Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Mae Boncyn Foel Bach yn un o blith sawl maes parcio yng Nghoedwig Clocaenog, sef ardal enfawr o goetir, gweundir agored, ac afonydd.
Y maes parcio yw man cychwyn llwybr cerdded byr.
Yn yr hydref mae’r dail yn troi’n oren cyn creu carped lliwgar o dan eich traed – llawer o hwyl i blant wrth grensian drwyddynt!
Mae ardal bicnic Boncyn Foel Bach o amgylch y maes parcio ac mae golygfeydd i’r de a’r dwyrain dros y bryniau.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae Cylchdaith Boncyn Foel Bach yn daith fer hamddenol drwy’r coetir a’i rhodfa drawiadol o goed ffawydd.
Mae rhodfa’r ffawydd yn drawiadol, yn enwedig ddechrau’r gwanwyn pan fydd y dail yn wyrdd llachar.
Mae hefyd golygfan â mainc – lle gwych am fflasg o goffi neu’ch pecyn bwyd!
Mae Clocaenog yn goedwig gonwydd anferth sydd yr un maint â 10,000 o gaeau rygbi (100km2).
Mae ar ben deheuol Mynydd Hiraethog a chafodd ei phlannu gyntaf yn y 1930au gan y Comisiwn Coedwigaeth.
Er bod gwaith yn dal i ddigwydd yn y goedwig, mae bellach yn fan i bobl ei mwynhau ac yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.
Mae gwiwerod coch yn byw yng Nghoedwig Clocaenog ond mae gweld un yn dipyn o gamp gan eu bod yn symud dros ardaloedd eang ac yn greaduriaid eithaf swil.
Mae grugieir duon prin, sy’n adnabyddus am eu defodau paru trawiadol, yn byw ar gyrion y goedwig.
Yn ogystal â Boncyn Foew Bach, mae llwybrau ag arwyddbyst yn cychwyn o sawl maes parcio arall sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Clocaenog:
Mae Coedwig Clocaenog yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig.
O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff.
Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym.
Mae Boncyn Foel Bach 6 milltir i’r de-orllewin o Ruthun.
Mae yn Sir Ddinbych.
© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2020 Arolwg Ordnans 100019741
O Ruthun, ewch ar ffordd y B5105 drwy bentref Clawddnewydd.
Ewch yn eich blaen am 1½ filltir ac mae’r maes parcio ar y dde.
Mae Boncyn Foel Bach ar fap Arolwg Ordnans (AR) 264.
Cyfeirnod grid Arolwg Ordnans y maes parcio yw SJ 055 520.
Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.