Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn ar gyfer llwybrau beicio mynydd...
Mae Llwybr Cilgwyn ar gau.
Yn swatio yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, nid yw safle Coed Cilgwyn ymhell o Lanymddyfri ac mae’n hawdd iawn dod o hyd iddo.
Mae gan y coetir tawel hwn gymysgedd bendigedig o wahanol goed, gan gynnwys ffynidwydd Douglas mawr, coed ffawydd hen a sbriws.
Coetir bychan ydyw gyda llwybr cylchol byr ac mae yna ddigonedd i’w weld drwy gydol y flwyddyn.
Yn y gwanwyn, mae clystyrau o glychau'r gog wrth ymyl y llwybr cerdded.
Ar ddiwrnod poeth o haf ceir rhywfaint o gysgod brith ar hyd y llwybr cerdded drwy’r coetir, gydag arogl conwydd yn yr aer.
Os dewch draw yn yr hydref, bydd y coetir yn llawn cysgod tymhorol wrth i ddail y coed ffawydd droi eu lliw.
Wrth i’r dail ddechrau disgyn yn ystod y misoedd oerach, maent yn gorchuddio’r llwybr cerdded gyda charped crin – perffaith ar gyfer tro iachusol yn y gaeaf.
Ceir arwyddbyst ar y llwybr cerdded ac mae’n cychwyn ar ffordd y goedwig wrth fynedfa’r coetir.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Llwybr cylchol ag arwyddbyst yw Llwybr Cilgwyn, ac er ei fod yn weddol fyr mae’n dringo’n gyson a cheir ambell ran serth.
Mae’n cychwyn ar ffordd y goedwig, sy’n dringo’n gyson. Ceir golygfeydd eang dros diroedd fferm.
Yna, mae’n troi ar lwybr glaswelltog cul drwy’r coetir. Mae’r llwybr hwn yn ymdroelli heibio coed ffawydd a chonwydd urddasol wrth ddringo’n gyson at y pwll dŵr, lle y ceir mainc yn y llannerch gysgodol.
Yna, mae’r llwybr yn croesi ffordd y goedwig ac yn dilyn llethr o hen goed ffawydd, sy’n llawn o glychau’r gog yn y gwanwyn, cyn arwain yn ôl i lawr at y man cychwyn ar ffordd y goedwig.

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Coed Cilgwyn 3 milltir i’r de-orllewin o Lanymddyfri.
Ewch ar hyd yr A4069 o Lanymddyfri i Langadog.
Ar ôl milltir, trowch i’r chwith ar hyd ffordd ddi-ddosbarth gyda’r arwydd Myddfai, ac ewch yn eich blaen am filltir arall.
Wrth y gyffordd, ewch yn syth yn eich blaen, ac ar ôl 1¼ milltir fe welwch fynedfa Coed Cilgwyn ar y chwith, yn syth ar ôl Fferm Maenordy Cilgwyn.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer yr ardal barcio yw SN 744 297 (Explorer Map OL 12).
Y cod post yw SA19 9LF. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Llanymddyfri.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Gallwch barcio mewn ardal fach ar bwys mynedfa'r goedwig.
Cofiwch barcio’n ofalus gan adael agoriadau’r gatiau’n glir i breswylwyr ac i roi mynediad brys i’r coed.
Mae’r parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.