Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, ger Dolgellau
Un o'r mannau harddaf a mwyaf dramatig yng Nghymru
Bydd Llwybr Beicio Derwen ar gau am gwpl o wythnosau ar gyfer gwaith clirio coed.
Byddwch yn ymwybodol o goed sydd wedi syrthio ar ffyrdd y goedwig. Byddant yn cael eu clirio cyn gynted ag y bo modd. Dilynwch yr holl arwyddion a’r cyfarwyddiadau.
Mae coedwig enfawr hon yn drysor cudd o lwybrau cerdded a beicio, cyfleoedd ffotograffig a bywyd gwyllt yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Edrychwch ar y golygfeydd godidog ar draws Eryri, cael picnic ger llyn diarffordd Llyn Llywelyn a chlustfeiniwch am sain hen drenau Rheilffordd Ucheldir Cymru, sy’n rhedeg drwy’r goedwig ar eu taith o Gaernarfon i Borthmadog.
Yn ogystal â cherdded a beicio ar ein llwybrau sydd wedi’u cyfeirbwyntio, gallwch hefyd farchogaeth ceffylau ar ein llwybrau ceffylau a ffyrdd goedwig neu redeg ar y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dyma lwybr cylchol gyda golygfeydd ar draws Coedwig Beddgelert i Eryri.
Mae’n cychwyn o’r maes parcio ac yn mynd drwy’r coetir i lyn diarffordd prydferth, Llyn Llywelyn.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Mae’r llwybr cylchol byr hwn yn werth yr ymdrech ac mae’r llyn yn le prydferth i gael saib gyda golygfa wych.
Mae’r llwybr hwn yn daith hyfryd o ben gogleddol Coedwig Beddgelert gyda dringfa araf a graddol a golygfeydd cofiadwy i gyfeiriad pen dwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’n mynd heibio i’r llyn ar y ffordd yn ôl i’r maes parcio.
Gwybodaeth hygyrchedd
Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.
Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.
Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai fod cyn i chi ymweld.
I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol
Mae llwybr aml-ddefnydd Lôn Gwyrfai, o Feddgelert i Rhyd-ddu, ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn mynd drwy’r goedwig.
Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Eryri am fwy gwybodaeth.
Mae Coedwig Beddgelert wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae Llwybr Beicio Derwen yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.
Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.
Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gall fod cyn i chi ymweld.
I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol
Mae Coedwig Beddgelert 2 filltir i'r gogledd o bentref Beddgelert.
Mae yn Sir Gwynedd.
Mae Coedwig Beddgelert ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.
Cyfeirnod grid AO SH 574 503.
Dilynwch ffordd A4085 o Feddgelert i gyfeiriad Caernarfon.
Ar ôl 1 filltir, ewch heibio mynedfa Forest Holidays ac yna trowch i'r chwith nes cyrraedd llwybr.
Dilynwch y llwybr hwn am 1/2 milltir i faes parcio Coedwig Beddgelert.
Yr orsaf drenau agosaf yw Porthmadog.
Am fwy o fanylion am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Gellir parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
0300 065 3000