Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mewn rhan ddiarffordd o ganolbarth Cymru sydd, serch hynny’n hawdd dod o hyd iddo, mae maes parcio a’r ardal bicnic Pont Wen yn fan cychwyn ar gyfer dau lwybr byr yng Nghoedwig Irfon.
Ceir arwyddbyst ar y ddau lwybr sy’n dilyn Afon Irfon ar ei thaith i lawr o Fynyddoedd y Cambria i ymuno ag Afon Gwy yn Llanfair-ym-muallt.
Mae Pont Wen ychydig filltiroedd o Lanwrtyd, sy’n honni mai hi yw’r dref leiaf ym Mhrydain.
Peidiwch ag anghofio am y Pwll Golchi i lawr y ordd, tuag at Lanwrtyd, ble roedd y ermwyr yn arfer golchi eu defaid cyn eu cneifio.
Mae’r rhaeadrau uwchben y pwll yn gallu bod yn ddramatig, yn enwedig ar ôl llawer o law.
Mae gan y llwybrau cerdded i gyd arwyddbyst ac yn cychwyn o faes parcio Pont Wen.
1¼ milltir/1.9 cilometr, hawdd (yno ac yn ôl)
Mae Llwybr Afon Irfon yn dro bach hawdd, gwastad sy’n addas i bawb.
Mae’n dilyn llwybr ar lan Afon Irfon a thrwy amrywiaeth o goetiroedd cyn dychwelyd ar hyd yr un llwybr yn ôl i’r maes parcio.
Mae nifer o feini mawr wedi’u gosod ar hyd y llwybr er mwyn i chi eistedd a gorwys am ychydig a mwynhau golygfeydd a synau’r afon.
Peidiwch â cholli’r coed sbriws Sitca gyda’u rhisgl plât crystiog.
1½ milltir/2.2 cilometr, cymedrol
Llwybr cylch yw Llwybr Cwm Irfon.
Mae’n dilyn yr un llwybr glan yr afon â Thaith Afon Irfon ond mae’n troi draw o’r afon pan ddaw’r wyneb caled i ben ac yn ymuno â ffordd goedwig dawel.
Mae’r ffordd goedwigaeth yn rhoi golygfeydd o’r cwm a’r gwahanol fathau o goetir cyn dychwelyd wedyn i’r maes parcio.
Mae dau lwybyr yn addas i deuluoedd, heb ddim grisiau.
Sylwch:
Mae Pont Wen yn 3 milltir i’r gogledd-orllewin o Lanwrtyd oddi ar yr A483.
Mae yn Sir Powys.
Mae Pont Wen ar fap 187 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SN 856 507.
O’r A483 yn Llanwrtyd, dilynwch yr arwyddion am Abergwesyn. Ar ôl 3½ milltir, mae maes parcio Pont Wen ar y dde, cyn cyrraedd pentref Abergwesyn.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Llanwrtyd.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Gallwch barcio yno am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Ffôn: 0300 065 3000