Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn ardal eang o dir gwlyb sy’n llenwi dyffryn llydan Afon Teifi wrth ymyl Tregaron.
O amgylch y corsydd o fawn dwfn mae gwelyau cyrs, ffeniau, glaswelltir gwlyb, coetir, afonydd a phyllau. Mae'r amrywiaeth hon o gynefinoedd yn cynnal cyfoeth o fywyd gwyllt.
Mae’r llwybr pren sydd yn hollol addas ar gyfer pawb dros dde-ddwyrain y gors yn pasio’r guddfan y gors lle gallwch fwynhau golygfa dawel o’r tirlun a’r bywyd gwyllt.
Gall cerddwyr, beicwyr a marchogwyr ddefnyddio'r llwybr aml-ddefnyddiwr sy’n dilyn hen reilffordd ar hyd ymyl y warchodfa ac mae’n cynnig golygfeydd da o Gors Caron.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded
Mae’r llwybr pren yn arwain dros rai o rannau mwyaf trawiadol y cors at guddfan fawr.
Mae’r llwybr hwn, sy’n llinelloll, yn dilyn hen reilffordd ar hyd ymyl y warchodfa ac mae’n cynnig golygfeydd da o ran helaeth o Gors Caron.
Mae'n arwain at Iard yr Hen Orsaf yn Ystrad Meurig.
Dyma oedd yr hen lwybr Rheilordd Manceinion ac Aberdaugleddau (rhan Ystrad Meurig i Dregaron) a gaeodd yn yr 1960au.
Mae llwybr 82 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans (rhan o Lwybr Beicio Ystwyth o Dregaron i Aberystwyth) yn dilyn yr un llwybr â Llwybr yr Hen Reilffordd.
Mae Cors Caron yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae’r warchodfa fawr hon yn cwmpasu ardal o dros 800ha (neu dair milltir sgwâr).
Mae’r tair cyforgors yn fyd-enwog – sef ardaloedd o fawn dwfn sydd wedi datblygu dros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf. Dyma rai o’r enghreitiau gorau o gyforgorsydd mawn ym Mhrydain, gyda miliynau o fetrau ciwbig o fawn hyd at ddyfnder o ddeg metr.
Canolbwynt y warchodfa yw afon Teifi a’i gorlifdir. O bwysigrwydd rhyngwladol fel Ardal Cadwraeth Arbennig Ewropeaidd mae’r gorlifdir helaeth yn wyllt ac anghysbell.
Mae llwybr yr hen reilordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin, sy’n dilyn ymyl Cors Caron, wedi datblygu ystod eang o gynefinoedd ers cau’r rheilordd yn y 1960au.
Mae’r rhain wedi’u hamgylchynu gan amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd, sy’n gwneud y warchodfa yn safle ardderchog ar gyfer bywyd gwyllt. Fry uwchben y warchodfa mae’n bosibl gweld barcut, hebog yr ieir, y gylfinir a’r ehedydd yn hedfan, tra bod gwas y neidr, madfall a’r dyfrgi yn symud drwy’r gors.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn un o saith safle ym Mhrosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru.
Y prosiect hwn yw’r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd Cymru.
Cors Caron yw un o’r cyforgorsydd mwyaf yn iseldir Prydain sy’n dal i dyfu, gyda mawn mor ddwfn â 10 metr o dan yr wyneb.
Mae cyforgorsydd yn un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru, ac maen nhw’n gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin.
Daeth enw cyforgorsydd o’u siâp cromennog (un o ystyron cyfor yw ‘ymchwydd’, fel yn llanw’r môr). Maen nhw’n ardaloedd o fawn sydd wedi cronni dros 12,000 o flynyddoedd a gallant fod mor ddwfn â 12 metr.
I ddysgu mwy am y gwaith adfer, cofrestru i gael e-gylchlythyron, a darllen ein newyddion diweddaraf ewch i dudalen we prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae’r toiledau ar agor bob amser.
Ni chaniateir cŵn ar Lwybr Glan yr Afon.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron 2 filltir i’r gogledd o Dregaron.
Mae yn Sir Ceredigion.
Dilynwch yr arwydd brown a gwyn o’r groesffordd yn Nhregaron tuag at y B4343 i gyfeiriad Pontrhydfendigaid.
Ar ôl 2 filltir, mae’r maes parcio ar y chwith.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ar fap Explorer 187 a 199 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y prif faes parcio yw SN 692 625.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.
Mae rhai byssus rhwng Aberystwyth a Llambed yn stopio yn Nhregaron, ac mae'r gwasanaeth o Aberystwyth i Dregaron trwy Bontrhydfendigaid yn mynd heibio Cors Caron.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’r prif faes parcio 2 filltir o Dregaron ar y B4343 i Bontrhydfendigaid.
Mae ychydig o le parcio hefyd mewn cilfan oddi ar y B4340 i’r gogledd o Fferm Maesllyn (y cyfeirnod grid OS yw SN 695 631) ac yn Iard Drenau Ystrad Meurig oddi ar y B4340 (y cyfeirnod grid OS yw SN 711 673).
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.