Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystagbwll yn ne Sir Benfro a dyma un o’r lleoliadau mwyaf syfrdanol yng Nghymru.
Mae tirwedd amrywiol y warchodfa yn cynnwys y llynnoedd dŵr croyw a bas yn Bosherston, coetiroedd, twyni, clogwyni carreg galch a thraethau.
Prin yw’r mannau eraill yn y DU sydd â chymaint o amrywiaeth o gynefinoedd a bywyd gwyllt mewn ardal gymharol fach.
Mae’r clogwyni’n dangos daeareg Ystagbwll.
Uwchlaw’r clogwyni mae gwastatir carreg galch a godwyd o wely’r môr tua 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch fand o graig oleuach, olion cywasgedig hen draeth hynafol a ffurfiwyd pan oedd lefel y môr yn llawer uwch.
Mae dau o draethau gorau Sir Benfro – y cildraethau cysgodol yn Broadhaven a Bae Barafundle – hefyd yn y warchodfa.
Mae Ystagbwll yn ardal o laswelltir carreg galch a hen laswelltir twyni hynafol a grëwyd yn ystod y pumed a’r chweched ganrif. Mae’r ardal wedi’i therfynu gan brysgwydd a choetir ac, yn y Gwanwyn, mae’n llawn o sŵn adar yn trydar a blodau a gloÿnnod byw.
Crëwyd Llynnoedd Bosherston mewn dyffrynnoedd yn y garreg galch yn y 18fed a’r 19eg ganrif gan y teulu Campbell o Gastell Cawdor, perchnogion Ystâd Ystagbwll tan 1976.
Mae wyneb tawel y llynnoedd wedi’i addurno â blodau’r lili ddŵr wen yn yr haf, ynghyd â gwelyau o rawn yr ebol, planhigion gwyrdd llachar:mae’r rhain yn tyfu’n arbennig yn y dyfroedd clir fel grisial, llawn calch sydd yma.
Mae Ystagbwll yn fangre ar gyfer amryw o rywogaethau, gan gynnwys un o’r poblogaethau mwyaf ym Mhrydain o’r ystlum pedol mwyaf prin.
Mae’r llynnoedd yn gyforiog o fywyd gwyllt, yn enwedig dyfrgwn, adar dŵr a gweision neidr.
Mae'r clogwyni carreg galch, y twyni a’r glaswelltir morol yn cynnal gwahanol fathau o blanhigion ac anifeiliaid arbennig. Mae’r rhain yn cynnwys cennau bychain sy’n glynu wrth bridd a chraig, amryw o blanhigion blodeuog, pryfed prin a phoblogaethau magu o’r frân goesgoch ac adar môr cytrefol.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar ac sy’n rhedeg y warchodfa mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn rhedeg pedwar maes parcio yn Ystagbwll (Stackpole Quay, Broadhaven Beach, Bosherston Village a Lodge Park) ac ystafell de yn Stackpole Quay.
O fewn ystâd yr Ymddiriedolaeth yn Ystagbwll, mae rhwydwaith helaeth o lwybrau troed a thua 10 km ohonynt yn y warchodfa.Mae yno hefyd wyth milltir o draethau hudolus a phennau clogwyni ar Ystâd Ystagbwll.
Mae gwybodaeth am y warchodfa ac Ystâd Ystagbwll ar gael yn y meysydd parcio a’r ystafell de yn ystod misoedd yr haf.
Mae Gwersyll Dysgu Awyr Agored Ystagbwll, a Chanolfan Ystagbwll gerllaw, yn croesawu grwpiau trefnedig o ymwelwyr ac ymweliadau addysgol drwy drefnu ymlaen llaw.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rheoli’r maes parcio, y toiledau a’r holl gyfleusterau ar gyfer ymwelwyr – ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleusterau ymwelwyr.
Mae Ystagbwll yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Yn ystod y flwyddyn, mae'r dirwedd yn newid yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ystagbwll.
Yn dibynnu ar ba adeg y byddwch yn ymweld â'r safle, rydych hefyd yn debygol o weld gwahanol enghreifftiau o fywyd gwyllt.
Parhewch i ddarllen i gael gwybod beth y gallwch ei weld yma yn ystod y tymhorau gwahanol.
Wrth i'r dyddiau fynd yn hirach, mae'r coetiroedd yn dod yn fyw gyda thegeirianau porffor, briallu a garlleg gwyllt.
Yn y gwelltiroedd a'r twyni tywod, mae golygfa hardd o serennyn y gaeaf a briallu Mair. Mae clustog Fair yn blodeuo ar y clogwyni ac mae gold y gors yn creu clystyrau melyn llachar ar ymyl y llynnoedd.
Mae'r clogwyni yn gartref i lawer o adar y môr, megis brain coesgoch, gwylogod, gweilch y penwaig a hyd yn oed rhai palod.
Efallai y byddwch hefyd yn gweld ystlumod gyda'r nos, neu'n bwyta pryfed dros y llyn.
Mae'r coetiroedd yn gartref i'r glöyn byw brith arian, tra gellir gweld gloÿnnod byw eraill megis y brith gwyrdd tywyll, glas cyffredin a brown ar y gwelltiroedd a'r twyni tywod.
Mae amrywiaeth o flodau gwyllt i'w gweld yn y warchodfa yn ystod yr haf. Mae tegeirian gwenynog, tegeirian smotiog cyffredin a theim gwyllt yn ymddangos yn y gwelltiroedd tra bod y lili dŵr gwyn i'w gweld ar y llynnoedd. Mae clustog Fair yn dal i flodeuo ar y clogwyni, yn ogystal â sampier euraidd a theim gwyllt.
Gellir clywed ehedyddion yn canu uwchben a gellir gweld teloriaid y gors ar y llynnoedd.
Fel yn ystod y gwanwyn, mae'r clogwyni yn frith o adar y môr, o frain coesgoch i wylogod, gweilch y penwaig i balod.
Wrth i'r tywydd oeri, mae'r gwelltir yn frith o ffwng cap cwyr ac mae ffrwythau pinc unigryw yn ymddangos ar y coed gwerthyd.
Mae digon i'w weld yn Ystagbwll yn ystod y gaeaf.
Gyda chwyrwiail lliwgar ar ffin y dŵr, mae'r llynnoedd yn lle da i weld amrywiaeth eang o adar sy'n gaeafu ac adar eraill:
Mae’r cyfleusterau gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am fwy o wybodaeth.
Sylwch:
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rheoli’r maes parcio, y toiledau a’r holl gyfleusterau ar gyfer ymwelwyr – ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac amseroedd agor am y cyfleusterau ymwelwyr hyn.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystagbwll bum milltir i’r de o Benfro.
Mae yn Sir Benfro.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystagbwll ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 36.
Mae’r prif fynediad cyhoeddus i’r warchodfa ar hyd y B4319 rhwng Penfro a Chastell Martin.
Mae ffyrdd bach culion yn arwain o’r B4319 i bedwar maes parcio.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar ac sy’n rhedeg y meysydd parcio hyn.
Mae’r orsaf drên agosaf ym Mhenfro.
Mae arosfannau bysiau yn Stackpole Quay, Broadhaven a Bosherston.
Mae gwasanaeth bws Arfordirol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n mynd o Benfro a phentrefi cyfagos i’r warchodfa (bysiau rhifau 387 a 388).
Yn ystod yr haf, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhedeg bws gwennol yn ôl y galw rhwng meysydd parcio yn Ystagbwll.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar ac sy’n rhedeg y meysydd parcio hyn.
Rhaid talu am barcio.
Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am fwy o wybodaeth.