Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Coedwig Dyfnant mewn rhan o Gymru sy'n adnabyddus am ei bryniau tonnog, ei dyffrynnoedd gwyrdd ffrwythlon a'i phentrefi a'i ffermydd tlws.
Erbyn heddiw, mae'n nodedig am gyfleusterau ar gyfer marchogaeth a gyrru car a cheffyl.
Datblygwyd Llwybrau’r Enfys mewn partneriaeth â Chymdeithas Marchogion a Gyrwyr Car a Cheffyl Dyfnant ac Efyrnwy.
Mae bron i 100 milltir o lwybrau ar gael - pum llwybr marchogaeth ceffylau a thri llwybr car a cheffyl.
Mae arwyddbyst ar bob llwybr sy’n amrywio o lwybrau trotian hamddenol i lwybrau 16 milltir heriol i farchogion mwy profiadol sydd eisiau marchogaeth am ddiwrnod cyfan.
I weld y manylion llawn a’r mapiau ewch i wefan Llwybrau’r Enfys.
Pen y Ffordd yw man cychwyn y llwybrau marchogaeth ag arwyddbyst.
Mae Pen y Ffordd yn maes parcio pwrpasol. Mae cyfleusterau yn cynnwys:
Mae Coedwig Dyfnant yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Sylwch:
Mae maes parcio Pen y Ffordd ar y B4395 rhwng Llangadfan a Llyn Efyrnwy.
Mae yn Sir Powys.
Mae Pen y Ffordd ar fap 239 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y maes parcio yw SJ 017 135.
Gallwch gyrraedd y ffordd hon oddi ar yr A458 (Mallwyd i'r Trallwng) yn Llangadfan neu oddi ar yr A490 (Llanfyllin i'r Trallwng) yn Llanfyllin, gan gymryd y B4393 ac yna troi i'r chwith ar y B4395, gan ddilyn yr arwyddion am Lwydiarth a Phont Llogel.
Does dim angen talu i barcio ceir.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Ffôn: 0300 065 3000