Coedwig Tywi, ger Tregaron

Beth sydd yma

Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion diweddar effeithio'n sylweddol ar ein safleoedd.

 

Rydym yn parhau i asesu'r difrod, ond bydd hyn yn cymryd peth amser.

 

Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer.

 

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.

Croeso

Mae Coedwig Tywi yn gorchuddio'r bryniau ger tref fach Tregaron yn un o ardaloedd mwyaf anghysbell y canolbarth.

Plannwyd y goedwig gonifferaidd enfawr hon yn wreiddiol gan y Comisiwn Coedwigaeth i gynhyrchu pren ac mae'n parhau i fod yn goedwig weithredol.

Mae gan ein meysydd parcio olygfannau dros gronfa ddŵr drawiadol Llyn Brianne ac mae llwybr cerdded byr ag arwyddbyst trwy goetir at ffynnon hanesyddol.

Mae yna hefyd lwybrau a thraciau coedwigaeth sy’n addas ar gyfer cerdded, beicio mynydd a marchogaeth – nid oes arwyddbyst ar y rhain felly bydd angen map arnoch i archwilio.

Cwm Berwyn

Mae ffordd goedwigaeth yn arwain at faes parcio Cwm Berwyn.

Mae'r olygfan yn edrych i lawr y dyffryn i gyfeiriad Tregaron.

Mae clogfeini mawr yn darparu seddi anffurfiol yn yr olygfan.

Mae ardal laswelltog sy'n addas ar gyfer cael picnic ger y maes parcio.

Fannog

Mae llwybr byr o’r maes parcio bach i lawr at olygfan ar ymyl cronfa ddŵr Llyn Brianne.

Mae’r olygfan yn ymwthio allan i’r gronfa ddŵr ac mae’n fan prydferth ar gyfer ffotograffau neu bicnic ar y lan laswelltog.

Carreg Clochdy

Mae gan Garreg Clochdy faes parcio mawr gyda golygfan yn uchel uwchben cronfa ddŵr Llyn Brianne.

Mae clogfeini mawr yn darparu seddi anffurfiol i fwynhau'r golygfeydd.

Mae ardal laswelltog sy'n addas ar gyfer cael picnic ger y maes parcio.

Ffynnon Sanctaidd

Mae yna lwybr cerdded byr ag arwyddbyst tuag at hen ffynnon.

Mae'r llwybr yn mynd heibio i goed derw cnotiog ac yn croesi cerrig camu dros afon lle mae mainc bicnic.

Mae’n bosib fod y ffynnon yn perthyn i abaty Sistersaidd Ystrad Fflur sydd gerllaw – mae adfeilion yr abaty yn cael eu rheoli gan Cadw ac ar agor i ymwelwyr.

Llwybr y Ffynnon Sanctaidd

  • Gradd: Cymedrol (dysgwch am raddau’r llwybrau cerdded)
  • Pellter: 1½ milltir/2.3 cilometr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'n dilyn llwybrau cul drwy'r coetir ac ar hyd afon. Dilynwch yr arwyddbyst at y ffynnon, sef siambr lechi siâp bocs gyda thair gris. Mae’r pum carreg gamu dros yr afon tua hanner ffordd ar hyd y llwybr. Mae'r cerrig yn fawr, yn anwastad ac ar wasgar, ac maent yn llithrig pan fyddant yn wlyb. Byddwch yn ofalus wrth eu croesi ac, os oes dŵr uchel yn eu gorchuddio, bydd angen ichi ddychwelyd y ffordd y daethoch. Mae yna fainc bicnic yn union ar ôl croesi’r afon ac mae’r llwybr yn parhau heibio i weddillion hen ffermdy ac ysgubor. Mae arwyneb y llwybr yn fwdlyd, yn greigiog ac yn llawn gwreiddiau. Mae esgynfeydd a disgynfeydd serth a rhai mannau ar ochr y llwybr lle mae’r tir yn disgyn yn sydyn.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Mae Coedwig Tywi 10 milltir i'r dwyrain o Dregaron.

Mae ar fap Explorer 187 yr Arolwg Ordnans.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Aberystwyth.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae sawl maes parcio yng Nghoedwig Tywi – gweler isod am ragor o wybodaeth.

Maes parcio Cwm Berwyn

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Cod post

Y cod post ar gyfer y maes parcio hwn yw SY25 6NN.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Trowch oddi ar y B4343 ger Gwesty’r Talbot yng nghanol Tregaron a dilynwch yr arwydd brown a gwyn am Lyn Brianne.

Parhewch ar hyd yr isffordd hon am 4 milltir ac mae’r trac i faes parcio Cwm Berwyn ar y dde.

What3Words

Edrychwch ar y maes parcio hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio hwn yw SN 737 573 (Explorer Map 187).

Meysydd parcio Fannog a Charreg Clochdy

Mae gan Fannog a Charreg Clochdy olygfannau o gronfa ddŵr Llyn Brianne.

Mae’r meysydd parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Cod post

Cod post maes parcio Fannog yw LD5 4TW.

Cod post maes parcio Carreg Clochdy yw SA20 0PG.

Sylwer: efallai na fydd y codau post hyn yn eich arwain at y meysydd parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle maes parcio Carreg Clochdy.

Cyfarwyddiadau

Trowch oddi ar y B4343 ger Gwesty’r Talbot yng nghanol Tregaron a dilynwch yr arwydd brown a gwyn am Lyn Brianne.

Parhewch ar hyd yr isffordd hon am 4 milltir ac ewch heibio’r trac i faes parcio Cwm Berwyn ar y dde.

Ewch ymlaen am 6 ½ milltir arall, ac ar y gyffordd, cymerwch y tro tynn tuag at Lyn Brianne.

Ewch ymlaen am 2 filltir gan ddilyn glannau’r gronfa ddŵr ac mae maes parcio Fannog ar y dde.

Ewch ymlaen am 1 ½ milltir arall ar hyd y ffordd hon ac mae maes parcio Carreg Clochdy ar y dde.

What3Words

Edrychwch ar faes parcio Fannog ar wefan What3Words.

Edrychwch ar faes parcio Carreg Clochdy ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans (AO) ar gyfer maes parcio Fannog yw SN 810 515 (Explorer Map 187).

Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans (AO) ar gyfer maes parcio Carreg Clochdy yw SN 812 501 (Explorer Map 187).

Parcio Ffynnon Sanctaidd

Mae’r ardal parcio’n gilfan fechan – cadwch olwg am y panel gwybodaeth a pharciwch yn ofalus er mwyn peidio â rhwystro mynedfa’r eiddo cyfagos.

Mae’r parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Cod post

Y cod post ar gyfer yr ardal parcio hon yw SY25 6ES.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at yr ardal parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar yr ardal parcio.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B4343 o Dregaron tuag at Bontrhydfendigaid.

Ar ôl 5½ milltir trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn tuag at Abaty Ystrad Fflur.

Parhewch heibio'r abaty ac mae'r ffordd yn mynd yn drac sengl.

Mae’r ardal parcio’n gilfan fechan ar y chwith ar ôl tua milltir, ar ddiwedd y ffordd trac sengl – cadwch olwg am y panel gwybodaeth a pharciwch yn ofalus er mwyn peidio â rhwystro mynedfa’r eiddo cyfagos.

What3Words

Edrychwch ar yr ardal parcio hon ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer yr ardal parcio hon yw SN 755 646 (Explorer Map 187).

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf