylunio gollyngfeydd fel nad yw gollwng y llif o'r tŷ tyrbin yn erydu sianel yr afon, arwain at ansefydlogrwydd i lannau'r afon, neu ddenu pysgod mudol.
Nid yw cynllun amgylcheddol yr ollyngfa a'r gwaith o'i hadeiladu fel arfer yn cael eu rheoleiddio drwy drwyddedau adnoddau dŵr ond mae'n ofyniad unrhyw gydsyniad cynllunio Gwlad a Thref yn ogystal â Thrwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd neu gydsyniadau Cyrsiau Dŵr Cyffredin ar gyfer gwaith o fewn neu'n gyfagos i sianel afon.
Gweler Cymeradwyaethau, trwyddedau a chydsyniadau
Lleoli gollyngfa
Dylid lleoli'r ollyngfa ar hyd afon sefydlog a syth lle mae'r afon yn cludo gwaddod yn weithredol. Ni ddylid lleoli gollyngfeydd ar hydoedd afonydd lle mae cynefin silio pysgod da. Mae pysgod yn dodwy wyau mewn ardaloedd o dywod, graean a cherrig crynion bras sydd i'w canfod ar hydoedd graddiant isel afonydd. Gall hyd yn oed ardaloedd bach o raean ddarparu cynefin da ar gyfer silio.
Dylid gosod yr ollyngfa yn ôl o'r lan a'i halinio fel bod y gollyngiad yn mynd i mewn i'r afon ar ongl o ddim mwy na 45o o gyfeiriad llif yr afon. Mae hyn yn lleihau'r perygl o erydu ac yn atal gwaddod rhag casglu yn adeiledd yr ollyngfa.
Llun yn dangos sianel gollyngfa yn rhannol o dan y dŵr wedi'i halinio ar 45o i gyfeiriad prif lif yr afon.
Lleihau cyflymder gollyngiadau
Dylid lleoli a dylunio gollyngfeydd i leihau cyflymder llif gollyngiadau. Gall gollyngiadau cyflymder uchel erydu gwely a glannau'r afon yn ogystal â chreu llifau atynnu ar gyfer pysgod. Gellir defnyddio basnau llonyddu, swmpau, pibellau cwymp neu allfeydd tanddwr i leihau cyflymder all-lifau. Mae pibellau cwymp yn adeileddau syml lle mae llif yn disgyn o fewn siambr fertigol, yn colli ynni dros ben, ac yn caniatáu'r dŵr i ollwng ar gyflymder arafach. Ar gyfer cynlluniau llai, gellid gollwng yr all-lif ar ddeunydd gwely sefydlog fel clogfeini neu greigwely.
Lle mae cyflymder all-lif yn isel, gall gollyngiadau fod drwy ollyngfa danddwr neu drwy drefniant pant neu ffos.
Gwlyptiroedd a phantiau
Ar gyfer rhai cynlluniau llai, gellid gosod yr ollyngfa yn ôl o'r cwrs dŵr sy'n derbyn y dŵr a’i ollwng mewn pant, ffos neu dir llac, gan arwain at lif gwasgaredig i'r afon neu nant. Mae gan hyn y manteision o leihau'r gwaith adeiladu ar y glannau, gan leihau'r perygl o erydiad drwy gyflymderau gollwng is a chreu cynefin gwlyptir newydd.
Egwyddorion allweddol – cynllunio gollyngfa
- Lleoli'r ollyngfa ar hydoedd syth o'r afon lle mae gwely a glannau’r sianel yn sefydlog
- Osgoi lleoli'r ollyngfa ar hydoedd sydd â chynefinoedd silio pysgod
- Alinio'r ollyngfa ar ongl o 45o i gyfeiriad llif yr afon i atal gwaddod rhag mynd i mewn iddi ac i leihau'r perygl o erydiad a dyddodiad
- Lleihau cyflymderau gollyngfeydd trwy ddefnyddio adeiledd cwymp neu ollwng ar greigwely/clogfeini
- Cynllunio'r ollyngfa fel ei bod tanddwr, neu'n rhannol danddwr (lle nad yw lefelau dŵr ddigon dyfn ar gyfer bod yn hollol danddwr)
- Ar gyfer cynlluniau bach, ystyried gollwng drwy dir llac
- Ystyried y tirffurf lleol neu leoliad creigfeini naturiol sy'n bodoli eisoes wrth leoli gollyngfeydd i leihau addasiadau i lannau afonydd, ac osgoi'r angen am beirianneg galed ar gyfer sefydlogi glannau
- Defnyddio cerrig lleol i wynebu gollyngfeydd a lleihau'r effaith weledol ar y dirwedd
- Defnyddio sgrin bar gyda thyllau 30 mm neu 40 mm ar yr ollyngfa i atal mynediad i bysgod sy'n mudo i fyny'r afon