Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Coedwig Dyfnant mewn rhan o Gymru sy'n adnabyddus am ei bryniau tonnog, ei dyffrynnoedd gwyrdd ffrwythlon a'i phentrefi a'i ffermydd tlws.
Mae'n ardal sydd hefyd yn gyfoethog ei hanes. Roedd Owain Glyndŵr, y tywysog a fu’n ymladd dros annibyniaeth i Gymru a Chymru unedig, yn arfer marchogaeth dros y bryniau hyn ar un adeg.
Erbyn heddiw, mae'n nodedig am gyfleusterau ar gyfer marchogaeth a gyrru car a cheffyl.
Datblygwyd Llwybrau’r Enfys mewn partneriaeth â Chymdeithas Marchogion a Gyrwyr Cart a Cheffyl Dyfnant ac Efyrnwy.
Mae bron i 100 milltir o lwybrau ar gael - pum llwybr marchogaeth ceffylau a thri llwybr gyrru cart a cheffyl.
Mae arwyddbyst ar bob llwybr sy’n amrywio o lwybrau trotian hamddenol i lwybrau 16 milltir heriol i farchogion mwy profiadol sydd eisiau marchogaeth am ddiwrnod cyfan.
I weld y manylion llawn a’r mapiau ewch i wefan Llwybrau’r Enfys.
Hendre yw man cychwyn y llwybrau gyrru cart a cheffyl.
Yn y maes parcio ceir:
Mae Coedwig Dyfnant yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Sylwch:
Mae maes parcio Hendre ar y B4395 rhwng Llangadfan a Llyn Efyrnwy.
Mae yn Sir Powys.
Cyfeirnod grid yr OS yw SJ 029 148.
Mae Hendre ar fap 239 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y maes parcio yw SJ 029 151.
O faes parcio Pen-y-ffordd: trowch i'r chwith ar y B4395 (A458 Llangadfan tuag at Lyn Efyrnwy). Dilynwch y ffordd hon am filltir a hanner cyn troi i'r chwith ger bythynnod Hendre ar y gornel. Mae maes parcio Hendre 300 metr i fyny'r ffordd hon ar yr ochr dde.
O Lanfyllin: Cymerwch y B4393 ac yna trowch i'r chwith ar y B4395, gan ddilyn yr arwyddion i Lwydiarth a Phont Llogel. Trowch i'r dde ger bythynnod Hendre. Mae maes parcio Hendre 300 metr i fyny'r ffordd hon ar yr ochr dde.
Does dim angen talu i barcio ceir.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Ffôn: 0300 065 3000