Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Mae Hendre yng Nghoedwig Dyfnant.
Mae Coedwig Dyfnant yn goedwig ucheldirol ar gyrion mynyddoedd Cambria yn union i’r de o Lyn Efyrnwy.
Mae’r goedwig yn cynnwys ardaloedd eang o gonwydd a llecynnau o goed collddail brodorol.
Mae’n adnabyddus am ei llwybrau marchogaeth a gyrru car a cheffyl ar draciau golygfaol.
Mae yna hefyd lwybr cerdded byr o'n maes parcio ym Mhont Llogel.
Hendre yw man cychwyn y llwybrau gyrru cart a cheffyl.
Yn y maes parcio ceir:
Mae bron i 100 milltir o lwybrau ar gael - pum llwybr marchogaeth ceffylau a thri llwybr gyrru cart a cheffyl yng Ngoedwig Dyfnant.
Cafodd y llwybrau hyn, a elwir yn Llwybrau’r Enfys, eu datblygu mewn partneriaeth â Chymdeithas Marchogion a Gyrwyr Car a Cheffyl Dyfnant ac Efyrnwy.
Mae arwyddbyst ar bob llwybr sy’n amrywio o lwybrau trotian hamddenol i lwybrau 16 milltir heriol i farchogion mwy profiadol sydd eisiau marchogaeth am ddiwrnod cyfan.
Mae Coedwig Dyfnant yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Hendre 18½ milltir i'r gorllewin o'r Trallwng.
Mae yn Sir Powys.
Mae Hendre ar fap Explorer 239 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y maes parcio yw SJ 029 151.
O'r Trallwng, cymerwch yr A458 tuag at Ddolgellau.
Ar ôl 14½ milltir, ychydig wedi pentref Llangadfan, trowch i'r dde, gan ddilyn arwydd B4395.
Ar ôl 2 filltir, ewch heibio maes parcio Pen y Ffordd am 1½ milltir arall cyn troi i'r chwith ar ffordd fechan wrth arwydd llwyd bychan sy’n nodi bod maes parcio ymhen 400 metr.
Dilynwch y ffordd fach hon ac mae maes parcio'r Hendre ar y dde.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw'r Trallwng.
Am fanylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.