Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Crymlyn, ger Abertawe

Beth sydd yma

Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion diweddar effeithio'n sylweddol ar ein safleoedd.

 

Rydym yn parhau i asesu'r difrod, ond bydd hyn yn cymryd peth amser.

 

Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer.

 

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.

Croeso

Cors Crymlyn yw ffen mwyaf iseldir Cymru ac mae’r gwelyau hesg a’r corslwyni yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion, adar a phryfed y gwlypdir.

Y ffordd orau o brofi’r Gwarchodfa Natur Genedlaethol yw drwy gerdded ar hyd y llwybrau sy’n cynnwys llwybrau pren drwy ganol y gors.

Cors Crymlyn yw un o’r safleoedd gwlyptir pwysicaf yn Ewrop ac mae’n rhyfeddol ei bod wedi goroesi o ystyried mor agos ydyw at Abertawe ddiwydiannol.

Dros y blynyddoedd, bu’n gymydog i burfa olew, gorsaf bŵer a thip sbwriel, ynghyd â sawl pwll glo a safleoedd diwydiannol eraill, ac eto, arhosodd y gors yn gyflawn a di-nam i bob pwrpas.

Gerllaw mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais, sydd ychydig yn llai, ond ceir llwybr pren yma sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr y Gors

  • Gradd: hawdd
  • Pellter: 1 milltir/1.4 cilometr
  • Amser: ¾ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn dilyn traciau gwelltog gwastad a rhannau o lwybr pren. Mae sawl giât. Cadwch at y llwybrau pren gan fod tir gwlyb peryglus yno.

Mae’r llwybr hwn yn dilyn y llwybrau pren allan i ganol y gors.

Gwrandewch am gân adar y gorsle ar ddechrau’r haf, a chadwch lygad am yr arddangosfa hyfryd o flodau gwylltion yn ystod y gwanwyn a’r haf.

Llwybr y Gors a’r Balŵn

  • Gradd: hawdd
  • Pellter: 1¼ milltir/2.21 cilometr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn dilyn traciau gwelltog gwastad a rhannau o lwybr pren. Mae sawl giât. Cadwch at y llwybrau pren gan fod tir gwlyb peryglus yno.

Mae’r llwybr hwn, sydd ychydig yn hirach, hefyd yn dilyn y llwybr pren, ond mae’n dychwelyd heibio i’r ‘Cae Balŵn’.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dyma ble roedd safle balŵn mawr a osodwyd i geisio atal ymosodiadau o’r awyr gan yr Almaenwyr ar burfa olew Llandarcy – mae’r pwyntiau angori concrit crwn yn dal yn amlwg yn y ddaear.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Cors Crymlyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Corsleoedd gwych i gartrefu adar

Bydd niferoedd mawr o deloriaid amrywiol yn cael eu magu yma – telor y cawn a thelor yr helyg yn enwedig, ynghyd â thelor Cetti, telor y gwair, bras y cyrs a rhegen y dŵr.

Ar ddechrau’r haf bydd y warchodfa’n fwy gan sŵn adar yn canu wrth iddynt sefydlu’u tiriogaeth.

Ymysg ymwelwyr prinnach, a welir fel arfer yn ffeniau Dwyrain Anglia, mae boda’r wern, titw barfog ac aderyn y bwn.

Fe allwch chi hefyd weld y boda, cudyll coch, gwalch glas a’r barcud yn hedfan uwchlaw’r warchodfa.

Lle rhyfeddol i drychfilod

Mae’n hawdd iawn gweld gwas y neidr a’r fursen, sydd mor niferus yma wrth iddynt hofran a gwibio dros ddŵr agored y gors.

Mae ieir bach yr haf yn lluosog yma hefyd, fel y glöyn brwmstan.

Mae corryn mwyaf a phrinnaf Prydain, corryn rafft y ffen, yn byw yma. Dim ond mewn ardaloedd o ddŵr agored y bydd yn byw, felly mae’n annhebygol iawn y gwelwch chi un ohonynt pan fyddwch chi’n ymweld.

Planhigion y gwlyptiroedd

Ymysg y cyrs a’r hesg, gwelir blodau sy’n nodweddiadol o dir gwlyb gan gynnwys y gellesgen felen, pumbys y gors a’r llafnlys mawr.

Chwiliwch am y clystyrau mawr o’r rhedyn blodeuog hefyd, sy’n un o nodweddion hynod Crymlyn.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Pan fyddwch allan ar y ff­en cadwch at y llwybr pren os gwelwch yn dda gan fod tir gwlyb peryglus o gwmpas.
  • Camlas gyda dŵr dwfn – cadwch at y llwybr tynnu, cadwch oddi wrth ymyl y dŵr a pheidiwch â nofio.
  • Gall y llwybr tynnu fod yn fwdlyd mewn tywydd gwlyb – gwisgwch esgidiau sydd â gafael da.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Amseroedd agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Mae bariwn y maes parcio’n cael ei gloi dros nos

Dim ond ar gyfer ymweliadau neu ddigwyddiadau a archebir ymlaen llaw y bydd y ganolfan ymwelwyr yn agor.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Mae maes parcio Cors Crymlyn 1 filltir o ffordd ddeuol yr A483 trwy Abertawe (Ffordd Fabian).

Cod post

Y cod post yw SA1 8LN.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Gadewch yr M4 yng nghyffordd 42 ac ymlaen i'r A483 i ganol dinas Abertawe.

Ewch heibio Campws Bae Prifysgol Abertawe, yna trowch i'r dde ar y gyffordd i faes Parcio a Theithio Ffordd Fabian.

Trowch yn eich ôl yma ac ailymunwch â'r A483 gan deithio yn ôl tuag at yr M4.

Trowch i'r chwith yn syth ar ôl garej wasanaethu BMW ac wrth dafarn y Mile End.

Dilynwch y ffordd hon (Teras y Wern) a throwch i'r dde ar y cyffordd T â Ffordd Tir John.

Dilynwch y lôn gul hon am ½ milltir, gan droi i'r chwith wrth y safle amwynder dinesig, ac mae'r maes parcio ar y dde.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SS 685 942 (Explorer Map 165.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Abertawe.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Mae bariwn y maes parcio’n cael ei gloi dros nos.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf