Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Coed Ty’n y Bedw’n swatio ar lethr serth ger Afon Ystwyth.
Mae’r ddau lwybr cerdded drwy’r coetir yn dechrau ar ochr arall y ffordd o’r maes parcio – edrychwch am yr arwyddbost mawr pren.
Mae Gwarchodfa Natur Grogwynion wrth ymyl yr afon a gallwch ei gyrraedd o’r un maes parcio â’r goedwig.
Mae llwybr pren i mewn i’r warchodfa a llwybr byr ar hyd yr afon.
Mae’r ardal bicnic fach i lawr y llwybr o’r maes parcio i mewn i’r warchodfa natur.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded
Mae’r llwybr byr hwn yn cynnig golygfeydd hyfryd ar draws y llethrau coediog serth a mainc tua hanner ffordd ar hyd y llwybr.
Mae’r llwybr hirach hwn yn dringo i fyny drwy goed ffynidwydd Douglas anferthol.
Yna, mae’n dolennu o gwmpas y bryn ar ffyrdd coedwig llydan, llwybrau glaswelltog drwy’r coetir a llwybrau cul wrth ymyl nant.
Mae meinciau ar hyd y llwybr i fwynhau’r golygfeydd dros ddyffryn Ystwyth.
Mae Gwarchodfa Natur Grogwynion wrth ymyl afon Ystwyth a gallwch ei gyrraedd o’r un maes parcio â’r goedwig.
Mae’r adran hon o’r afon yn dal i fod yn un o’r rhai gwylltaf yng Nghymru, ac mae’n newid ei chwrs yn aml ar ôl llifogydd.
Enwyd y warchodfa ar ôl hen fwynglawdd plwm ac mae graean yr afon yn llawn metelau trwm oherwydd yr hen fwyngloddiau plwm ymhellach i fyny cwm Ystwyth. Mae’r rhain yn achosi cyfuniad anarferol o rug, glaswellt ac eithin ar lan yr afon.
Mae’r golygfeydd agored ar hyd y gorlifdir yn cyferbynnu â llethrau serth y dyffryn sydd wedi’u gorchuddio â choed.
Mae bywyd gwyllt ar y warchodfa’n cynnwys y fuwch gota bum smotyn brin a chorynnod fel y bleiddgorryn sy’n byw mewn glannau graean bras.
Mae llwybr 82 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans yn dilyn yr is-ffordd sy’n mynd i’r maes parcio.
I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr beicio pellter hir hwn, ewch i wefan Sustrans.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coed Ty’n y Bedw 10 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth.
Mae yn sir Ceredigion.
Mae Coed Ty’n y Bedw ar fap Explorer 213 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SN 694 716.
Cymerwch y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed.
Ewch yn eich blaen drwy Drawscoed ac, ar ôl 1½ milltir, trowch i’r chwith yn syth ar ôl y bont.
Mae’r maes parcio ar ôl ½ milltir ar y chwith.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ceir arwyddbost ar gyfer Coed Ty’n y Bedw a Gwarchodfa Natur Grogwynion i’ch cyfeirio at y maes parcio a gallwch gyrraedd y ddau safle o’r fan yma.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.