Gwarchodfa Natur Genedlaethol Yr Wyddfa, ger Beddgelert

Croeso

Yr Wyddfa yw copa uchaf mynyddoedd Eryri, yn 1085m (3,560 troedfedd).

Mae’r rhan fwyaf o’r Wyddfa’n Warchodfa Natur Genedlaethol.

Eryri yw unig gartref yn y Deyrnas Unedig i flodyn eiddil lili’r Wyddfa, sy’n tyfu ar wyneb y graig ac mewn cilfachau creigiog. Ymysg y bywyd gwyllt a welir yma mae geifr gwyllt ac adar ysglyfaethus.

Rheolir y warchodfa mewn partneriaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a thirfeddianwyr lleol.

Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld â'r Wyddfa

Mae sawl llwybr sy’n cychwyn o feysydd parcio amrywiol.

Mae’r llwybrau ar yr Wyddfa yn heriol, yn greigiog ac yn serth mewn mannau.

Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas, a gwiriwch ragolygon y tywydd cyn cychwyn.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n rheoli’r maes parcio, y toiledau a’r holl gyfleusterau ar gyfer ymwelwyr.

Cynlluniwch eich ymweliad ymlaen llaw drwy ddarllen yr wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf