Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Mae llwybr beicio mynydd y Gigfran wedi’i ddargyfeirio oherwydd gwaith cynaeafu coed.
Bydd llwybr beicio mynydd Derwen yn cael ei ddargyfeirio o ddydd Llun 4 Rhagfyr o ganlyniad i waith peirianneg sifil.
Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau ac arwyddion dargyfeirio ar y safle.
Maes parcio Byrgwm, sydd nid nepell o bentref Brechfa, yw’r man cychwyn ar gyfer y llwybrau beicio mynydd drwy Goedwig Brechfa.
Gall beicwyr oddi ar y ffordd dibrofiad gael cyflwyniad i feicio mynydd ar Lwybr Derwen sy’n llifo drwy’r coetir derw.
Dyluniwyd Llwybr y Gigfran, sy’n llwybr gradd goch, gan ddau feiciwr mynydd adnabyddus a bydd yn rhoi prawf ar sgiliau beicwyr profiadol.
Mae’r llwybr cerdded yn mynd heibio tyddyn adfeiliedig, sef un o’r nifer o adfeilion yng Nghoedwig Brechfa.
Mae gan y coetir goed Ffynidwydd Douglas anferth ac os ydych chi’n hoff o blanhigion, cadwch lygad allan am wibredyn, marchredyn llydan a llus.
Mae toiledau symudol yn y maes parcio.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r daith hon yn cynnwys golygfeydd o Gwm Cothi, coetiroedd agored gyda ynidwydd Douglas enfawr, mannau tywyllach dan orchudd o fwsogl, lle ceir pyrwydd Norwy a thyddyn gwag.
Yn fuan mae golygfeydd o Gwm Cothi’n agor ar y dde a’i dirlun o ermydd a choedydd.
Ar ôl ychydig yn llai na milltir byddwch yn troi i’r chwith i ddilyn llwybrau coetir deniadol.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Yn nodweddiadol, mae llwybrau gwyrdd ar hyd ffyrdd coedwig neu lwybrau thynnu camlas – ond ddim yng Nghoedwig Brechfa! Y bwriad oedd creu llwybr oedd yn denu’r beiciwr ac yn mwyhau eich synhwyrau gan roi gwir flas o feicio oddi ar y ordd.
Wedi’i enwi ar ôl y coetir derw mae’n troelli drwodd yn ddiymdrech, mae llwybr y Dderwen yn rhoi cyflwyniad unigryw o fyd beicio mynydd i’r beiciwr oddi ar y ffordd dibrofiad.
Yn glynu’n isel at ochrau’r dyffryn, mae’r llwybr yn dechrau’n hamddenol gyda dringfa gyson a disgynfeydd hwyliog. Wrth wau drwy’r goedwig byddwch yn dod ar draws golygfeydd hyfryd a thirwedd lyfn.
Ar ôl un tro yn unig byddwch wedi cael eich hudo ac efallai yn meddwl am roi tro ar yr estyniad glas.
Mae’r estyniad i’r llwybr gwyrdd yn dringo llethr fwy serth cyn mynd ar ddisgyniad cyflymach hirach fydd yn gwneud i’ch calon bwmpio wrth i chi floeddio’r holl ffordd i lawr i waelod y dyffryn.
Yn ogystal mae’r llwybr hwn yn gam ar y ffordd i’r llwybr Gorlech coch mwy technegol sydd yn cychwyn o’n maes parcio yn Abergorlech.
Yn addas i feicwyr hyfedr yn unig, mae’r llwybr yn cymysgu llwybrau unigol, cul, mwy traddodiadol y coetir â disgyniadau serth nodweddiadol Brechfa: llwybr cyflym, tonnog sy’n ysgubo rhwng coed ac yn llifo’n ddolennog i mewn i droedyrdd a dros neidiau.
Mae’r llwybr hwn yn mynd â chi allan i gorneli mwy diddorol y goedwig ac yn creu reid sy’n cynnwys amgylchedd unigryw’r goedwig, o ordoeau mwsoglyd brawychus i Bont Northshore ysblennydd sydd wedi ei chreu o ffynidwydd Douglas.
Ddyluniwyd y llwybr gan Rowan Sorrell a Brian Rumble, a byddwch wedi rhoi eich holl sgiliau ar brawf ar y llwybr hon.
Coedwig Brechfa yw’r enw modern ar ran o Goedwig hynafol Glyn Cothi.
Roedd Coedwig Glyn Cothi’n cael ei rhedeg am ganrifoedd gan bobl leol i ddarparu deunyddiau adeiladu, gwahanol gynhyrchion a thir pori.
Ym 1283, ar ôl i Gymru gael ei gorchfygu’n derfynol gan Edward I, daeth Glyn Cothi’n Goedwig Frenhinol dan weinyddiaeth Cyfraith y Fforest am ganrifoedd lawer.
Ers y dyddiau hynny mae coedwig dra gwahanol wedi tyfu. Yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ailblannwyd Coedwig Brechfa’n goed conwydd gan y Comisiwn Coedwigaeth i hybu cronfa bren Prydain ar ôl y defnydd trwm o bren yn y Rhyfel Mawr.
Heddiw mae Coedwig Brechfa’n gorchuddio tua 6500 hectar ac yn cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd pobl, bywyd gwyllt ac i gynhyrchu pren, ac yn fwy diweddar er mwyn cynhyrchu ynni gwynt.
Mae llwybrau cerdded a beicio mynydd o'r meysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru eraill hyn yng Nghoedwig Brechfa:
Mae Coedwig Brechfa yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae toiledau symudol yn agored bob amser.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Byrgwm 2 filltir i’r gogledd-ddwyrain o bentref Brechfa ar y B4310.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Byrgwm ar fap Arolwg Ordnans (AR) Explorer 186.
Y cyfeirnod grid OS yw SN 544 315.
Mae’r orsaf drên agosaf yng Nghaerfyrddin.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
O’r A40 rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin, cymrwch y B4310 i gyfeiriad pentref Brechfa.
Gallwch barcio am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.