Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Pont Cae'n-y-coed yn faes parcio bach ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.
Mae’n fan cychwyn Llwybr Llosgfynydd sydd yn ymweld â nifer o brif nodweddion y goedwig.
Ar un adeg roedd Pont Beili dros dro yma er mwyn cludo coed o’r ochr draw i Afon Mawddach.
Y dyddiau hyn mae beicwyr mynydd a cherddwyr yn defnyddio’r bont newydd fel cyswllt hanfodol i’r tiroedd gwyllt ar ochr ddwyreiniol yr afon.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r llwybr yn dilyn cyfuniad o ffyrdd y goedwig a llwybrau serth a chul sy’n aml yn llai na 50cm o led mewn mannau, ar arwyneb garw, anwastad, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed ar hyd peth o’r tir garwaf dan draed yn y goedwig gyfan.
Mae grisiau i’w cael ar y ddringfa serth i ben Moel Hafod Owen ble gwelwch fainc ar y copa i gael picnic haeddiannol wrth fwynhau’r olygfa.
Os hoffech gael blas ar antur go iawn, gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi’n dda ar gyfer diwrnod hir yn y goedwig.
Mae parc coedwig Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.
Yn ogystal â'r llwybrau sy'n dechrau o Bont Cae'n y Coed, ceir llwybrau cerdded ag arwyddbyst o leoedd hyn ym Mharc Coed y Brenin:
Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae maes parcio Pont Cae'n-y-coed 6 milltir i’r gogledd o Ddolgellau.
Y cod post yw LL40 2LE.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau.
Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r dde ar ôl yr ysgol.
Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd ar y dde gydag afon Mawddach islaw.
Mae'r maes parcio ar y dde tua chwarter milltir i ffwrdd.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 733 250 (Explorer Map OL 18).
Y prif orsafoedd rheilffyrdd agosaf yw Abermaw (rheilffordd Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (rheilffordd Blaenau Ffestiniog-Llandudno).
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin
Ffôn: 01341 440747