Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae maes parcio Llyn Parc Mawr a Llwybr Darganfod Gwiwerod ar gau oherwydd coed sydd wedi cwympo.
Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion diweddar effeithio'n sylweddol ar ein safleoedd.
Rydym yn parhau i asesu'r difrod, ond bydd hyn yn cymryd peth amser.
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Gwyriadau presennol ar y llwybrau
Mae dargyfeiriadau ar lwybrau marchogaeth Trot y Postmon a Throt y Goedwig ac ar Lwybr Beicio Corsica oherwydd gwaith torri a chwympo coed.
Cafodd y twyni, y corsydd arfordirol, y glannau tywodlyd a chreigiog Niwbwrch eu ffurfio dros filoedd o flynyddoedd gan y gwynt a'r môr ac maent yn gartref i amrywiaeth syfrdanol o blanhigion ac anifeiliaid.
Cwningar Niwbwrch yw un o'r systemau twyni mwyaf a’r harddaf ym Mhrydain, ac ym 1955 Cwningar Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn oedd y mannau arfordirol cyntaf yng Nghymru i gael eu dynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol.
Plannwyd y Coed pinwydd Corsica sy'n rhan o Goedwig Niwbwrch rhwng 1947 a 1965 er mwyn darparu pren ac i sefydlogi'r twyni tywod symudol.
Llyn Parc Mawr yw un o’r mannau gorau yn Niwbwrch i gael cip ar un o’n mamaliaid prinnaf, y wiwer goch – darganfyddwch fwy amdanynt o’n paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr cerdded yma.
Mae Moryd Cefni a'r pyllau y tu ôl i arglawdd Pen Cob yn noddfa i adar a bywyd gwyllt arall ac oddi yma ceir golygfeydd ar draws y foryd dros ehangder o gors arfordirol, tywod agored a môr.
Gallwch gerdded yn unrhyw fan ar y traethau ac ar y rhwydwaith o lwybrau troed neu gallwch ddilyn un o'n llwybrau cerdded sydd wedi’u cyfeirbwyntio.
Mae yna hefyd llwybrau beicio, llwybr ffitrwydd a dau lwybr rhedeg.
Mae llwybrau cerdded yn cychwyn o sawl un o'n meysydd parcio yn Niwbwrch.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Nodwch, os gwelwch yn dda:
Antur deuluol yw hon sy’n arwain i’r goedwig, y twyni a'r ynys.
Mae’r Llwybr ‘Saint, Tywod a Môr’ yn rhoi cipolwg ar nodweddion daearegol a diwylliannol unigryw Niwbwrch, ynghyd â’i hanes a chwedl Santes Dwynwen.
Gallwch ymlwybro draw i ynys Ynys Llanddwyn ar lanw isel.
Llwybr sain
Dewch i ddysgu mwy am hanes lleol a chwedl Santes Dwynwen ar ein llwybr sain MP3 Saint, Tywod a Môr.
Rhennir y llwybr sain yn adrannau sy'n cyfateb i byst wedi'u rhifo ar hyd y llwybr cerdded.
Ewch i waelod y dudalen hon i lawrlwytho'r llwybr sain MP3 Saint, Tywod a Môr.
Codwch daflen a gadewch i'r plant arwain y ffordd wrth i chi chwilio am yr anifeiliaid a'r cliwiau ar hyd y llwybr.
Neu ewch i chwilio am yr ‘arwyddion diflannu’ ar hyd y llwybr, i gael ffeithiau diddorol am y bywyd gwyllt sy’n byw yn yr ardal.
Mwynhewch y daith gylchol hon trwy goedwig, twyni a thir fferm.
Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr gwastad 1.5 medr o led sydd â wyneb dda a lleoedd pasio a mannau gorffwys bob 50 metr.
Dilynwch y llwybr ar draws y safle picnic i'r olygfan dros lyn cudd y goedwig.
Yno fe gewch wybodaeth am yr adar sy'n byw yma, neu arhoswch wrth un o'r byrddau picnic a cheisiwch weld y gwiwerod coch yn y coed.
Ar y llwybr fe welwch Sara'r wiwer goch a'i ffrindiau ac fe ddewch i wybod mwy am eu bywyd yn y goedwig o'n paneli gwybodaeth.
Ar y ffordd fe welwch rai golygfeydd gwych o'r llyn bywyd gwyllt a'r goedwig binwydd.
Cerddwch trwy'r goedwig ac ar hyd aber Afon Cefni gyda'i amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt.
O'r ddwy wylfa sydd gennym, ceisiwch weld y gweilch di-ddal yn hela am bysgod yn yr haf, neu edrychwch ar hyd y morfa heli am ei hamrywiaeth o blanhigion e.e. y gorsen gyffredin, glaswellt brodorol talaf Prydain a ddefnyddid ar gyfer gosod toi gwellt.
Mwynhewch y golygfeydd o'r Cwningar, draw tua'r mynyddoedd ac ar hyd yr arfordir ynghyd â'r arddangosfa anhygoel o flodau gwyllt.
Dewch i ddysgu mwy am hanes lleol a chwedl Santes Dwynwen ar ein llwybr sain MP3 Saint, Tywod a Môr.
Rhennir y llwybr sain yn adrannau sy'n cyfateb i byst wedi'u rhifo ar hyd y llwybr cerdded.
Ewch i waelod y dudalen hon i lawrlwytho'r llwybr sain MP3 Saint, Tywod a Môr.
Mae ein dau lwybr beicio yn ddelfrydol ar gyfer y teulu i gyd.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Codwch becyn gweithgareddau teulu o’r dosbarthwr yn y maes parcio.
Yna dilynwch y nodwyr llwybr a chwiliwch am y paneli gwybodaeth er mwyn ateb cwestiynau'r her natur.
Gwybodaeth hygyrchedd
Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.
Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.
Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai fod cyn i chi ymweld.
I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol
Mae'r llwybr cylchol hwn sydd wedi'i gyfeirbwyntio yn dilyn ffyrdd y goedwig yn bennaf a cheir yma olygfeydd o'r aber.
Mae'n ymweld ag ardaloedd o goedwig gymysg, o goed pinwydd aeddfed i goedwigoedd helyg gwlyb, ac mae’n mynd heibio i byllau, creigiau anarferol a blodau gwyllt.
Gwybodaeth hygyrchedd
Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.
Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.
Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai fod cyn i chi ymweld.
I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol
Mae dau lwybr rhedeg wedi cael eu harwyddo o faes parcio’r traeth yn Niwbwrch.
Mae’r llwybr rhedeg 5km, sy’n seiliedig ar lwybr y Parkrun wythnosol poblogaidd, yn gyflwyniad ardderchog i redeg.
Mae Llwybr Rhedeg y Gymanwlad yn dilyn rhan o lwybr ras swyddogol pencampwriaeth redeg a gynhaliwyd yma yn 2011.
Dilynwch yr arwyddbyst glas trwy’r goedwig ar gymysgedd o yrdd coedwig ag arwyneb da a llwybrau cul ar dywod rhydd lle ceir rhywfaint o wreiddiau coedamlwg. Ni cheir grisiau na giatiau ar hyd y ordd.
Mwynhewch olygfeydd y goedwig wrth eich pwysau neu ewch ati i wella eich cyflymder a’ch gwytnwch cororol o amgylch y llwybr.
Yn 2011, daeth Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd a Phellter Eitha’r Gymanwlad i Ogledd Cymru a chynhaliwyd y ras llwybr Pellter Eithaf 55 cilomedr yn Niwbwrch. Heddiw gallwch redeg (neu gerdded!) rhan o lwybr y ras swyddogol.
Mae'r llwybr rhedeg sydd wedi'i gyfeirbwyntio o faes parcio'r traeth, yn arwain trwy'r goedwig heddychlon, twyni helaeth y Gwningar ac ymlaen i ynys Ynys Llanddwyn.
Mae'r llwybr yn cynnwys ffyrdd caregog y goedwig, llwybrau cul ar dywod gyda gwreiddiau coed agored, tywod a graean rhydd, glaswelltir anwastad a thir creigiog.
Mae ‘Parkruns’ yn ddigwyddiadau cymunedol wythnosol a rhad ac am ddim sy’n cael eu cynnal ym mhob cwr o’r byd.
Cynhelir Parkrun Coedwig Niwbwrch bob dydd Sadwrn am 9 o’r gloch y bore.
Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim ond mae rhaid cofrestru cyn dod draw.
Mae Parkrun Coedwig Niwbwrch yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr ac mae croeso i bawb beth bynnag fyddwch yn ei wneud – cerdded, loncian, rhedeg, gwirfoddoli neu wylio.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Parkrun Coedwig Niwbwrch, gan gynnwys sut i gofrestru a sut i wirfoddoli yn y digwyddiad, ewch i wefan Parkrun.
Amcan y Llwybr Ffitrwydd yw gwella eich ffitrwydd a'ch iechyd tra'ch bod chi'n mwynhau harddwch y goedwig.
Mae 11 o orsafoedd ymarfer corff, ac mae dwy ohonynt yn hygyrch i gadair olwyn.
Mae gan bob gorsaf ymarfer banel cyfarwyddiadau a mainc i orffwys arni gerllaw.
Profwch eich sgiliau darllen mapiau trwy gyfeiriannu rhwng y pyst marcio pren (a elwir yn "rheolyddion" gan gyfeiriadurwyr) ar un o'r tri chwrs cyfeiriannu parhaol yng Nghoedwig Niwbwrch.
Mae'r cyrsiau'n addas ar gyfer dechreuwyr sydd yn deall map a chyfeirianwyr profiadol a chi sydd i benderfynu pa mor fuan rydych chi'n cwblhau cwrs.
Mae'r cyrsiau wedi'u graddio i safonau Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain ac fe'u lluniwyd gan Gyfeirianwyr Eryri.
Mae pob un o’r tri llwybr yn cychwyn i'r gogledd-ddwyrain o'r brif ardal barcio ac yn gorffen yn y llannerch i'r de-ddwyrain o'r brif ardal barcio.
Mae'r cwrs Oren yn ganolig o ran anhawster ac mae'n addas ar gyfer dechreuwyr sy'n gallu darllen map.
Mae 9 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.
Mae'r cwrs Gwyrdd yn gofyn am gyfeiriannu anodd yn dechnegol ac mae'n addas ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.
Mae 12 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.
Mae'r cwrs Glas yn gofyn am gyfeiriannu technegol ac mae'n addas ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.
Mae 18 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.
Mae angen i chi wneud cais am drwydded am ddim i farchogaeth ceffylau yng Nghoedwig Niwbwrch.
Bydd angen y canlynol:
Parciwch eich bocs ceffylau ym maes parcio Pen Cob. Dyma ddechrau’r llwybrau marchogaeth.
Mae’r ddau lwybr ceffyl yn darganfod ardal hardd ac unigryw Coedwig Niwbwrch.
Mae’r ddau lwybr yn eich arwain drwy gymysgedd o binwydd hen ac ifanc ar hyd llwybrau hawdd, ac yn rhoi’r cyfle ichi ymlacio a mwynhau harddwch y goedwig a’i bywyd
gwyllt.
Mae'r llwybrau yn dilyn rhan o’r hen lôn bost i Ynys Llanddwyn.
Trot y Postmon
Mwynhewch ardal hardd ac unigryw Coedwig Niwbwrch ar gefn ceffyl.
Trot y Goedwig
Darganfod golygfeydd, bywyd gwyllt a threftadaeth ar hyd y llwybr.
Mae twyni Cwningar a thraeth Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol sydd hefyd yn cynnwys ardaloedd mawr o forfa heli a gwastadeddau tywod arfordirol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Mae'r twyni uchel a'r pantiau twyni sy’n gorlifo’n dymhorol (llaciau yw’r new arnynt) yn y fan hon yn ganlyniad i'r dirwedd sy'n datblygu’n barhaus ac a luniwyd gan filoedd o flynyddoedd o stormydd, llanwau a natur.
Mae'r twyni tywod yn gymysgedd gyfoethog o bantiau llaith, glaswelltir a choetir twyni ifanc o helyg a bedw.
Mae’r twyni a arferai symud, wedi ‘sefydlogi’ yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi’u gorchuddio â phlanhigion o ganlyniad i lygredd aer, patrymau tywydd newidiol a llai o gwningod ac anifeiliaid pori.
Golyga hyn ostyngiad enfawr yn y tywod noeth, cynefin sy'n hanfodol i oroesiad rhai o'n planhigion a'n pryfed prinnaf, fel llysiau’r afu petalog a gwenynen durio’r gwanwyn.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydym wedi dechrau ail-greu ardaloedd o dywod noeth ar hyd y morlin gan ddefnyddio peiriannau mawrion ac mae llawer o’r twyni’n cael eu pori â merlod a gwartheg er mwyn cadw llystyfiant y twyni yn fyr ac yn gyfoethog o flodau gwyllt. Arferai cwningod wneud hyn nes bod mycsomatosis yn peri i'w niferoedd ostwng.
Mae Ynys Llanddwyn yn fan sy'n gyforiog mewn treftadaeth, llên gwerin, daeareg a bywyd gwyllt.
Mae'r creigiau ar yr ynys lanw hon ymhlith yr hynaf yng Nghymru - cadwch olwg am y brigiadau nodedig o lafa gobennydd sydd ar y traeth.
Mae Ynys Llanddwyn yn gartref i adfeilion eglwys hynafol sydd wedi'i chysegru i Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Gallwch ddysgu mwy am chwedl Dwynwen ar ein llwybr sain y gallwch ei lawrlwytho i'w ddefnyddio ar y llwybr cerdded ‘Saint, Tywod a Môr’.
Yn ystod misoedd yr haf mae’r twyni wedi’u gorchuddio gan filoedd o flodau lliwgar ac yn eu plith ceir tegeirianau prin ac maen nhw’n fwrlwm o bryfetach ac adar.
Gwrandewch am gân yr ehedydd yn uchel uwchlaw’r warchodfa a thrydar y llwydfronnau, clochdar y cerrig a’r llinosiaid yn y twyni a'r coetir agored.
Yn ystod yr hydref a dechrau'r gaeaf mae’r pibydd coesgoch a'r corgwtiad yn ymuno â’r adar gwyllt mudol e.e. gwyddau Brent, hwyaden yr eithin a’r chwiwell ar y morfa heli a'r aber.
Mae adar fel yr hwyaid llostfain, chwiwellod, corhwyaid a’r cornchwiglod, sy’n dod yma i ddianc rhag gaeafau llymach yr Arctig, yn ymweld â'r pyllau y tu ôl i arglawdd y Cob.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy Niwbwrch.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded parhaus o amgylch arfordir Cymru.
Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i ddarganfod mwy.
Mae Llyn Parc Mawr yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Gall pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn groesi’r twyni tywod ar Mobi-Mat i'w galluogi i gael gwell golygfeydd o'r traeth a'r arfordir.
Mae'r Mobi-Mat wedi'i leoli wrth ymyl maes parcio'r Traeth, ger yr ardal wybodaeth.
Mae'r Mobi-Mat wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu ac mae ei wyneb yn athraidd a fydd yn helpu i atal tywod rhag casglu arno. Gellir ei ailosod yn y dyfodol i addasu i unrhyw newidiadau naturiol yn y tywod symudol sy'n ffurfio'r system twyni tywod yn Niwbwrch.
Gellir llogi cadair olwyn sy'n addas i'w defnyddio ar y traeth yn rhad ac am ddim o faes parcio'r Traeth.
Darperir cadair olwyn y traeth mewn partneriaeth ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn.
Rhaid archebu'r gadair olwyn ymlaen llaw drwy ffonio Wardeiniaid Niwbwrch ar 07816 110188 (o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am tan 5pm).
Mae Llwybr Her Natur Bikequest a Llwybr Beic Corsica yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.
Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.
Rydym wedi cynhyrchu ffilmiau i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallent fod cyn i chi ymweld.
I wylio’r ffilmiau ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol
Caiff deiliaid Bathodyn Glas barcio’n ddi-dâl.
Parciwch yn un o’r lleoedd ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ac arddangoswch eich Bathodyn Glas yn eich cerbyd.
I ymadael â’r safle yn ddi-dâl, sganiwch god bar eich Bathodyn Glas ar yr orsaf talu wrth yr allanfa.
Mae intercom wrth glwyd yr allanfa rhag ofn y cewch unrhyw broblemau wrth adael.
Mae llawer o lwybrau yn y goedwig ac ardaloedd eang o'r traeth lie croesewir cwn drwy gydol y flwyddyn.
Sylwer y cyfyngiadau tymhorol hyn isod.
Ceir panel gwybodaeth a map ym maes parcio’r Traeth sy’n dangos ymhle mae’r cyfyngiadau hyn yn weithredol.
Nid ydym yn trefnu ymweliadau ar gyfer ysgolion na sefydliadau addysg eraill i Niwbwrch.
Os dymunwch drefnu ymweliad addysgol hunandywysedig, gallwn neilltuo lle parcio ar gyfer eich bws mini neu eich bws.
Bydd angen ichi lenwi ffurflen asesu risg a darparu manylion eraill cyn eich ymweliad.
Cysylltwch â ni bythefnos o leiaf cyn eich ymweliad drwy e-bostio Permissions.NorthWest@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn.
Mae'n 13 milltir o Fangor mewn car.
Mae ar fap Explorer 263 yr Arolwg Ordnans.
Y prif orsafoedd rheilffordd agosaf yw Bangor a Chaergybi.
Mae arhosfan trên, ar gais a heb ei staffio, ar gael ym Modorgan, sydd tua phedair milltir o bentref Niwbwrch.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae sawl maes parcio yma.
Enw'r prif faes parcio yw maes parcio'r Traeth.
Parciwch ym maes parcio'r Traeth ar gyfer y traeth, Ynys Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch.
Mae dau faes parcio bychan hefyd (Airman a Chwningar) ar hyd y ffordd fynediad i faes parcio'r Traeth.
Mae’n rhaid talu yn y tri maes parcio hyn.
Y cod post ar gyfer maes parcio’r Traeth yw LL61 6SG.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Cymerwch yr A55 o Fangor i gyfeiriad Caergybi.
Ewch dros Bont Britannia i Ynys Môn a chymryd yr A5 i gyfeiriad Lanfairpwll.
Ar ôl ½ milltir, trowch i'r chwith ar yr A4080, sydd wedi’i arwyddo Niwbwrch.
Dilynwch yr A4080 nes cyrraedd pentref Niwbwrch.
Trowch i'r chwith ar yr isffordd, gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn am 'Ynys Llanddwyn.
Ar ôl ¾ milltir, mae'r ffordd yn cyrraedd rhwystr mynedfa'r maes parcio lle bydd camera ANPR yn darllen rhif cofrestru eich cerbyd.
Mae maes parcio Airman ar y chwith 450 metr ar ôl rhwystr y fynedfa ac mae maes parcio Cwningar 500 metr arall ar y dde.
Mae maes parcio’r Traeth ar ddiwedd y ffordd, tua 1 ¼ milltir o rwystr y fynedfa.
Edrychwch ar faes parcio’r Traeth ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio’r Traeth yw SH 405 634 (Explorer Map 263).
Mae'r toiledau ym maes parcio'r Traeth ar agor un arferol:
Mae fan hufen iâ a fan arlwyo ym maes parcio'r Traeth ar yr amserau hyn:
Nodwch, os gwelwch yn dda, bod yr amserau hyn yn amodol ar y tywyd.
Mae’n rhaid talu i barcio ym meysydd parcio’r Traeth, Airman a Chwningar.
Mae camera Adnabod Plât Rhif Awtomatig (ANPR) wrth rwystr y fynedfa ar gyfer y tri maes parcio sy’n darllen rhif cofrestru eich cerbyd pan fyddwch yn cyrraedd.
Mae’r tâl yn seiliedig ar faint o amser yr ydych wedi parcio:
Gellir talu gyda cherdyn neu arian parod yn rhwystr yr allanfa wrth i chi yrru allan.
Sylwer:
Mae tocyn tymor yn eich galluogi i barcio ym meysydd parcio’r Traeth, Airman a Chwningar.
Mae’r tocyn tymor hefyd yn eich galluogi i barcio yng nghanolfan ymwelwyr Coed y Brenin.
Cost tocyn tymor yw £70 y flwyddyn ac mae’n gymwys ar gyfer dau gerbyd sydd wedi’u cofrestru yn yr un cyfeiriad.
Mae tocynnau tymor yn ddilys am 12 mis o ddyddiad eu prynu.
Bydd rhif cofrestru eich cerbyd yn cael ei ychwanegu at y system fel y bydd y camera ANPR yn ei adnabod yn awtomatig – nid oes angen i chi arddangos eich tocyn tymor pan fyddwch yn ymweld.
Mae tair ffordd i brynu tocyn tymor:
Sylwer:
Gellir cael mynediad i Dywyn Niwbwrch o feysydd parcio Braint a Llyn Rhos Ddu.
Mae’r meysydd parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Y cod post ar gyfer ddau faes parcio yw LL61 6RS.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Cymerwch yr A55 o Fangor i gyfeiriad Caergybi.
Ewch dros Bont Britannia i Ynys Môn a chymryd yr A5 i gyfeiriad Lanfairpwll.
Ar ôl ½ milltir, trowch i'r chwith ar yr A4080, gan ddilyn arwydd Niwbwrch.
Parhewch ar hyd yr A4080 am tua 7 milltir nes cyrraedd y gylchfan ychydig cyn pentref Niwbwrch.
Ewch yn syth ymlaen yn y gylchfan.
Ar gyfer maes parcio Braint trowch i'r chwith yn syth i isffordd ac mae'r maes parcio tua 650 metr ar y chwith.
Ar gyfer maes parcio Llyn Rhos Ddu, ewch yn syth ymlaen ar ôl y gylchfan ar hyd yr isffordd hon am tua 350 metr ac mae'r maes parcio ar ddiwedd y ffordd.
Edrychwch ar faes parcio Braint ar wefan What3Words.
Edrychwch ar faes parcio Llyn Rhos Ddu ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio Braint yw SH 431 643 (Explorer Map 263).
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio Llyn Rhos Ddu yw SH 426 647 (Explorer Map 263).
Mae maes parcio Pen Cob hefyd yn cael ei adnabod fel maes parcio Malltraeth.
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Y cod post yw LL62 5BA.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Cymerwch yr A55 o Fangor i gyfeiriad Caergybi.
Ewch dros Bont Britannia i Ynys Môn a chymryd yr A5 i gyfeiriad Lanfairpwll.
Ar ôl ½ milltir, trowch i'r chwith ar yr A4080, gan ddilyn arwydd Niwbwrch.
Ewch ymlaen trwy bentref Niwbwrch, heibio coetir Llyn Parc Mawr ac mae maes parcio Pen Cob ym mhen 250 metr arall ar y chwith.
Edrychwch ar faes parcio Pen Cob ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 411 671 (Explorer map 263).
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Y cod post yw LL61 6SU.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Cymerwch yr A55 o Fangor i gyfeiriad Caergybi.
Ewch dros Bont Britannia i Ynys Môn a chymryd yr A5 i gyfeiriad Lanfairpwll.
Ar ôl ½ milltir, trowch i'r chwith ar yr A4080, gan ddilyn arwydd Niwbwrch.
Ewch ymlaen trwy bentref Niwbwrch ac ar ôl milltir arall, mae maes parcio Llyn Parc Mawr ar y dde.
Edrychwch ar faes parcio Llyn Parc Mawr ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 413 669 (Explorer map 263).
Gall trigolion Niwbwrch, Dwyran, Llangaffo a Malltraeth wneud cais am bàs preswylydd i gael parcio am ddim yn ein meysydd parcio yn Niwbwrch.
Gall trigolion eraill Ynys Môn brynu tocyn tymor ar gyfer ein meysydd parcio yn Niwbwrch am bris gostyngol o £35 (gweler yr adran tocynnau tymor ar y dudalen hon).
Sut i wneud cais am bàs preswylydd
Mae angen i chi gofrestru eich cerbyd gyda ni i sicrhau bod y camera yn ei adnabod ac yn caniatáu i chi adael y maes parcio heb dalu.
I gofrestru eich cerbyd:
Sut i adnewyddu eich pàs preswylydd
Mae pasys preswylwyr yn ddilys am 12 mis o'r dyddiad cyhoeddi.
Mae'n rhaid i chi gysylltu â ni i adnewyddu eich pàs preswylydd bob blwyddyn.
I adnewyddu eich pàs preswylydd:
Nid oes staff yn Niwbwrch.
Bydd staff yn bresennol yn y tollborth ym maes parcio’r traeth rhwng 9am a 11am ar ddydd Mercher ac ar dydd Sadwrn yn unig. Gall yr aelod o staff drefnu tocynnau tymor a darparu taflenni a mapiau cyfeiriannu.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.