Arolygon lluniau geomorffoleg ar gyfer datblygiadau ynni dŵr

Rydym yn gofyn i arolwg lluniau geomorffoleg gael ei gyflwyno gyda cheisiadau ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr ar gyfer datblygiadau ynni dŵr. Yn yr adran hon, byddwn yn egluro beth i'w gynnwys o fewn yr arolwg a sut i gyflwyno'r ffotograffau o'r arolwg i ni.

Beth yw arolwg lluniau?

Mae'r arolwg lluniau yn ffordd syml i ddatblygwyr ddangos sut olwg sydd ar sianel a glannau'r afon lle mae cynllun ynni dŵr arfaethedig trwy ddefnyddio cyfres o ffotograffau. Bwriedir i'r arolwg fod yn ddogfen annhechnegol y gellir ei chwblhau yn gyflym ac yn hawdd gan berchnogion tir neu ddatblygwyr sydd â mynediad at gamera ac sydd â sgiliau TG sylfaenol.                                               

Bydd yr arolwg yn ein caniatáu i ddeall lle bydd prif adeileddau cynllun yn cael eu lleoli, sut olwg sydd ar hyd yr afon rhwng y pwyntiau hyn, a ph'un a oes unrhyw nodweddion naturiol eraill sy'n berthnasol i effaith cynllun fel mewnlifau isafonydd neu raeadrau.

Mae hefyd yn ein galluogi i ddeall sut gall cynllun effeithio ar geomorffoleg yr hyd a bydd yn ein cynorthwyo i asesu cais yn gyflymach drwy fod â gwell dealltwriaeth o safle'r datblygiad heb fod angen ymweld â'r safle. Bydd yn cynorthwyo'r broses ymgeisio am drwydded adnoddau dŵr ac yn ein caniatáu i gynghori ar ymgynghoriadau Cynllunio Gwlad a Thref ar gyfer cynlluniau ynni dŵr. Gallai hefyd gynorthwyo cynigion i symud parth rheoli pan mae safonau llif yn cael eu penderfynu yn y cam cyn-ymgeisio, h.y. Parth 2 i Barth 3.

Pryd bydd angen arolwg lluniau?

Bydd angen cyflwyno arolwg lluniau i ni gyda phob cais ffurfiol ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr newydd, amrywiadau ac adnewyddiadau. Lle mae datblygwr eisoes wedi cyflwyno arolwg lluniau i ni fel rhan o gais neu ymholiad blaenorol, ni fydd angen arolwg/asesiad geomorffolegol pellach i gefnogi cais oni bai:

  • Bod gofyn am arolwg/asesiad geomorffolegol ychwanegol gennym yn ein hymateb cyn-ymgeisio; neu
  • Lle mae lleoliad a dyluniad adeileddau’r cynllun wedi newid ers cyflwyno'r arolwg lluniau cyn-ymgeisio. Os yw hyn yn wir, dylid diweddaru'r arolwg lluniau i adlewyrchu newidiadau i'r dyluniad i gefnogi'r cais ffurfiol. (Noder y bydd angen cymeradwyaeth o hyd ar unrhyw newidiadau i'r arolwg neu'r lleoliad/dyluniad. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd angen asesiad geomorffolegol pellach.)

Beth sydd angen ei gynnwys yn adroddiad yr arolwg lluniau?

Dylai adroddiad yr arolwg gynnwys yr adrannau canlynol:

  • gwybodaeth sylfaenol am y safle
  • map o'r safle wedi'i anodi
  • lluniau o sianel yr afon:
  • disgrifiad o nodweddion eraill y sianel

Gwybodaeth sylfaenol am y safle

Dylai adroddiad yr arolwg gynnwys gwybodaeth sylfaenol am y safle:

  • cyfeiriad neu leoliad y safle gydag enw'r afon os yw'n hysbys
  • cyfeirnod grid ac uchder (mewn metrau uwch na'r Datwm Ordnans) crib y gored arfaethedig
  • cyfeirnod grid ac uchder (mewn metrau uwch na'r Datwm Ordnans) gwrthfwa’r ollyngfa arfaethedig
  • cyfeirnod grid ac uchder (mewn metrau uwch na'r Datwm Ordnans) y lefel llawr gorffenedig ar gyfer y tŷ tyrbin arfaethedig
  • hyd a llethr gwely y dyfroedd sydd wedi'u disbyddu (wedi'u mesur i lawr canol y sianel)

'Mewn metrau uwch na'r Datwm Ordnans' yw uchder absoliwt a fesurir uwch datwm sy'n cynrychioli’r lefel môr gymedrig.

Gellir dangos uchderau hefyd mewn perthynas â'r gwely/cored sy'n bodoli eisoes, neu drwy ffotograffau gyda'r adeiledd wedi'i lunio arnynt a chyda lefel ategol mewn perthynas â'r gwely/cored sy'n bodoli eisoes.

Map o'r safle wedi'i anodi

Dylai'r map o'r safle ddangos:

  • trefniant y cynllun arfaethedig, h.y. lleoliad y gored mewnlif, llwybr y llifddor, y tŷ tyrbin a’r ollyngfa;
  • y pwyntiau lle tynnwyd y ffotograffau ar gyfer yr arolwg a chyfeirnod y ffotograff. Dylid trefnu'r rhifau yn rhesymegol, yn ddelfrydol o i fyny'r afon i i lawr yr afon.
  • lleoliad ac ehangder unrhyw addasiadau i'r sianel, adeileddau arfaethedig ac adeileddau sy'n bodoli eisoes (dros dro a pharhaol)

Ar gyfer cynlluniau mwy, dylid cynnwys disgrifiad byr (gyda lleoliad map a/neu gyfeirnodau grid) o unrhyw weithgareddau cynnal a chadw arfaethedig a phwyntiau mynediad.

Lleoliadau adeileddau

Dylid darparu ffotograffau yn dangos lleoliadau adeileddau newydd (neu adeileddau sy'n bodoli eisoes sy'n cael eu haddasu) sydd i'w lleoli yn neu wrth y cwrs dŵr, gan gynnwys:

  • y gored/adeiledd mewnlif ac unrhyw waith cysylltiedig (e.e. waliau adain, llwybr pysgod, gwaith amddiffyn y glannau ac ati)
  • piblinellau a chroesfannau afon ar gyfer piblinellau
  • y tŷ tyrbin
  • yr ollyngfa
  • llwybrau mynediad ar ochr y glannau

Dylai'r ffotograff sy'n dangos lleoliad y mewnlif gynnwys darlun o ddimensiynau unrhyw adeileddau arfaethedig, gan gynnwys lefel crib y gored lle bo'n briodol. Gellir cyflawni hyn drwy:

  • leoli polion unioni / ffyn arolwg yn y sianel i'r lefel ofynnol pan gaiff y llun ei dynnu; neu
  • hwyrach ymlaen, drwy anodi argraffiad yn ddigidol; neu
  • anodi argraffiad â llaw

Cofiwch i hefyd gynnwys llun o'r un lleoliad ond heb ddimensiynau'r adeiledd wedi'u cynrychioli arno. Gwnewch yr un peth i ddangos lefel a maint unrhyw bwll a ellir ei greu tu ôl i'r gored.

Dyfroedd i fyny ac i lawr yr afon

Dylai ffotograffau ddangos y dyfroedd sydd i fyny'r afon o'r adeiledd mewnlif arfaethedig ac i lawr yr afon o'r ollyngfa arfaethedig. Dylid tynnu ffotograffau yn ddelfrydol gyda bwlch o un fesul 100 metr o hyd afon am 500 metr. Bydd y rhain yn ein helpu i weld a yw eich adeileddau wedi'u lleoli yn y lleoliadau gorau i leihau effaith ar geomorffoleg. 

Y dyfroedd wedi'u disbyddu

Dyma sianel yr afon rhwng y man tynnu dŵr, unrhyw bwyntiau lle mae'r biblinell yn croesi'r cwrs dŵr, y tŷ tyrbin, a'r ollyngfa ar gyfer cynllun ynni dŵr sy'n dibynnu ar lif yr afon. Dylid tynnu ffotograffau wedi'u gwasgaru'n gyfartal drwy gydol y dyfroedd wedi'u disbyddu ond dim llai nag un fesul 250 metr

Nodweddion eraill y sianel

Rydym hefyd yn dymuno gweld ffotograffau o unrhyw nodweddion sylweddol yn y sianel lle maent yn bresennol ond ddim i'w gweld yn glir o fewn ffotograffau eraill. Mae'r rhain yn cynnwys is-afonydd mewnlifol, cwlfertau, mannau croesi, neu nodweddion naturiol yn y sianel fel rhaeadrau, sgydau, pyllau, ac ardaloedd mawr o erydiad neu ddyddodiad, cwympiad ar ochrau'r glannau neu greigwely.

Nodwch yn adroddiad yr arolwg os yw mynediad cyfyngedig wedi eich atal rhag gallu tynnu'r holl luniau i'r safonau gofynnol uchod. Gallai hynny gynnwys, er enghraifft, dim mynediad i dir i fyny'r afon o'ch mewnlif arfaethedig neu drafferthion wrth gael mynediad at geunentydd.

Sut i dynnu a chyflwyno eich ffotograffau

Mae angen i'r ffotograffau o sianel yr afon gynnwys digon o fanylder i ni weld y math o waddod, glannau'r afon, deunydd y gwely a defnydd tir cyfagos ar gyfer pob rhan. Gallai fod yn bosibl cynnwys y nodweddion hyn o fewn ffotograff wedi'i gyfansoddi'n dda ac o ansawdd dda ym mhob man, cyn belled ag y gellir eu gweld yn glir o fewn y llun.

Fel arall, gellir tynnu ffotograffau ychwanegol (un yn edrych i lawr ar yr is-haen, un o'r lan ar y chwith, un o'r lan ar y dde) ym mhob safle.

Dylid cynnwys gwrthrych i ddangos graddfa ym mhob ffotograff. Gallech ddefnyddio ffon arolwg, polion unioni neu ffon fetr i nodi lled a dyfnder y sianel neu uchder rhaeadrau. Mae prennau mesur, llyfrau nodiadau a phennau ysgrifennu wedi'u gosod ar is-haen ymddangosol yn ddefnyddiol ar gyfer lluniau o waddod.

Ffotograff yn dangos gwaddodion a deunydd gwely gyda pholyn unioni i ddangos graddfa

Sut i gyflwyno'r wybodaeth hon i ni

Dylid rhoi rhifau, cyfeirnod grid a phennawd disgrifiadol i ffotograffau (e.e. edrych i fyny’r afon / i lawr yr afon, edrych i'r gogledd, gogledd-ddwyrain ac ati) a dylid mynegeio lleoliadau ar y map ategol o'r safle (e.e. dot wedi'i rifo lle cafodd y ffotograff ei dynnu gyda saeth yn dangos cyfeiriad y ffotograff).

Mae hyn yn ein caniatáu i wybod lle y gwnaethoch dynnu'r ffotograffau fel y gallwn ddeall nodweddion a phriodoleddau sianel yr afon lle rydych yn dymuno datblygu eich cynllun.

Mae'r arolwg lluniau yn adroddiad annhechnegol. Nid oes arnom angen unrhyw ddehongliad geomorffolegol technegol ychwanegol neu sylwadau heblaw am yr hyn sy'n angenrheidiol i gyfeirnodi ffotograffau neu ddarparu disgrifiad o leoliad a chyd-destun safle.

Bydd angen coladu gwybodaeth yr arolwg yn adroddiad cyn y gellir ei chyflwyno i ni. Y ffordd symlaf o wneud hyn yw gosod ffotograffau digidol mewn dogfen MS Word (neu feddalwedd debyg) a'u hanodi/mynegeio o fewn yr adroddiad. Gellir troi'r adroddiad yn ffurf PDF er cyfleustra.

Mae adroddiadau wedi'u cwblhau yn debygol o arwain at feintiau ffeil mawr. Rydym yn falch o dderbyn yr adroddiadau drwy e-bost lle bo'n bosibl.

Gellir eu hanfon i'n Canolfan Derbyn Trwyddedau yn permitreceiptcentre@naturalresourceswales.gov.uk.

Fel arall, dylid copïo'r adroddiadau i gryno ddisg neu gof bach a'u cyflwyno i'n Canolfan Derbyn Trwyddedau gyda'ch ffurflenni cais. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y byddwch yn gallu lleihau cydraniad eich ffotograffau i leihau maint y ffeil cyn belled â'u bod yn dal i ddangos nodweddion sianel yr afon yn glir.

Ni allwn dderbyn niferoedd mawr o ffotograffau nas coladwyd.

Darllenwch am gynlluniau lleoliad ar gyfer cynlluniau ynni dŵr

Diweddarwyd ddiwethaf