Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Nid yw’r pwynt gwefru cerbydau trydan yn gweithio ar hyn o bryd.

 

Gwyriadau presennol ar y llwybrau

 

Mae dargyfeiriad yn weithredol ar ddolen Moel Hafod Owen ar lwybrau beicio mynydd y Bwystfil a Chefn y Ddraig – cofiwch ddilyn dargyfeiriadau bob amser.

 

Edrychwch ar dudalen Facebook Coed y Brenin i weld y wybodaeth ddiweddaraf.

Croeso

Coed y Brenin oedd y ganolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf ym Mhrydain ac mae’n dal i fod yn un o’r cyrchfannau gorau yn y maes chwaraeon.

Mae wyth o lwybrau beicio mynydd pwrpasol yn cychwyn o’r ganolfan ymwelwyr, ac maent yn amrywio o lwybrau hawdd ar gyfer teuluoedd a dechreuwyr i lwybrau technegol ar gyfer beicwyr medrus. Mae’r cyfleusterau eraill ar gyfer beicwyr mynydd yn cynnwys siop feiciau ac ardal sgiliau lle gallwch feithrin eich technegau beicio.

Mae'r llwybrau beicio graean yn cynnig ffordd i archwilio'r parc coedwig heb fynd ar y llwybrau beicio mynydd technegol.

Y ganolfan ymwelwyr yw’r man cychwyn ar gyfer llybrau cerdded a rhedeg trwy Barc Coed y Brenin, yn ogystal â chyrsiau cyfeiriannu a llwybrau geogelcio.

Mae dau o’r llwybrau cerdded sydd wedi’u harwyddo yn addas ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio sgwter symuded oddi ar y ffordd.

Hefyd, mae yna fannau chwarae i blant, caffi a digonedd o fyrddau picnic.

Gwyliwch ein fideo

Llwybrau cerdded

Mae tri llwybr cerdded hyn yn cychwyn o faes parcio Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.

Mae mwy o lwybrau cerdded yn cychwyn o’n meysydd parcio eraill ym Mharc Coed y Brenin.

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Afon Eden

  • Gradd: Hygyrch (arwyddbyst glas) neu Hawdd (arwyddbyst melyn)
  • Cyfanswm y dringo: 105 troedfedd/35 metr
  • Pellter: 1 milltir/1.6 cilomedr
  • Amser: 45 munud
  • Disgrifiad o’r llwybr: Mae’r llwybr hygyrch glas yn llwybr llinol dwy ffordd 2 metr o led a chanddo wyneb da. Mae’n addas i gadeiriau olwyn, gyda graddiant o ddim mwy na 10% (1 mewn 10). Ceir mannau gorffwys bob 100 metr o leiaf. Wrth ddilyn y ddolen felen, byddwch yn dringo’n ôl at ffordd y goedwig ac i gyfeiriad y ganolfan ymwelwyr ar raddiant hawdd o ddim mwy nag 17% (1 mewn 6) trwy ardal lle ceir ffawydd, bedw, criafol a derw fanc. Mae’r ddolen felen yn addas ar gyfer sgwteri symudedd oddi ar y ffordd a chadeiriau gwthio a cheir meinciau i orffwys bob 150 metr o leiaf. Ni cheir grisiau na chamfeydd ar hyd y llwybr hwn.

""

Dilynwch y llwybr hygyrch i lawr trwy’r coetiroedd at y safle picnic ar lan yr afon, lle mae Afon Eden yn llifeirio dros y creigiau.

Ewch i nôl taflen llwybr pos anifeiliaid i’r ganolfan ymwelwyr a gadewch i’r ymwelwyr ifanc ddilyn y cliwiau.

Hefyd, gallwch lawrlwytho llwybr sain a chlywed am hanes a bywyd gwyllt y goedwig.

Os hoffech ddefnyddio ardal barcio hygyrch Dolgefeiliau ger yr ardal bicnic, cysylltwch â’r ganolfan ymwelwyr i gael cyfarwyddiadau.

Gallwch logi sgwter symudedd oddi ar y ffordd ‘Tramper’ yn y ganolfan ymwelwyr. Sylwer - rhaid ei archebu ymlaen llaw drwy gysylltu'r ganolfan ymwelwyr.

Llwybr sain

Dysgwch am fywyd gwyllt, coed a hanes Parc Coed y Brenin ar ein llwybr sain mp3.

Mae wedi’i gynllunio i'w ddefnyddio ar Lwybr Afon Eden ac mae'n dechrau o'r maes parcio yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.

Mae pyst wedi'u rhifo ar y llwybr cerdded sy'n dweud wrthych pryd i chwarae pob rhan.

Gan y gall signal ffonau symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig, rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain cyn eich ymweliad.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o'r sgript.

I lawrlwytho'r llwybr sain ewch i lwybrau sain a chwedlau gwerin.

Llwybr Cefndeuddwr

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 0.8 milltir/1.3 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 197 troedfedd/55 metr
  • Amser: 45 munud
  • Disgrifiad o’r llwybr: Dyma lwybr 1.5 metr o led a chanddo wyneb da, ac mae’n addas i gadeiriau gwthio a sgwteri symudedd oddi ar y ffordd. Ni cheir grisiau na chamfeydd. Byddwch yn dringo’r bryn yn raddol ar raddiant o ddim mwy na 12% (1 mewn 8). Ceir meinciau gorffwys bob 150 metr o leiaf.

""

Rhowch gynnig ar y llwybr hardd hwn sy’n addas i’r holl deulu ac sy’n arwain at olygfan Cefndeuddwr a’r ardal bicnic.

O’r fan honno, mwynhewch y golygfeydd godidog o’r Garn a’r Rhinogydd.

Os hoffech fynd i’r ardal barcio hygyrch wrth yr olygfan, gofynnwch am allwedd a chyfarwyddiadau yn y ganolfan ymwelwyr.

Gallwch logi sgwter symudedd oddi ar y ffordd ‘Tramper’ yn y ganolfan ymwelwyr. Sylwer - rhaid ei archebu ymlaen llaw drwy gysylltu'r ganolfan ymwelwyr.

Llwybr Pistyll Gain

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 4 milltir/6.5 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 745 troedfedd/227 metr
  • Amser: 2 awr
  • Disgrifiad o’r llwybr: Mae’r llwybr yn gyfuniad o ffyrdd coedwig a llwybrau cul serth, sydd yn aml yn llai na 50 centimedr o led mewn mannau, ar wyneb anwneuthuredig, anwastad, lle gallwch ddisgwyl cael mwd, cerrig a gwreiddiau coed. Ar eich ffordd i lawr at fwynglawdd aur Gwynfynydd, fe fydd yna gerrig rhydd dan draed – cadwch olwg am y postyn gwybodaeth cyn cyrraedd y rhan hon. Argymhellir eich bod yn gwisgo esgidiau cryfion. Nid yw’r llwybr hwn yn addas i fygis ag olwynion.

""

Mae Llwybr Rhaeadr Gain yn dringo dros esgair Cefndeuddwr cyn disgyn i’r dyffryn nesaf ac i lawr at gydlifiad Afon Gain ac Afon Mawddach a’u rhaeadrau dwbl.

Dyma gylchdaith anodd sy’n cynnwys cyfuniad o ffyrdd coedwig a llwybrau serth ar wyneb anwneuthuredig ac anwastad.

Cadwch at y llwybrau ag arwyddbyst, oherwydd efallai nad yw hen adeiladau a gweithfeydd y mwynglawdd yn ddiogel a cheir disgynfeydd heb rwystrau diogelwch i lawr i’r ceunentydd.

Llwybrau addas ar gyfer sgwteri symuded oddi ar y ffordd

Mae dau o’r llwybrau cerdded sydd wedi’u harwyddo yn addas ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio sgwter symuded oddi ar y ffordd (Afon Eden a Chefndauddwr).

Mae’r naill yn mynd i lawr at yr ardal bicnic ger yr afon a’r llall yn arwain i fyny’r bryn at olygfan lle ceir bwrdd picnic.

Gallwch logi sgwter symudedd oddi ar y ffordd ‘Tramper’ yn y ganolfan ymwelwyr. Sylwer - rhaid ei archebu ymlaen llaw drwy gysylltu'r ganolfan ymwelwyr.

Llwybrau beicio graean

Mae’r llwybrau graean yn gyfres o lwybrau beicio wedi’u harwyddo sy’n dilyn ffyrdd coedwig a lonydd tarmac yn bennaf.

Mae’r llwybrau’n cynnig opsiynau ar gyfer ystod o sgiliau a galluoedd.

Mae’r llwybrau’n ddelfrydol ar gyfer beiciau graean â bariau dolennog sydd â theiars cnapiog 40mm neu letach, ac ar gyfer beiciau mynydd â bariau syth ac e-feiciau mynydd/graean.

Gallai’r llwybrau hirach hefyd gynnwys darnau o drac sengl a darnau byr lle bydd angen i chi wthio neu gario eich beic.

Gradd llwybr beicio yr holl lwybrau hyn yw “ffordd goedwig a thebyg” sy’n golygu:

  • Gall graddiannau fod yn serth neu'n amrywiol.
  • Gall arwynebau fod yn anwastad, yn rhydd neu'n dyllog.

Bydd edrych ar y pellter a faint o ddringo sydd ar lwybr yn rhoi syniad da i chi o ba mor anodd fydd y llwybr i chi.

Mwy o wybodaeth

  • Lawrlwythwch gerdyn ar gyfer pob llwybr o'r adran lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.
  • Lawrlwythwch fap o’r holl lwybrau o'r adran lawrlwytho ar waelod y dudalen hon (mae hyn hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth i’ch helpu i benderfynu pa lwybr sy’n iawn i chi a chyngor ar beth i’w wneud os byddwch yn mynd i drafferthion).
  • Darllenwch y panel gwybodaeth ar ddechrau'r llwybr cyn cychwyn.

Coblynnau 

  • Gradd: Ffordd goedwig a thebyg
  • Pellter: 9.5 cilomedr (yna ac yn ôl)
  • Dringo: 91 metr
  • Amser: 1-3 awr

""

Taith hamddenol sy'n addas i'r teulu cyfan gyda lle perffaith i aros hanner ffordd.

Llwybr y Coblynnau yw'r llwybr mwyaf gwastad yng Nghoed y Brenin ac mae'n dilyn afonydd hardd Eden a Mawddach i safle picnic a thoiledau Pont Ty'n-y-groes.

Mae'r llwybr yn dychwelyd yr un ffordd.

Llwybr delfrydol ar gyfer taith hamddenol gyda phicnic wrth ymyl yr afon.

Yr Afon

  • Gradd: Ffordd goedwig a thebyg
  • Pellter: 10.9 cilomedr
  • Dringo: 84 metr
  • Amser: 1-3 awr

""

Mae llwybr Yr Afon yn addas i'r teulu cyfan.

Yn dilyn yr afon, mae'r llwybr hwn ar hyd ffyrdd y goedwig yn cynnwys rhai o rannau mwyaf prydferth y goedwig, gan gynnwys y rhaeadrau trawiadol ar afon Gain ac afon Mawddach.

Mae'n llwybr lefel isel ond mae'n cynnwys rhan fwy garw o drac preifat.

Mae cwpl o ddringfeydd byr a disgynfa serth.

Olwyn Dân

  • Gradd: Ffordd goedwig a thebyg
  • Pellter: 10.5 cilomedr
  • Dringo: 331 metr
  • Amser: 1.5-3.5 awr

""

Dringwch yn uchel i esgair Cefndeuddwr, edmygwch y golygfeydd godidog ar draws mynyddoedd garw'r Rhinogau, ac ewch am dro lle bu'r Rhufeiniaid yn gorymdeithio gynt.

Mae llwybr yr Olwyn Dân yn rhoi prawf ar eich gallu wrth i chi ddringo ar ffyrdd y goedwig allan o ddyffryn dwfn yr afon, i fyny dringfa hir a pharhaus, i'r grib.

Mae golygfeydd godidog o'r Rhinogau i'w gweld o'r copa.

Mae'r llwybr yn dychwelyd ar hyd ffordd Rufeinig hynafol Sarn Helen.

Y Fuwch Frech

  • Gradd: Ffordd goedwig a thebyg
  • Pellter: 15.5 cilomedr
  • Dringo: 444 metr
  • Amser: 2-4 awr

""

Gan fentro i ochr dawelach y goedwig, mae llwybr Y Fuwch Frech yn cynnig golygfeydd godidog o'r mynyddoedd a'r goedwig wrth i chi ddringo'n uchel uwchben y dyffryn.

Llwybr y Fuwch Frech yw'r llwybr cyntaf sy'n cynnig taith hirach na'r llwybrau eraill y gellir eu dilyn.

Mae'r llwybr yn dringo ochr y bryn gyferbyn â'r ganolfan ymwelwyr ac yn cynnig golygfeydd gwych o'r goedwig a'r mynyddoedd.

Cymerwch bwyll gyda'r traffig beicio dwy ffordd ar y llwybr cul sy'n mynd o dan yr A470.

Y Fuwch Gyfeiliorn

  • Gradd: Ffordd goedwig a thebyg
  • Pellter: 19.1 cilomedr (gallwch gyfuno'r llwybr hwn gyda llwybr Y Wrach Wen i ddilyn taith 55 cilomedr o amgylch Coed y Brenin)
  • Dringo: 555 metr
  • Amser: 2-4 awr

""

Gan droi a throelli ar hyd ffyrdd coedwig Craig Ganllwyd, mae llwybr Y Fuwch Gyfeiliorn yn cynnig golygfeydd syfrdanol o'r goedwig a'r ardal gyfagos.

Mae llwybr hwn yn dringo ar hyd ffyrdd y goedwig ar ochr dawelach y goedwig, gan ddatgelu golygfa o barc y goedwig nad ydych chi'n ei gweld fel arfer.

Mae darn byr o drac sengl ar ddechrau'r llwybr.

Cymerwch bwyll gyda'r traffig beicio dwy ffordd ar y llwybr cul sy'n mynd o dan yr A470.

Gwyllgi

  • Gradd: Ffordd goedwig a thebyg
  • Pellter: 24.9 cilomedr
  • Dringo: 758 metr
  • Amser: 2.5-4.5 awr

""

O ddringfeydd serth i fannau i groesi'r afonydd, mae'r llwybr hwn yn cynnig rhywbeth o amgylch pob cornel.

Mae llwybr Y Gwyllgi yn llwybr arall sy'n cynnig taith hirach lle mae modd dringo'n uwch.

Mae'r llwybr yn arwain at ffin ogleddol y goedwig gan eich herio gyda thair dringfa serth a'ch gwobrwyo â phedair man croesi ar draws afonydd hardd Mawddach a Gain.

Y Wrach Wen

  • Gradd: Ffordd goedwig a thebyg
  • Pellter: 36 cilomedr (gallwch gyfuno'r llwybr hwn gyda llwybr Y Fuwch Gyfeiliorn i ddilyn taith 55 cilomedr o amgylch Coed y Brenin)
  • Dringo: 1193 metr
  • Amser: 3-6 awr

""

Profwch eich cryfder ac ymwelwch â rhannau mwyaf anghysbell y goedwig lle mae cribau uchel agored yn datgelu golygfeydd mynyddig.

Bydd llwybr Y Wrach Wen yn profi'ch hunanddibyniaeth gyda dringfeydd mawr a sawl rhan lle bydd rhaid i chi gario'ch beic, gan gynnwys llwybr ceffyl mwdlyd, dringfa greigiog, serth a disgynfa serth a chul iawn lle bydd rhaid i chi gerdded ar draws nant.

Cofiwch gau'r giatiau I atal da byw rhag dianc.

Llwybrau beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

MinorTaur

  • Gradd: Glas/Cymedrol
  • Dolen 1: Pellter: 3 cilomedr. Dringo: 50 metr. Amser 20-40 munud.
  • Dolenni 1 a 2: Pellter: 5 cilomedr. Dringo: 90 metr. Amser 1 awr.
  • Dolenni 1, 2 a 3: Pellter: 9 cilomedr. Dringo: 150 metr. Amser 1-2 awr.
  • Dolenni 1-4: Pellter: 13 cilomedr. Dringo: 265 metr. Amser 1½-3 awr.

Mae’r llwybr hwn yn gyflwyniad gwych i feicio mynydd ar gyfer amrywiaeth eang o oedrannau a galluoedd.

Mae digonedd o nodweddion llawn hwyl i’w cael, yn cynnwys grisiau cerrig, rholyddion, pennau bwrdd, ysgafellau ac ambell naid.

Ceir dringfeydd byrion serth a disgynfa arw i lawr ffordd coedwig.

Mae’r llwybr wedi’i adeiladu ar ffurf pedair dolen, sy’n graddol fynd yn hirach ac yn anos.

Gall beicwyr anabl fynd ar hyd y tair dolen gyntaf ar feiciau mynydd wedi’u haddasu.

Ceir rhan fwy garw ar drac preifat yn y bedwaredd ddolen sy’n arwain i fyny at y rhaeadrau, a cheir rhwystr i’w daclo.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Temtiwr

  • Gradd: Coch/Anodd
  • Pellter: 9 cilomedr
  • Dringo: 170 metr
  • Amser: 30 munud – 1 awr

Os hoffech roi cynnig ar lwybrau mwy heriol Coed y Brenin, yna mae’r llwybr byr ond technegol hwn yn gyflwyniad gwych i ddangos ichi beth sydd o’ch blaen.

Mae’n anodd o’r cychwyn cyntaf, gyda grisiau a slabiau cerrig.

Mae’n cynnwys rhai nodweddion gradd coch a du a cheir dringfa hir a chaled i fyny ffordd coedwig.

Os gallwch ymdopi â hwn, yna byddwch wrth eich bodd â’n llwybrau eraill.

Cyflym Coch

  • Gradd: Coch/Anodd
  • Pellter: 12.6 cilomedr
  • Dringo: 270 metr
  • Amser: 1½-3 awr

Mae’r Cyflym Coch yn ddelfrydol i’r beicwyr hynny sydd wedi meistroli’r MinorTaur ac sy’n dymuno symud yn eu blaen at y radd nesaf.

Mae’r llwybr yn cysylltu rhai o’r rhannau cyflym gorau sydd i’w cael ym mharc y goedwig, gyda dringfeydd cymharol fyr.

Gyda rhannau fel ‘Dream Time’ ac ‘Uncle Fester’, mae’n hwyl a hanner!

Cefn y Ddraig

  • Gradd: Coch/Anodd
  • Pellter: 30 cilomedr
  • Dringo: 710 metr
  • Amser: 3-5 awr

Dyma glasur o lwybr nad yw’n tynnu gormod o sylw ato’i hun, ond sydd bob amser yn eich syfrdanu gyda’i safon.

Mae’r cychwyn anodd yn dangos yn gwbl glir fod yn rhaid ichi feddu ar sgiliau o’r radd flaenaf, ond yna mae’n eich arwain at y rhan ‘DreamTime’ anhygoel sy’n llifo mor rhwydd – byddwch yn breuddwydio liw dydd am y rhan hon drwy gydol eich gwaith diflas am weddill yr wythnos!

Mae ‘Big Doug’ yn eich tywys trwy Ffynidwydd Douglas anferthol, brenhinoedd Coed y Brenin.

Beiciwch yr hen ‘Hermon’ mor gyflym ag y beiddiwch, cyn dringo at fan uchaf y goedwig.

Bydd hwyl a sbri y pum disgynfa sy’n perthyn i’r ‘Adams Family’ yn eich gwobrwyo am eich holl ymdrech.

MBR

  • Gradd: Du/Anodd iawn
  • Pellter: 17.6 cilomedr
  • Dringo: 410 metr
  • Amser: 1½-3 awr

Dyma un o’r ffefrynnau; gyda chymysgedd gwych o erwinder, trac sengl cyflym a rhannau a nodweddion newydd.

Byddwch yn beicio dros greigwely, yn taclo esgynfeydd a disgynfeydd caregog rhydd, yn saethu rownd ysgafellau, yn dod o hyd i’ch rhythm dros y rholyddion enfawr, yn gwibio i lawr grisiau, yn plymio i wagle (‘Cavity’) ac yn cael eich poeri allan y pen arall gyda chymaint o steil ag y gallwch ei ennyn!

Dyma lwybr caled gyda hediadau anochel, felly gwnewch yn siŵr fod eich sgiliau ar eu gorau.

Tarw Du

  • Gradd: Du/Anodd iawn
  • Pellter: 20 cilomedr
  • Dringo: 460 metr
  • Amser: 1½-3 awr

Y Tarw Du yw llwybr gwreiddiol Coed y Brenin, a chaiff ei ystyried gan lawer fel y llwybr beicio mynydd pwrpasol cyntaf i’w adeiladu yn y DU a thu hwnt yn ôl pob tebyg.

Mae’r rhan newydd greigiog, retro (Y Slab) yn cynnwys nifer o slabiau mawr a rhai nodweddion y mae’n rhaid ymroddi’n llwyr iddynt.

Yr Anghenfil

  • Gradd: Du/Anodd iawn
  • Pellter: 35 cilomedr
  • Dringo: 1,100 metr
  • Amser 3-6 awr

Dyma’r llwybr y mae pawb yn dyheu am ei feicio.

Mae’n hir ac yn arw, a bydd yn eich ymestyn yn gorfforol ac yn feddyliol.

Gallwch ddisgwyl dringfeydd caregog rhydd, disgynfeydd dieflig, hediadau carreg, ysgafellau, pennau bwrdd a chluniadau.

Peidiwch â cholli cyfuniad y ‘Pink Heifer’ a ‘Big Doug’ lle cewch fwy na 4 cilomedr o drac sengl anhygoel trwy ffynidwydd Douglas anferthol ac aruchel.

A fyddwch yn eich llusgo eich hun i fyny’r ddringfa derfynol, yn hercian i lawr y ddisgynfa olaf wedi llwyr ymlâdd, ynteu’n derbyn yr her i ddofi’r Anghenfil?

Ardal sgiliau

Yn ardal sgiliau’r Ffowndri ceir enghreifftiau o’r nodweddion sydd i’w cael ar wahanol lefelau o lwybrau beicio mynydd graddedig.

Ceir ardaloedd hyfforddi ar gyfer beicwyr newydd, fel y gallant ddysgu a meithrin technegau beicio.

Mae hefyd yn lle gwych i feicwyr mwy profiadol gynhesu neu arafu ar ôl bod yn beicio.

Parth 1: Parth Hyfforddi

  • Graddau: Gwydd/Hawdd – Glas/Cymedrol

Os ydych yn newydd i feicio mynydd neu os ydych eisiau dysgu technegau beicio oddi ar y ffordd, y Parth Hyfforddi yw eich man cychwyn.

Parth 2: Parth Trac Unigol

  • Graddau: Gwyrdd/Hawdd, Glas/Cymedrol, Coch/Anodd, Du/Anodd iawn

Os ydych yn newydd i Goed y Brenin ac os nad ydych yn siŵr pa radd o lwybr i’w feicio, ewch i’r Parth Trac Unigol i weld beth yw lefel eich gallu.

Ceir pedair gradd o lwybr yma, o rai hawdd (gwyrdd) i rai caled (du).

Dechreuwch gyda llwybr hawdd ac ewch yn eich blaen hyd nes y byddwch wedi dod o hyd i’ch lefel.

Parth 3: Parth Rhydd

  • Graddfa: Eithafol

Mae’r Parth Rhydd yn llwybr naid/pwmp i feiciau mynydd.

Mae ganddo wyth tro ysgafell a nodweddion llawn hwyl fel rholyddion, cluniadau, dwbledi, pennau bwrdd, a grisiau i fyny ac i lawr.

Parth 4: Parth Gollwng

  • Gradd: Eithafol

Mae’r Parth Gollwng yn cynnwys y ‘Lemmingstone’, sef darn o garreg naturiol lle gellir dilyn sawl llinell – ond cofiwch edrych cyn neidio.

Bydd angen ichi feistroli’r trac coch unigol cyn rhoi cynnig ar hwn.

Cafodd Ardal Sgiliau’r Ffowndri ei hadeiladu fel rhan o Brosiect Canolfan Ragoriaeth Eryri a ariannwyd yn rhannol gan Raglen Gydgyfeirio Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE trwy gyfrwng Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Llwybrau rhedeg

Mae pump o lwybrau rhedeg ag arwyddbyst yn cychwyn wrth y ganolfan ymwelwyr ac yn arwain trwy rai o’r golygfeydd gorau ym Mharc Coed y Brenin.

Mae’r llwybrau’n amrywio o ran hyd ac maent wedi’u cynllunio ar gyfer rhedwyr dibrofiad hyd at redwyr mwy profiadol.

Maent yn cynnwys cymysgedd o draciau sengl, ffyrdd coedwig, llwybrau cyhoeddus anwneuthuredig a garw ac ambell lecyn o darmac.

Byddwch yn barod am wreiddiau, mwd a chreigiau gydag esgynfeydd a disgynfeydd serth.

  • Argymhellir eich bod yn gwisgo esgidiau rhedeg oddi ar y ffordd.
  • Byddwch yn ymwybodol y bydd lorïau cludo pren, o bosibl, yn defnyddio ffyrdd y goedwig.

Blas ar Redeg

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1 milltir/1.8 cilomedr
  • Dringo: 50 metr
  • Amser: 10-20 munud

Dyma lwybr byr, ac mae’n ddelfrydol i redwyr ifanc a’r rhai sydd eisiau rhoi cynnig ar eu hesgidiau rhedeg newydd.

Llwybr Byr Sarn Helen

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3 milltir/4.9 cilomedr
  • Dringo: 97 metr
  • Amser: 40 munud

Dringwch at esgair Cefndeudwr ac ewch o’i chwmpas, ac fe ddewch at Sarn Helen, hen ffordd Rufeinig, cyn mynd yn ôl i lawr i’r ganolfan ymwelwyr.

Llwybr Hir Sarn Helen

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 5¼ milltir/8.4 cilomedr
  • Dringo: 198 milltir
  • Amser: 1 awr

Ar ôl dringo at esgair Cefndeudwr, dechreuwch fynd i lawr i’r dyffryn.

Dilynwch Afon Gain i fyny’r afon nes cyrraedd adfeilion Fferm Penmaen, lle mae’r llwybr yn dringo’r bryn drachefn nes cyrraedd Sarn Helen, ffordd Rufeinig.

Ewch yn eich ôl heibio’r gwaith haearn canoloesol ac ar hyd ffordd y goedwig i’r ganolfan ymwelwyr.

Y Rhuthr am Aur

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 8½ milltir/13.6 cilomedr
  • Dringo: 420 metr
  • Amser: 1¼ -2 awr

Mae’r llwybr yn dringo dros esgair Cefndeudwr, ac yna’n gwyro ar hyd dau lwybr troed cyn mynd i lawr at Afon Mawddach.

Ar ôl croesi’r bont yn Nhyddyn Gwladys, byddwch yn dringo at y Gors Gopr, ac yn ei chroesi, cyn mynd i lawr heibio i dŷ Cae’n y Coed.

Ymunwch â’r llwybr ceffylau yn ôl i lawr at Afon Mawddach, ac yna dilynwch lwybr gwastad ar hyd Afon Eden yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr.

Hanner Marathon

  • Gradd: Caled
  • Pellter: 14 milltir/22.4 cilomedr
  • Dringo: 727 metr
  • Amser: 1¾-3½ awr

Ar ôl ichi ddringo at esgair Cefndeudwr, byddwch yn dod yn ôl i lawr ar ffyrdd coedwig at Afon Mawddach, gan deithio i lawr yr afon.

Dringwch y bryn nesaf, ar hyd ymyl y gors gopr, ac yna ewch i lawr eto ar hyd llwybr troed nes cyrraedd dyffryn Afon Wen.

Yna, mae’r llwybr yn dringo heibio’r Ceunant Hyll a’i nant fyrlymol.

Wrth ichi ddilyn ymyl ddwyreiniol eithaf parc y goedwig, gallwch fwynhau rhai golygfeydd annisgwyl.

Yna, ewch yn ôl i lawr at Afon Wen, gan deithio ar hyd llecyn byr o ffordd darmac.

Cewch gyfle i ddal eich gwynt wrth ichi ddilyn llawr y dyffryn rownd pen y bryn ac yn ôl at Afon Mawddach.

Mae yna un brath terfynol i’w gael ar ôl Ty’n y Groes: sef dringo’n ôl dros esgair Cefndeudwr ac i’r ganolfan ymwelwyr.

Llwybrau geogelcio

Ewch i chwilio am y geogelciau sydd ynghudd yn y goedwig ar un o blith dau lwybr geogelcio sy’n cychwyn wrth y ganolfan ymwelwyr.

Mae pob geogelc ar ffurf cynhwysydd bach gyda llyfr lòg i gofnodi eich ymweliad.

Efallai hefyd y bydd y geogelc yn cynnwys eitemau bach a adawyd gan ymwelwyr eraill, a gallwch gyfnewid y rhain am rywbeth rydych chi wedi dod ag ef gyda chi.

Mae’r llwybrau geogelcio wedi’u cynllunio ar gyfer cerddwyr. Ni chaniateir defnyddio cerbydau neu feiciau ar y safleoedd geogelcio.

Y Rhodfa Rufeinig

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3.5 milltir/5.6 cilomedr
  • Geogelciau: 7

Llwybr y Mwynwyr

  • Gradd: Caled
  • Pellter: 4.7 milltir/7.5 cilomedr
  • Geogelciau: 10

Sut i ddilyn y llwybrau geogelcio

  • Llogwch GPS yn y ganolfan ymwelwyr gyda’r cyfesurynnau wedi’u llwytho’n barod.
  • Defnyddiwch y cyfarwyddiadau ar y GPS a dilynwch eich dewis lwybr.
  • Mae’r ddau lwybr yn dilyn ffyrdd coedwig a llwybrau troed lle ceir esgynfeydd a disgynfeydd serth ar wynebau anwneuthuredig ac anwastad – argymhellir eich bod yn gwisgo esgidiau cryfion.
  • Ar ôl eich ymweliad, gallwch fynd ar y wefan ‘Geocaching’ www.geocaching.com i gofnodi eich ymweliad a’ch darganfyddiadau. Hefyd, gallwch lawrlwytho’r cyfesurynnau ar gyfer pob geogelc sydd ym mharc y goedwig ar eich GPS trwy ddefnyddio’r wefan ‘Geocaching’.

Cyfeiriannu

Rhowch brawf ar eich sgiliau darllen mapiau trwy ddod o hyd i’ch ffordd rhwng pyst marcio pren ar gwrs cyfeiriannu trwy Barc Coed y Brenin.

Mae’r pedwar cwrs cyfeiriannu parhaol yn cychwyn ac yn gorffen wrth y ganolfan ymwelwyr.

Cawsant eu cynllunio gan Gyfeirianwyr Canolbarth Cymru ac maent wedi’u graddio’n ôl safonau Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain.

I gychwyn, lawrlwythwch y mapiau ar waelod y dudalen hon neu prynwch fap A3 gwrth-ddŵr (graddfa 1:7,500) yn y ganolfan ymwelwyr ar ôl ichi gyrraedd.

Cwrs melyn

  • Gradd: Hawdd
  • Ar gyfer: Dechreuwyr a phlant
  • Pellter: 1.7 cilomedr

Mae modd cwblhau’r holl gwrs ar lwybrau da.

Cwrs oren

  • Gradd: Hawdd
  • Ar gyfer: Oedolion a phlant hŷn a all ddeall map
  • Pellter: 2.7 cilomedr

Mae’r cwrs hwn yn anos na’r cwrs melyn.

Mae ganddo byst marcio ar, neu wrth ymyl, nodweddion llinell yn ogystal â llwybrau, ac mae’n caniatáu ichi feithrin eich sgiliau llywio.

Cwrs coch

  • Gradd: Caled
  • Ar gyfer: Pobl ffit sy’n eithaf hyderus wrth ddarllen mapiau
  • Pellter: 5.3 cilomedr

Mae’r cwrs coch yn gymedrol o ran ei ofynion llywio ac mae’n cynnwys dewis o lwybrau.

Bydd angen ichi ddefnyddio nodweddion llinell ac eithrio llwybrau (er enghraifft, waliau) fel “canllaw”.

Bydd angen ichi fentro rhywfaint oddi wrth nodweddion llinell mewn man neu ddau.

Cwrs gwyrdd golau

  • Gradd: Caled
  • Ar gyfer: Cyfeirianwyr profiadol
  • Pellter: 2.7 cilomedr

Mae gofynion y cwrs hwn o ran llywio yn anos na’r cwrs coch a cheir dewis o lwybrau.

Mae rhai o’r pyst marcio ar nodweddion pwynt sydd beth pellter oddi wrth unrhyw nodweddion llinell.

Mannau chwarae i blant

Mae’r mannau chwarae wedi’u lleoli wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr ac maent wedi’u rhannu’n dri man sy’n addas i blant o wahanol oedran.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

  • tŷ chwarae
  • llithren lled dwbl
  • dysgl sy’n troi
  • siglenni dwbl
  • anifeiliaid siglo
  • wal ddringo bren
  • cerrig sarn wedi’u gwneud o garreg

Ardal chwarae hygyrch

Mae gan yr ardal chwarae isaf amrywiaeth o offer chwarae hygyrch ac mae’r tir wedi’i orchuddio gan arwyneb meddal.

Mae’r graig sy’n cylchdroi’n cynnig cyfle chwarae naturiol. Mae’n ysgogol, yn ysgafn ac yn hwylus gan nad oes angen llawer o gryfder yn y breichiau i’w symud.

Mae’r siglen nyth adar yn hawdd ei defnyddio ac yn ddiogel i blant sy’n ei chael hi’n anodd eistedd i fyny neu ddefnyddio siglenni arferol.

Mae’r offer “si-so” yn ddyluniad cynhwysol sy’n bodloni anghenion llawer o blant, yn arbennig ddefnyddwyr cadair olwyn gan fod ganddo ramp i fynd arno ac oddi arno ac mae’n rhoi gwefr arwyneb newidiol.

Ardal chwarae rhydd

Mae’r ardal chwarae rhydd yn defnyddio nodweddion naturiol megis cerrig camu, boncyffion, brigau i adeiladu cuddfan, coed ffrwythau a nant fechan.

Mae chwarae ar y nodweddion hyn dan oruchwyliaeth yn rhoi cyfle i blant archwilio, gan helpu i ddatblygu sgiliau pwysig mewn ardal fwy naturiol, a chael hwyl ar yr un pryd.

Mae’r ardal chwarae rhydd yn helpu plant i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol lle mae rhai peryglon yn dal i fodoli a rhywfaint o risg yn bresennol o hyd.

Drwy wneud hyn, mae plant yn cael budd drwy ddatblygu dulliau o reoli risg, cydsymud, cydbwysedd, a sgiliau datrys problemau, a hynny drwy chwarae hwyliog.

Gweithgareddau i blant

Llwybr pos anifeiliaid

Ewch i nôl taflen llwybr pos anifeiliaid i’r ganolfan ymwelwyr ac ewch i gyfeiriad llwybr cerdded Afon Eden.

Yna, dilynwch y cliwiau, gan gadw eich llygaid ar agor am yr anifeiliaid.

Pecynnau darganfod

Gallwch gael pecyn darganfod yn y ganolfan ymwelwyr.

Mae pob pecyn yn cynnwys pethau da a defnyddiol fel ysbienddrychau, chwyddwydrau, potiau chwilod a chardiau adnabod natur, ynghyd â chanllaw yn egluro sut i’w defnyddio.

Caffi

Yn y caffi sydd wedi’i leoli yn y ganolfan ymwelwyr, ceir golygfeydd o’r dyffryn a pharc y goedwig.

Gallwch eistedd dan do neu yn yr awyr agored ar falconi mawr.

Mae’r caffi’n cynnig diodydd poeth ac oer a byrbrydau.

Caiff cŵn ar dennyn byr eu croesawu yn y caffi.

Cyfleusterau eraill i ymwelwyr

  • cyfleuster golchi beiciau
  • cawodydd (efallai y bydd yn rhaid ichi dalu ag arian parod)

Cyfleusterau cynadledda

Mae cyfleusterau cynadledda Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin yn addas i amrywiaeth o gyfarfodydd busnes, digwyddiadau a gweithgareddau.

Dysgu mwy am gyfleusterau cynadledda Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.

Siop feiciau

Mae siop Beics Brenin wedi’i lleoli ar lefel isaf Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.

Mae Beics Brenin yn cynnig:

  • dewis eang o feiciau i’w llogi, i gyd-fynd â’r llwybrau
  • siop drwsio
  • beiciau, dillad ac ategolion i’w gwerthu
  • hyfforddiant a gwersi beicio mynydd
  • cyfres o ddigwyddiadau beicio

I gael mwy o wybodaeth a manylion am yr amseroedd agor, ewch i wefan Beics Brenin.

Gwobr Aur Croeso Cymru

Mae Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin wedi ennill Gwobr Aur Croeso Cymru.

Rhoddir y wobr hon i atyniadau sy’n gwneud ymdrech eithriadol i greu profiadau pleserus a chofiadwy i ymwelwyr.

""

Parc Coedwig Coed y Brenin

Beth am archwilio Coed y Brenin ar lwybr cerdded ag arwyddbyst sy’n cychwyn wrth un o’n meysydd parcio eraill ym mharc y goedwig:

  • Tyddyn Gwladys (llwybr cerdded sy’n mynd heibio dwy raeadr)
  • Pont Cae’n-y-coed (ein llwybr cerdded hiraf ag arwyddbyst ym mharc y goedwig)
  • Pont Ty'n-y-groes (llwybr glan afon hygyrch a thaith gerdded i fyny mynydd Penrhos)
  • Glasdir (llwybr trwy adfeilion mwynglawdd gopr gyda rhan hygyrch at olygfan sy’n edrych dros yr adfeilion)
  • Pandy (llwybr byr yng ngardd y goedwig gyda rhan hygyrch at olygfan sy’n edrych dros raeadr)

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Parc Coed y Brenin wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r cyfleusterau a geir yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin ar gyfer ymwelwyr ag anableddau yn cynnwys:

  • pedwar lle parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas o flaen prif fynedfa’r ganolfan ymwelwyr
  • llwybr hygyrch â nifer o gerfluniau cyffyrddadwy (Llwybr Afon Eden)
  • man parcio hygyrch wrth olygfan Llwybr Cefndeuddwr (gofynnwch am allwedd a chyfarwyddiadau yn y ganolfan ymwelwyr)
  • dau o’r llwybrau cerdded yn addas ar gyfer sgwter symuded oddi ar y ffordd (Afon Eden a Cefndauddwr)
  • llwybr beicio mynydd sy’n addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol (e.e. beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd). I wylio’n ffilm am Lwybr MinorTaur a chanfod pa mor addas i chi y gall fod ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol/li>
  • byrddau picnic hygyrch
  • lifft rhwng tri llawr y ganolfan ymwelwyr
  • dolen glywed yn y caffi, yr ystafelloedd cynadledda a’r ddesg wybodaeth
  • arwyddion cyfeirio â Braille y tu mewn i’r ganolfan ymwelwyr
  • toiledau hygyrch
  • cadeiriau olwyn y gellir eu llogi
  • logi sgwter symudedd oddi ar y ffordd (sylwer - rhaid ei archebu ymlaen)

Hefyd, ceir llwybrau hygyrch o dri o’n meysydd parcio eraill ym Mharc Coed y Brenin:

Dilynwch y dolenni ar waelod y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth am ymweld â’r mannau hyn.

Amseroedd agor

Mae'r ganolfan ymwelwyr, y siop a'r caffi ar agor Dydd Llun i Ddydd Sul 10yb tan 4yp.

Maent ar gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor neu edrychwch ar dudalen Facebook Coed y Brenin i weld y wybodaeth ddiweddaraf.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma neu edrychwch ar dudalen Facebook Coed y Brenin i weld y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Gwybodaeth mewn tywydd eithafol

Mewn tywydd eithafol fel eira, rhew neu wyntoedd cryfion:

  • Mae'n bosibl y byddwn yn cau’r maes parcio, y ganolfan ymwelwyr neu gyfleusterau eraill ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
  • Gallai’r maes parcio a’r ffordd tuag at y ganolfan fod yn rhewllyd – dylech ddisgwyl gyrru ar arwynebau llithrig cyn gynted ag y byddwch yn gadael yr A470.
  • Gallai arwyneb pob llwybr fod yn llithrig, yn enwedig os oes rhew o dan yr eira – nid ydym yn trin unrhyw un o’r llwybrau o amgylch y ganolfan ymwelwyr nac yn y parc coedwig.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Mae Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin 8 milltir i’r gogledd o Ddolgellau.

Cod post

Y cod post yw LL40 2HZ.

Dilynwch yr arwyddion i’r ganolfan ymwelwyr – peidiwch â mynd ar hyd y lôn dim ffordd drwodd.

Gweler y cyfarwyddiadauy isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Ceir arwyddion ar gyfer y ganolfan ymwelwyr ar yr A470.

O Ddolgellau, ewch ar hyd yr A470 i gyfeiriad Porthmadog.

Ewch trwy bentref Ganllwyd, ewch yn eich blaen am 1½ milltir, ac mae mynedfa’r ganolfan ymwelwyr ar y dde.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 723 268 (Explorer Map OL 18).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsafoedd rheilffyrdd agosaf yw Abermaw (rheilffordd Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (rheilffordd Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Bydd gwasanaethau bysiau o Ddolgellau a Blaenau Ffestiniog yn stopio ar gais wrth fynedfa’r ffordd sy’n arwain at y ganolfan ymwelwyr ar yn A470.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Ni chaniateir parcio dros nos.

Costau parcio

Codir tâl arnoch ar sail yr amser y byddwch yn parcio yng nghanolfan ymwelwyr Coed y Brenin.

Byddwch yn talu’r costau parcio pan fyddwch yn barod i adael.

Y costau yw:

  • £2 am ddwy awr
  • 40c am bob 20 munud ychwanegol (hyd at uchafswm o £7 y dydd)

Talwch gyda cherdyn neu daliad digyswllt ger rhwystr awtomatig yr allanfa wrth adael y maes parcio.

Neu rhowch rif cofrestru eich cerbyd yn un o’r peiriannau yn y maes parcio a thalwch gydag arian parod, cerdyn neu daliad digyswllt – bydd y rhwystr yn codi’n awtomatig wrth i chi yrru o’r maes parcio.

Sylwch fod y peiriant ger rhwystr awtomatig yr allanfa yn derb0yn taliadau cerdyn neu ddigyswllt yn unig.

Mae tocyn blynyddol ar werth yn nerbynfa’r ganolfan ymwelwyr.

Parcio am ddim (trigolion yr ardal) a deiliaid bathodynnau glas

Cewch barcio am ddim os ydych yn byw yn ardaloedd cod post LL40 neu LL41 neu ym mhentrefi cyfagos Arthog, Cutiau, Cardeon, Corris a Thal-y-Llyn.

Ewch â llyfr lòg eich car (dogfen V5) at ddesg groeso’r ganolfan ymwelwyr er mwyn cofrestru i barcio am ddim.

Parcio am ddim (deiliaid Bathodynnau Glas)

Cewch barcio am ddim os ydych yn ddeiliad Bathodyn Glas.

Wrth adael y maes parcio, sganiwch eich Bathodyn Glas wrth y rhwystr ymadael a bydd y rhwystr yn codi.

Beiciau

Gallwch barcio eich beic am ddim yn y rhesel feiciau o flaen Beics Brenin (y siop feiciau ar y safle).

Mae 16 o bwyntiau gwefru am ddim ar gyfer beiciau trydan wedi cael eu gosod y tu allan i'r ganolfan ymwelwyr.

Mae'r gwefrwyr yn rhai 13 amp gyda socedi sy’n gwrthsefyll y tywydd.

Mae cloeon ar gyfer beiciau ar gael yn Beics Brenin.

Cysylltu â'r ganolfan ymwelwyr

01341 440747

coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, Dolgefeiliau, Dolgellau LL40 2HZ

Lawrlwythiadau

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf